Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/532

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Towyn yn amser Mr. Morgan a Mr. Lloyd, ond pan y gwelodd Mr. Lloyd fod y maes yn rhy eang iddo, unodd Llwyngwril, Llanegryn, a Llanfihangel i roddi galwad i Mr. Evan Griffith, yr hwn a urddwyd Ionawr 3ydd, 1836, a bu yma hyd nes y penderfynodd ymfudo i America. Dilynwyd ef gan Mr. John Owen, ac wedi hyny, gan Mr. Robert P. Jones, ac yn nhymor gweinidogaeth yr olaf a enwyd, addrefnwyd a phrydferthwyd y capel, fel y mae yn awr yn wahanol iawn i'r peth y gwelwyd ef. Rhoddodd Mr. Jones y lle i fyny yn ddiweddar, gan anog yr eglwys yma i uno ag Arthog i gael gweinidog iddynt eu hunain, a rhoddwyd galwad i Mr. Peter Davies, myfyriwr o athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd Mai 9fed, 1871. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae cryn dipyn o adfywiad wedi bod ar fasnach, a chynydd ar y boblogaeth yma wedi agoriad y ffordd haiarn, ac nid yw hyny wedi bod yn anfantais i'r achos. Bu teulu Bwlchgwyn yn gefn cryf i'r achos yma am flynyddau lawer, ac er fod ganddynt bedair milldir o ffordd, anaml y byddai cyfarfod yn y capel heb rai o'r teulu ynddo. Yr oedd Richard Jones yn gynorthwy mawr i'r achos yma yn y cyfeillachau crefyddol cyn iddo ddechreu teithio y wlad i efengylu, ond ar ol hyny nis gallesid dibynu arno, oblegid mai anfynych y byddai gartref. Bu Mr. H. Pugh, o Fostyn yma yn cadw ysgol pan yn ieuangc, ac oddiyma yr aeth i Bethel i gadw ysgol, ac i weinidogaethu, lle y llafuriodd am un-mlynedd-ar-ddeg.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Richard Jones, Llwyngwril
ar Wicipedia

RICHARD JONES, hyd y gwyddom, oedd yr unig un a godwyd yma i bregethu. Ganwyd ef yn y gymydogaeth yma, ac yr oedd ei rieni John a Gaynor Williams yn byw mewn tyddyn a elwir Tydu, ac fel Richard Jones, Tydu, yr adnabyddid ef yn ei wlad. Yr oedd rhyw hynodrwydd ynddo er yn fachgen, ond yr oedd yn hynod o anfedrus yn mhob gorchwyl yr ymaflai ynddo. Ni bu dyn erioed yn fwy dielfydd at bob gwaith. Gosodwyd ef gyda'i frawd i ddysgu bod yn grydd, a bu yn dilyn yr alwedigaeth hono am flynyddau, ac yn mynychu ffeiriau i werthu yr esgidiau a wnai, y rhai a gyfrifid yn wastad y rhai salaf ar y farchnad. Ond yr oedd gallu o fath arall yn Richard Jones—mewn egluro yr Ysgrythyrau—mewn cynghori a gweddïo mewn cyfeillachau a chyfarfodydd—ac mewn cof i ddal y pregethau a wrandawai, a medr i'w hadrodd, rhagorai ar ei holl gymydogion. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1817, ac o hyny allan, i bregethu y cwbl ymroddodd. Yr oedd wedi darllen pob llyfr Cymraeg a ddaeth i'w gyrhaedd, yn enwedig llyfrau Ysgrythyrol a duwinyddol, ac yr oedd yn mynu deall yr hyn a ddarllenai. Y pyngciau hyn fyddai prif destynau ei ymddiddanion lle bynag yr elai. Ni bu yr un pregethwr teithiol erioed yn Nghymru yn ymyraeth llai a materion rhai eraill, ac ofer hollol fuasai i neb ei holi gan ddisgwyl gwrachiaidd chwedlau ganddo. Nid angel newyddion drwg ydoedd yn myned trwy y wlad, ond un "yn efengylu pethau daionus." Yr oedd wedi myfyrio y "system newydd," fel ei gelwid, yn dda, a byddai yn wastad yn prophwydo yn ol "cysondeb y ffydd." Yr oedd ei dafod yn floesg, fel na allasai swnio rhai llythyrenau yn gywir, ac yr oedd hyny weithiau yn peri digrifwch mawr i rai pobl ysgafn a chellweirus. Ni theimlasom ni erioed wrth ei wrandaw fod ei dafod mor floesg ag y darlunir ef gan rai sydd yn ei adrodd, ond dichon fod hyny yn cyfodi oddiar fod ei bethau yn ein boddio mor fawr. Yr oedd ei bregethau yn llawn o feddwl, ac wedi eu parotoi yn gryno, a threfnus, gyda detholiad o eiriau chwaethus, ac ambell air digrifol ar brydiau. Traddodai yn fywiog a chyflym, ac yr oedd rhyw oslef dyner, swynol yn