Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/533

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei lais, ac erioed ni chwynwyd ei fod yn blino ei wrandawyr a meithder. Gan mai fel pregethwr teithiol y daeth Richard Jones yn adnabyddus i eglwysi Cymru, rhoddwn y difyniadau canlynol o'r benod ar ei gymeriad fel y cyfryw, yn y cofiant dyddorol iddo, a gyhoeddwyd gan ei hen gyfaill, Mr E. Evans, Llangollen. "Cyn cychwyn i'w daith, efe a ragofalai yn eithaf prydlawn am bod angenrheidiau iddi. Astudiai a chyfansoddai nifer digonol o bregethau, gan eu trysori yn dda yn ei gof mawr, ac yn gyffredin efe a'u traddodai yn gyntaf gartref, fel y byddent yn ddyfnach yn ei feddwl, ac yn rhwyddach ar ei dafod. Byddai yn lled hoff o'u traddodi cyn cychwyn mewn pentref bychan tlawd o'r enw Y Friog, o fewn dwy filldir i Lwyngwril, hen boblach druain na byddent yn myned i addoliad ond anfynych. Gofalai am wisg addas erbyn diwrnod y cychwyn, er na pharhraai hono ond ychydig yn ei harddwch. Gofalai hefyd am dynu cynllun o'i daith, ac anfon ei gyhoeddiadau i'w priodol leoedd. Ar y dydd penodol, dacw ef yn cychwyn i'w ffordd, a'i got fawr dan ei gesail, a'i ffon yn ei law, a chan sythed a phe buasai wedi bod yn sawdwr am ugain mlynedd, ac mor heinyf ar ei droed a llangc. Nid oedd ganddo na gwraig na phlant i ysbio yn hiraethlawn ar ei ol, nac achos bydol i'w ymddiried i ofal neb. Cyrhaeddai ben ei daith yn brydlawn a chysurus, ni chyhuddid of un amser o fod yn hwyr yn dyfod at ei gyhoeddiad. Ar ol cael ei luniaeth, eisteddai yn nghongl yr aelwyd gyda'r fath sirioldeb a boddlonrwydd meddwl, fel pe na wybuasai am ddim gofid yn ei oes, oddieithr, fe allai, y buasai wedi bod yn rhedeg y diwrnod hwnw am ei fywyd rhag ryw fuwch, gan dybied mai tarw ydoedd. Difyrai ei hun a rhagfyfyrdod ar y bregeth a fwriadai ei thraddodi. Mynai sicrwydd am yr amser y cyhoeddid fod y moddion i ddechreu. A phan y tybiai fod yr amser hwnw yn agosau, taflai ei olwg yn awr ac eilwaith ar yr awrlais, a phan ddeallai ei bod yn amser priodol gychwyn, dyma ef ar ei draed, ac ymaith ag ef. Aroswch, Richard Jones, aroswch dipyn etto, eisteddwch, y mae yn ddigon buan, ni ddaw yma ddim pobl y rhawg etto." Dyma fi yn myn'd,' meddai yntau, 'dewch chwi amther a fynoch chwi, dechddau 'naf fi yn yr amther.' Ofer fyddai ei berswadio aros wrth undyn - ffwrdd ag ef yn ddiymdroi. Wedi myned o hono i'r addoldy, eisteddai ronyn bach i gael ei anadl, oblegid yr oedd yn wr tew a chorphol. Codai ei' olwg ar yr areithfa, ac os digwyddai ei bod yn lled uchel, dywedai, "Daf fi ddim yna, ni dda gen i mo'dd pulpudau uchel yma, rhyw felldith ydyn' nhw; mae dynion yn gwiddioni wrth wneyd capeli - bydd fy mhen i yn tyddoi ynddyn' nhw, wfft iddynt. Tyr'd fachgian, ceithia y blocyn yna i mi dan fy nhraed."Dyna fo, Richard Jones.' Yna efe a safai arno a'r Bibl ar y bwrdd o'i flaen. Agorai ef, nid ar antur, eithr ar ryw fan benodol ynddo a ragfwriadasai efe ddarllen. Darllenai y benod neu y Salm gan ei hesbonio wrth fyned yn mlaen. Addefir mai darllenydd go anghelfydd ydoedd, fel y buasai yn hawdd blant yr Ysgol Sabbothol ganfod ei wallau yn hyn, a mynych y gwelid bechgyn ieuangc yn cilwenu ar eu gilydd wrth ei glywed yn darllen. Ond os nad oedd efe yn gampus am ddarllen, edryched pawb ati pan elai esbonio, oblegid buan iawn yr anghofid ei ffaeleddau yn darllen, gan eglurdeb a gwerth ei esboniad ar Air Duw. Pwy bynag ni byddai yno yn nechreu y cyfarfod, byddai yn dra sicr o fod yn golledwr, canys yr oedd cymaint o adeiladaeth yn fynych i'w gael yn ei esboniad ef ar yr hyn a ddarllenai, ac a geid yn ei bregeth. Ar ol myned trwy hyn, rhoddai benill allan. Ac os digwyddai na byddai y canwr yno yn brydlawn at ei