Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/530

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

egryn; H. Lloyd, ac I. Thomas, Towyn; O. Thomas, Talybont, ac S. Edwards, Machynlleth. Gadawodd weddw ac un plentyn ar ei ol, ac y mae y weddw wedi ei chladdu bellach er's blynyddau, ond y mae."Tad yr amddifaid" wedi gofalu am ei unig ferch.

ABERDYFI.

Tref fechan brydferth ar lan y mor yn nghwr De-orllewinol i'r sir ydyw Aberdyfi. Mae yn un o'r lleoedd mwyaf swynol yn Ngogledd Cymru, ond hyd yn ddiweddar iawn nid oedd gan yr Annibynwyr yr un man i dderbyn aelodau eu henwad a ddeuai yma. Elai ambell un i Dowyn ar Sabboth cymundeb, ond aeth llawer eraill o bryd i bryd at y gwahanol enwadau oedd yma eisioes. Yn y flwyddyn 1839, wedi i Mr. William Roberts ddechreu ei weinidogaeth yn Mhennal, sefydlodd ei lygaid ar Aberdyfi, fel lle y dylasai fod achos ynddo gan yr Annibynwyr. Ymgynghorodd Mr. Roberts a Mr. Lloyd, Towyn, ond gan ei fod yn orochelgar, ni roddodd un gefnogaeth i'w gyfaill ieuangc; ond nid gwr i'w droi heibio felly oedd Mr. Roberts, ond heb betruso dim ymofynodd am le y gallasai gadw oedfa ynddo. Agorodd Thomas Walter ddrws ei dŷ iddo, a phregethodd yno am y waith gyntaf Mawrth 9fed, 1840, i lonaid y tŷ o wrandawyr astud. Addawodd ddyfod drachefn yn mhen y pythefnos, ond dymunodd y bobl arno ddyfod yn mhen wythnos, felly fu, a pharhaodd i ddyfod yma yn wythnosol dros dymor. Cynygiwyd iddo gapel y Methodistiaid, a chapel y Wesleyaid i bregethu ynddo, ond gwrthododd eu cynygion caredig, am fod yn ei fryd i godi achos Annibynol yn y lle. Cymerwyd ystafell yn nhŷ Evan Rowlands, Cigydd, am yr ardreth blynyddol o ddeg-swllt-ar-hugain. Wedi dechreu pregethu yn yr ystafell hon, cadwyd cyfeillachau ar ol yr oedfaon, a thueddwyd rhai o'r gwrandawyr i aros ar ol, fel yr oedd yma yn mhen ychydig o wythnosau gryn nifer o ddychweledigion. Penderfynwyd ffurfio eglwys yma, yr hyn a wnaed Awst 23ain, 1840, a derbyniwyd pymtheg o'r newydd yn gyflawn aelodau. Cynyddodd yr achos yn gyflym, fel erbyn y mis Mai canlynol yr oedd rhifedi yr aelodau yn ddeg-ar-hugain. Bu Thomas Walter, ac Evan Rowlands, a'u teuluoedd, ac eraill, yn hynod garedig i'r achos, a dangosodd Thomas Anwyl, Dyffryngwyn, diacon gyda Mr. Lloyd yn Towyn, lettygarwch cynes i'r rhai a ddeuai yma i bregethu.[1]

Yn yr adeg obeithiol yma ar bethau, derbyniodd Mr. Roberts alwad of Llanrhaiadr a Phenybontfawr, a symudcdd yno, yr hyn oedd yn siomedigaeth ddirfawr i'r achos ieuangc yma yn arbenig. Wedi ymadawiad Mr. Roberts, gan nad oeddynt yn cyduno a Phennal yn eu dewisiad o Mr. Grey Evans, rhoddasant eu hunain dan ofal Mr. Evan Griffith, Llanegryn, yr hwn a ddeuai atynt yn fisol, ond oblegid pellder ffordd, nid oedd Mr. Griffith yn gallu rhoddi y sylw a ddylasai achos newydd gael. Rhoddodd Mr. Griffith hwy i fyny, a chymerodd Mr. Grey Evans eu gofal, a bu yn nodedig o ffyddlon yn gofalu am danynt. Barnwyd fod yn angenrheidiol cael capel newydd, a chafwyd tir i'w godi arno gan Mr. Thomas Lewis, Glasbwll. Agorwyd ef rywbryd yn 1845, nis gallasom gael y dyddiad, ond dywedir mai Meistri S. Roberts, a J. Roberts, Llanbrynmair, ac O. Thomas,

  1. Llythyr Mr. W. Roberts.