1867, ac agorwyd y capel Ebrill 22ain, 1869; ac ar yr achlysur, pregethwyd gan Meistri J. Jones, Machynlleth; E. Evans, Caernarfon; O. Evans, Llanbrynmair; M. D. Jones, Bala, ac R. Thomas, Bangor. Costiodd £600, ac y mae ynddo eisteddleoedd i dri chant. Mae dau gant a haner o'r ddyled eisioes wedi thalu, ac nid yw y ddyled sydd yn aros yn cael theimlo mewn un modd yn faich rhy drwm i'w dwyn. Rhifa yr eglwys dros bedwar ugain o aelodau, a llawer o honynt yn weithgar a selog. Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yn yr eglwys yma, ond Roderick Lumley, yr hwn a addysgwyd yn athrofa y Bala. ac a urddwyd yn Elim, Cwmbran, Mynwy, ond sydd yn awr yn Bwlchyffridd, Maldwyn.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
WILLIAM REES. Ganwyd ef yn Llanrhiadr-yn-Mochnant, Tachwedd 7fed, 1822. Yr oedd ei dad yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond yn wr o feddwl rhydd a diragfarn, a chan nad oedd gan y Methodistiaid yn Llanrhaiadr ar y pryd le i addoli, aeth ei blant at yr Annibynwyr. Brawd i wrthrych ein cofnodiad, oedd Mr Edward Rees, yr hwn a urddwyd yn Brynsion, ac a fu farw yn nghanol ei ddyddiau, ac yn nghanol ei boblogrwydd yn Llanymddyfri. Derbyniwyd Mr W. Rees yn aelod yn Llanrhaiadr gan Mr D. Price, y gweinidog, yn y flwyddyn 1839, a bu am flynyddau yn aelod defnyddiol yn yr eglwys, ac yn athraw llafurus yn yr Ysgol Sabbothol. Dechreuodd bregethu Rhagfyr 19eg, 1845 ; ac yr oedd fel pregethwr yn dderbyniol gan y cynnulleidfaoedd yr ymwelai a hwynt. Bu yn cadw ysgol yn Llanrhaiadr, a Dolanog, ac wedi hyny yn Rhuddlan, lle hefyd y cynorthwyai yn y weinidogaeth, a thra yn aros yno, y priododd a Miss Sarah Williams. Derbyniodd alwad o Gorris ac Aberllefeni, ac urddwyd ef Ionawr 3ydd, 1858. Profodd yn nhymor weinidogaeth ei fod yn weithiwr ffyddlon, ac yn gristion gloyw, ac er iddo gael rhan helaeth o gystuddiau a phrofedigaethau, dyoddefodd y cwbl yn dawel. Claddodd ei wraig yn niwedd y flwyddyn 1865, ae yn fuan wedi hyny, aeth ar daith i'r Deheudir yn achos y Dysgedydd, ond cymerwyd ef yn glaf, a dychwelodd adref i dy ei fam yn Llanrhaiadr, a gwaelach, waelach yr aeth, nes y bu farw Mai 14eg, 1866, yn 43 oed, a gadawodd ar ei ol ferch fechan wyth oed, yn amddifad o dad a mam.
ABERLLEFENI
Yn y flwyddyn 1852 y cychwynwyd yr achos yma, yn mhen tua blwyddyn ar ol symudiad yr achos o Riwgwreiddyn i Gorris. Yr oedd deg o aelodau Corris yn byw yn Aberllefeni, a chan rai o honynt bedair milldir o ffordd i fyned yno, ac wrth weled hyny, a bod y lle yma yn cynyddu, bernid y dylesid cynyg sefydlu achos yma. Yr oedd Richard Jones, Llwydiarth, a'i wraig, yn aelodau ffyddlon yn Achor. Byddent yn myned yno yn rheolaidd bob Sabboth, er fod ganddynt chwe' milldir o ffordd. Cychwynwyd Ysgol Sabbothol yn Llwydiarth, a chodwid hi weithiau mewn tai eraill yn yr ardal. Cedwid hefyd gyfarfod gweddi yn yr hwyr, fynychaf, os na buasai pregeth yn Nghorris. Ar un nos Sadwrn, daeth Mr S. Roberts, Llanbrynmair, i Lwydiarth bregethu, ac anogodd y cy-