Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

idog newydd. Yn y tymor gofidus hwn ar yr eglwys, yr oedd y Bedyddwyr wedi dyfod yn gryfion, ac ymgodi i sylw yn y gymydogaeth, trwy weinidog- aeth rymus Mr. Abel Morgan, a llwyddasant i ddenu tuag un ar ddeg o aelodau Penmain i ymuno a hwy. Nid yw ysbryd proselytio oddiwrth un enwad at y llall i'w gymmeradwyo un amser, ond y mae yn ymddangos yn ei liw atgasaf pan osodir ei rym i weithio ar aelodau eglwys mewn adfyd; etto dyna yr amser fynychaf y mae yr ysbryd drwg hwn yn fwyaf gweithgar.

Ar ol bod rai blynyddau heb un gweinidog, cydunodd yr eglwys i roddi galwad i wr ieuange o sir Gaerfyrddin, o'r enw David Williams, yr hwn a urddwyd yno yn y flwyddyn 1710. Dywedir fod Mr. Williams yn ddyn da, ond o herwydd nad oedd yn bregethwr poblogaidd, fod yr eglwys a'r gynnulleidfa yn lleihau yn ei rhif o flwyddyn i flwyddyn hyd oddeutu 1720, pryd y dechreuodd yr achos drachefn adfywio.

Nis gwyddom pa faint oedd rhif yr eglwys yn 1710, ond y mae genym gyfrif lled fanol o'i hansawdd amgylchiadol yn 1717. Yn y flwyddyn hono yr oedd cynnulleidfa Penmain yn 250 o rif; y gangen yn Llandegfeth, rhwng Pontypool a'r Casnewydd, yn 100, a changen Glynebbwy yn 60. Y cwbl yn 410. Yn mysg y cyfryw yr oedd chwech o foneddigion; 60 o ddynion yn byw ar eu tiroedd eu hunain; 16 o fasnachwyr; 23 o amaeth- wyr yn talu ardreth; a 61 o weithwyr. Yr oedd gan y rhai hyn 46 o bleidleisiau dros sir Fynwy; dwy dros sir Forganwg; a 31 dros y bwrdeis- drefi yn Mynwy. Mae yn ymddangos i'r gangen yn Llandegfeth gael ei llyncu i fyny yn achos newydd y New Inn, pan gychwynwyd hwnw. Cawn draethu yn mhellach ar hyn pan ddelom at hanes y New Inn.

Darfu i amryw bobl ieuaingc, yn y flwyddyn 1720 a'r blynyddoedd dilynol, ymuno a'r eglwys, y rhai yn fuan a ddaethant yn bregethwyr defnyddiol. Trwy lafur y rhai hyn, ac ymweliadau achlysurol gweinidogion poblogaidd o ardaloedd ereill, yn enwedigol Mr. James Davies, o Ferthyr Tydfil, ychwanegwyd at yr eglwys o'r flwyddyn 1720 hyd 1739, dros 100 o bersonau, yr hyn yn ddiau yn yr amser hwnw a ystyrid yn ychwanegiad anghyffredin, yn enwedig felly gan fod poblogaeth yr ardaloedd mor sefydlog. Yn mysg y rhai a ychwanegwyd at yr eglwys yn y tymor llwyddianus hwn, gellid enwi y rhai canlynol a fuont yn eu hoes yn weinidogion o gryn enwogrwydd: Edmund Jones, o Bontypool; Thomas Lewis, o Lanharan; Phillip Dafydd, o Benmain; a Thomas Evans, o Lanuwchlyn.

Bu y llwyddiant hwn ar yr achos yn Mhenmain, ynghyd a llwyddiant cyffelyb yn mysg y Bedyddwyr yn y Blaenau a Phontypool, yn achlysur i ddadl boeth ar fedydd gael ei chyffroi, nes cynhyrfu yr holl ardaloedd. Mae yn debygol mai Mr. Edmund Jones, a Mr. Miles Harry fu y prif offerynau i gychwyn y ddadl. Aeth pethau yn raddol mor ddrwg rhyngddynt fel y penderfynodd y ddwy blaid i gael cyfarfod yn Merthyr Tydfil, er ceisio tawelu yr ystorm ac adferu heddwch cristionogol rhwng y pleidiau. Yn y flwyddyn 1728, y cynnaliwyd y cyfarfod hwnw. Cydnabyddodd pob un o'r ddwy blaid eu bai am ddyweyd, ysgrifenu, neu wneyd unrhyw beth anngharedig y naill at y llall yn mhoethder y ddadl. Cytunwyd eu bod yn cydweled a'u gilydd mewn chwech o bethau ynghylch bedydd, ac nad oeddynt yn gwahaniaethu ond am ddau beth, sef y deiliaid a'r dull. Addawsant o hyny allan amcanu at ogoniant Duw ac anrhydedd yr efengyl, a bod yn dyner o enwau da eu gilydd. Argraphwyd y penderfyniadau ar lèn o