Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/534

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

waith, hwyliai ef y mesur ei hunan. Ar ol diweddiad y mawl, 'Yddwan,' meddai, 'ni awn ychydig at wrandawwdd gweddi.' Gweddiai yn ddifrifol, cynwysfawr, gwresog, ac yn fyr-eiriog. Byddai ganddo rhyw fater neillduol bob amser ynddi, a byddai yn hynod yn ei sylw o ryw amgylchiadau a fyddai yn fwy pwysig na chyffredin yn ngoruchwyliaethau Duw at y byd a'r eglwys. Byddai ei deimlad weithiau yn ei orchfygu. Ar ol hyn rhoddai benill drachefn, a phan y gorphenid ei ddatganu, eisteddai pawb gan ddisgwyl clywed y testyn. Hysbysai a darllenai ef, gan ddangos ei gysylltiadau, a'i egluro i'r gynnulleidfa. Yr oedd yn gampus am hyn. Medrai ef amlygu ei olygiad arno mewn ychydig eiriau, oblegid nid ydoedd un amser yn amleiriog. Yna drachefn crybwyllai y materion a gynwysid yn ei destyn, mewn modd eglur, dirodres, a naturiol iawn. Ei raniadau ar ei destyn oeddynt yn gyffredin yn dlysion a tharawiadol. Byddai ymddangosiad yn rhoddi argraff ar ei wrandawyr ei fod yn feistr ar bwngc, a'i fod yn teimlo hyfrydwch yn ei waith. Yr oedd ganddo ddull priodol iddo ei hun yn yr hyn oll a wnai, ac ni bu erioed yn amcanu at ddynwarediad o neb mewn dim. Yr oedd rhyw bethau yn ei ddull yn pregethu a barai weithiau i rai ysgeifn chwerthin wrth ei wrandaw, ac yn wir, gormod camp fyddai wyr go ddifrifol hefyd beidio gwenu wrth glywed yr hen Ddoctor ; ond pob un ystyriol a esgusodai yn rhwydd y diffygion diniwaid hyny, oherwydd yr adeiladaeth a'r hyfrydwch geid dan ei weinidogaeth. Wrth ddybenu ei bregeth, dywedai, gan symud y Bibl, a'i ddodi ar y faingc o'r tu ol iddo, 'Yddwan, ni nawn ychydig o gathgliadau,' y rhai bob amser fyddent yn naturiol ac i bwrpas. Edryched y canwr ato ei hun, oblegid gyda'i fod yn dyweyd y gair olaf yn bregeth, dyna'r penill allan yn ddisaib, oblegid ni byddai ganddo un saib rhwng ei Amen a'i benill, a phrin iawn y cai un synwyr ato i chwilio am fesur priodol ; ond yr oedd yn hawdd i'r canwr faddeu iddo ffaeleddau bach fel hyn, gan mor dda y pregethai."

Gwnai deithiau rheolaidd fel hyn trwy Dde a Gogledd, am ddeng-mlynedd-ar-hugain, ac yr oedd derbyniad croesawgar iddo ba le bynag yr elau. Ond daeth ei ddyddiau teithio i ben, a nesaodd ei awr yntau i farw, ac ni chafodd ond byr gystudd. Awgrymasai ychydig cyn ei farw, fod awr ei ymddatodiad yn ymyl, ond yr oedd yn gwbl foddlawn i ewyllys yr Arglwydd. Gofynai ei chwaer iddo pan yn agos angau, " Dic bach, leicet ti fyw dipyn etto gyda ni ?" "Dim o bwyth," ebe fe. "A fyddai yn well gen' ti farw?" "Wel y gwelo Fo'n dda," ebe yntau. Arswydai groesi rhyd fechan dros bontbren yn ei fywyd, ond aeth trwy lifeiriant afon angau heb fraw nac arswyd, a bu farw mewn tangnefedd, Chwefror 18fed, 1853, yn 73 oed.

"Hiraeth gyfyd wrth gofio
I ddu fedd ei guddio fo."

HOREB, ARTHOG

Yn mis Mai, 1863, symudodd teulu o Ddyffryn-Ardudwy, y rhai oeddynt Annibynwyr, i'r Bwlchgwyn i fyw. Yr oedd llawer o bregethu wedi bod yn Bwlchgwyn yn nyddiau Lewis Evans, tad Mr E. Evans, Llangollen, ond ni wnaed un cynyg ar sefydlu achos yma. Wrth weled fod gweithiau llechfeini yn cael eu hagor yn yr ardal, gwelwyd fod yr amser