yn at yr achos yn Achor. Merch Rhiwgwreiddyn ydyw Mrs Evans, Hengae, Aberllefeni, ac y mae ysbryd llettygar hen deulu Rhiwgwreiddyn yn aros yn Hengae.[1] Bu gofal Achor ar Mr Morgan, hyd nes yr ymadawodd a Machynlleth yn 1836. Yn 1837, cymerodd Mr John Parry ofal y lle mewn cysylltiad a Machynlleth, ond yn mhen ychydig gyda blwyddyn rhoddodd Achor a Phennal i fyny, ac unasant hwythau i roddi galwad i Mr William Roberts, yr hwn a ddaeth yma yn nechreu 1839, ac a fu yma yn ymdrechgar, nes y symudodd i Benybontfawr yn 1841. Daeth Mr Grey Evans yma cyn diwedd y flwyddyn hono, ond rhoddodd ef y lle i fyny, er cymeryd gofal Aberdyfi, a bu Meistri John Parry, a William Davies yn gofalu am y lle yn olynol, mewn cysylltiad a Salem, Machynlleth. Parhau yn wan yr oedd yr achos yn Achor trwy y blynyddoedd, ac yr oedd ei bellder oddiwrth y chwarelau, lle yr oedd lluaws y boblogaeth, yn gwneyd nad oedd fawr o obaith am gynnulleidfa gref yno' ac oblegid hyny, yn 1851, penderfynwyd gwerthu hen gapel Achor, a symud yr achos i Corris, i ganol y boblogaeth. Cymerwyd yma ystafell am ddeng mlynedd o dan ardreth flynyddol. Hen Lodge perthynol i'r Odyddion oedd yr ystafell, ond ad-drefnwyd hi, a gwnaed un ran o honi yn dy anedd, a'r rhan arall yn lle i bregethu, ac ar y 27ain a'r 28ain o Fedi, 1851, cadwyd yma gyfarfod i agor y lle, pryd y gweinyddwyd gan Meistri W. Davies, Machynlleth ; E. Stephen, Dwygyfylchi; I. Thomas, Towyn; R. Ellis, Brithdir, ac S. Edwards, Machynlleth. Yn fuan wedi dechreu yn Nghorris, unodd yr eglwys a Pennal i roddi galwad i Mr David Evans, o Sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 17eg, 1853. Tua dwy flynedd yr arhosodd yma, canys dychwelodd i Sir Gaerfyrddin. Bu yr eglwys am ysbaid ar ol ymadawiad Mr Evans heb sefydlu ar weinidog. Rhoddwyd galwad i Mr Richard Hughes, Gwalchmai, Mon, ond gwrthododd gydsynio. Yn niwedd 1857, rhoddwyd galwad i Mr William Rees, o Lanrhaiadr-yn-Mochnant, ac urddwyd ef Ionawr 3ydd, 1858. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr R. Ellis, Brithdir ; holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr C. Jones, Dolgellau ; pregethodd Mr W. Roberts, Penybontfawr, i'r gweinidog, a Mr S. Edwards, Machynlleth, i'r eglwys. Yr oedd sefyllfa wanaidd iechyd Mr Rees, a'r mynych gystudd oedd yn ei deulu, yn anfantais fawr iddo gydag achos mewn lle newydd, i weithio yn erbyn anhawsderau, ond yr oedd yn dderbyniol a chymeradwy gan yr holl ardalwyr. Bu yma hyd 1866, pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol, a bu farw yn fuan ar ol hyny. Y flwyddyn ganlynol i ymadawiad Mr Rees, rhoddwyd galwad i Mr John C. Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, urddwyd ef yn Aberllefeni, Ebrill 19eg, 1867; ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr R. Thomas, Llanuwchllyn ; holwyd y gofyniadau gan Mr R. Ellis, Brithdir ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr H. T. Parry, Abersoch ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr J. Jones, Machynlleth. Yr oedd yr achos yma wedi casglu nerth yn raddol, ac yr oedd teimlad cryf er's blynyddoedd y dylesid cael gwell lle addoli na'r hen ystafell yn Mhenygraig, ac ar ol sefydliad Mr Williams, penderfynwyd myned yn nghyd a'r gorchwyl o ddifrif. Rhoddwyd lle cyfleus i adeiladu arno yn rhad gan Mr D . Morgan, Machynlleth, ac nid hyny yn unig, ond cyfranodd hefyd yn haelionus at godi y capel. Dechreuwyd adeiladu yn Hydref,
- ↑ Llythyr Mr J. C. Williams.