Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/531

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Talybont, a bregethodd ar yr achlysur. Yr oedd yr hen efengylwr teithiol, Richard Jones, Llwyngwril, wedi pregethu ynddo unwaith cyn diwrnod yr agoriad cyhoeddus. Bu Mr. Evans yn ffyddlon a llwyddianus i gasglu er talu dyled y capel, a chafodd Mr. Micha Jones, Cefnerib, Pennal, yn gynorthwywr ffyddlon. Talwyd yr holl ddyled, ond 20p. oedd yn ddyledus i Richard Jones, Llwyngwril. Arferai Richard Jones bregethu yma yn fisol, a gofynodd am ganiatad i fyned i gasglu yr 20p. i bob lle y cai dderbyniad. Aeth yn nghyd a'r gorchwyl, gan eu casglu bob yn ddimai—ni fynai ond dimai gan neb at yr amcan, a chyn pen ychydig amser yr oedd yr 20p. oll wedi eu casglu, a'r ddyled felly wedi ei chwbl dalu. Dirywiodd yr achos gryn lawer rhagor y peth a fuasai unwaith, a chododd ryw anghydwelediad rhwng Mr. Grey Evans a'r eglwys yma, a rhoddodd ef y lle i fyny, a chymerodd Mr. Lloyd a Mr. Thomas, Towyn, y gofal yn Medi, 1851, ac mewn cysylltiad a gweinidogaeth Towyn a Bryncrug y bu hyd Mai, 1864. Pedwar oedd yn cymuno yma pan ddechreuodd Mr. Thomas, Towyn, yma yn 1851, gan mor isel yr oedd yr achos wedi disgyn, ond gwelodd hwy wedi hyny yn fwy na thriugain-a-deg. Unodd yr eglwys yma a Pennal i roddi galwad i Mr. William Perkins, yn 1865, ac y mae yr undeb yn para rhwng y ddwy eglwys ag yntau etto, a'r anwyldeb yn ymddangos yn cryfhau. Mae y lle y saif y capel presenol arno yn dra anghyfleus, ac y mae llawer o gynllunio a bwriadu wedi bod at gael capel newydd mewn lle mwy manteisiol, a hyny a wneir os caniata Duw. Mae yma eglwys fywiog a gweithgar, yn rhifo tua thri—ugain o aelodau. Y diaconiaid presenol ydynt Meistri J. H. Jones, J. Roberts, ac H. Pugh. Nid ydym yn gwybod fod un pregethwr wedi codi yma, ac am y gweinidogion a fu mewn cysylltiad a'r eglwys hon, y rhai sydd wedi marw, yr ydym eisioes wedi crybwyll am danynt yn nglyn a Thowyn a Pennal.

LLWYNGWRIL.

Mae enw y lle bychan hwn yn adnabyddus iawn yn Nghymru, yn nglyn a'r hen bregethwr parchus Richard Jones, Llwyngwril, ac y mae hanes cychwyniad yr achos yma yn gymhlethedig a'i hanes personol ef. Yr oedd Richard Jones wedi bod yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond oblegid i'w frawd William wneyd rhywbeth, fel y tybid, yn galw am gerydd, tramgwyddodd y teulu ac ymadawsant a'r enwad. Dywed Lewis Morris, yr hwn oedd yn adwaen Richard Jones o'i febyd, nad oedd dim amgen na da i'w ddyweyd am dano, ond iddo deimlo oblegid y tybiai fod ei frawd yn cael cam. Ar ol hyn gwahoddodd Richard Jones Mr. H. Pugh, o'r Brithdir, i ddyfod yma i bregethu, a dyna gychwyniad yr achos yn y lle. Ffurfiwyd yma eglwys yn y flwyddyn 1805, a chadwyd y cymundeb cyntaf gan Mr. W. Hughes, Dinas. Nid oedd nifer y rhai a ymunent ond chwech, ac yr oedd Richard Jones, a Lewis Evans, Bwlchgwyn, a'i wraig, (tad a mam Mr. Evans, Llangollen,) yn eu plith. Daeth Lewis Pugh, Llanwrin yma i gadw ysgol yn fuan, a bu hyny yn gynorthwy i'r achos yn ei wendid. Ar sefydliad Mr. James Griffith yn weinidog yn Machynlleth, cymerodd ef ofal y gangen fechan yma, ac yn ei amser ef yn 1810, y codwyd yma gapel bychan. Nid oedd ganddynt hyd yn hyn ond ystafell wael at addoli. Bu y lle yma wedi hyny dan yr un weinidogaeth a'r