LLANFIHANGEL
Arferid pregethu mewn amaethdy o'r enw Tyno, ryw dair milldir o'r Llan, cyn dechreu pregethu yma. Mr Lloyd, Towyn, oedd yn gofalu am y lle ar y pryd. Adeiladwyd y capel yma yn 1821, ac adgyweiriwyd ef yn 1839. Mae y lle o'r dechreuad wedi bod yn nglyn a Llanegryn, ac felly y mae yn parhau. Bu pregethu rheolaidd am flynyddoedd mewn capel bychan yn Nhalyllyn, pan oedd Mr Griflith Evans yn byw yn Maesypandy, ond nid ydym yn deall i'r enwad Annibynol gael meddiant o hono erioed, a phan y darfu cysylltiad y gwr hwnw a'r enwad, darfu y pregethu gan yr Annibynwyr yn y capel. Mabwysiadodd Mr Evans syniadau y Plymouth Bretheren, a llwyddodd i dynu rhai dysgyblion yn y wlad yma ar ei ol. Magodd deimlad gwrth-weinidogaethol mewn cryn lawer o bersonau, a bu raid i'r achos yn Llanfihangel ymladd yn erbyn yr ysbryd hwnw, ac ni ddiangodd heb dderbyn niwed ar y pryd oddiwrtho. Llawen genym ddeall fod olion yr ysbryd gwenwynig hwnw wedi ei olchi ymaith.
ABERGYNOLWYN,
"Nid oedd gan yr Annibynwyr yr un achos yn y lle yma hyd yn ddiweddar, a chydag agoriad y gweithfeydd yma, a chynydd poblogaeth y lle, symudiad llawer o Annibynwyr i'r ardal, teimlid y dylesid gwneyd cynyg ar sefydlu achos yma. Ymgymerodd y gweinidogion cymydogaethol, gyda chefnogaeth y cyfarfod chwarterol, a'r gorchwyl, a phrynwyd hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn y Cwrt, lle sydd yn gydiol bron ag Abergynolwyn. Mae y capel yn rhyddfeddiant i'r enwad er Ionawr 25ain, 1868, ac y mae golwg addawol iawn ar yr achos ynddo. Y mae y lle dan ofal gweinidogaethol Mr. Jones, Llanegryn, a thrwy eu bod yn cael gweinidogaeth reolaidd, a'r eglwys fechan yn weithgar, ni bydd y ddyled sydd ar capel yn hir heb ei chwbl ddileu."
CORRIS
Dechreuwyd yr achos hwn mewn amaethdy a elwir Rhiwgwreiddyn, o fewn milldir a haner i'r lle yma, ar y ffordd i Fachynlleth. Preswylid y lle ar y pryd gan Mr Hugh Pugh, ac yr oedd ei wraig, Mrs Gwen Pugh, yn aelod yn nghapel y Graig, Machynlleth. Oblegid pellder y ffordd i'r dref, meddyliodd teulu Rhiwgwreiddyn am gael Ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol yn eu ty, a dechreuwyd ar hyny yn ddioed, ac elai Mr Morgan, Machynlleth, yno i bregethu mor aml ag y gallai. O gylch y flwyddyn 1824, adeiladwyd capel bychan ar ddarn o dir a roddwyd gan Mr Hugh Pugh, Rhiwgwreiddyn. Galwyd ef Achor. Yn fuan ar ol dechreu yr achos yma derbyniwyd Mr Pugh yn aelod, a pharhaodd yn ffyddlon hyd ei farwolaeth, ac yr oedd ei wraig, yn arbenig, yn hynod garedig i'r achos, a llettygar i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Bu mab iddynt, Mr William Pugh, yn byw yma dros ychydig wedi marw ei rieni, ac yn ofalus iawn am yr achos, hyd nes y symudodd i gymydogaeth y Drefnewydd, ond er symud arferai am flynyddau gyfranu £5 yn y flwydd-