fillion yn y lle i edrych allan am dir i godi capel yn yr ardal. Cymerwyd yr awgrym i fyny o ddifrif, a chafwyd lle i adeladu gan berchenog chwarelau Aberllefeni, ar brydles o driugain mlynedd, am yr ardreth o bunt y flwyddyn. Mae y weithred wedi ei dyddio Mawrth 25ain, 1857, ond yr oedd y capel wedi godi ddwy flynedd cyn hyny. Nid yw sefyllfan y mwyaf manteisiol, am ei fod mewn pant, ac ar lan afon. Yr oedd John Stephens yn weithgar iawn y pryd hwnw gydag adeiladu y capel. Trefnwyd i gyfarfod yr agoriad fod ddydd Gwener y Groglith, 1855, ond erbyn i'r amser ddyfod, nid oedd y capel yn barod, ac felly, bu raid cynal y cyfarfod yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Gweinyddwyd gan Meistri H. Morgan, Sammah; S. Edwards, Machynlleth; R. Ellis, Brithdir, a C. Jones, Dolgellau; ac yn fuan ar ol hyny, wedi cael y capel yn barod, daeth Meistri S. Roberts, Llanbrynmair, ac R. Ellis, Brithdir, yma bregethu am Sabboth, a ffurfiwyd eglwys yn y lle, ac o hyny allan, bu yma bregethu rheolaidd. Galwyd y capel yn Achor, yn ol enw yr hen gapel yn Rhiwgwreiddyn. Mae y lle wedi bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Chorris, ac felly y mae yn parhau. Yn yr adegau y bu yr eglwys yn amddifad o weinidog, cafodd y gweinidogion cylchynol yn garedig iawn, a bu John Davies, Glasbwll, yn pregethu yma ac yn Corris yn rheolaidd bob mis hyd ei farwolaeth, a theimlir yn yr ardal barch diffuant i'w goffadwriaeth. Mae yr achos yma wedi myned trwy gryn lawer o gyfnewidiadau, ond er y cwbl y mae wedi myned rhagddo yn llwyddianus. Cynaliwyd Cymanfa sir Feirionydd yma Mehefin 8fed a'r 9fed, 1858, a gadawodd ddylanwad da ar yr holl wlad. Bu yn foddion i ladd y culni a'r rhagfarn yn erbyn yr enwad oedd hyd hyny yn aros mewn llawer o feddyliau.[1]
Yn nechreu Mehefin, 1870, tynwyd i lawr yr hen gapel, a gwnaed ef bron i gyd o newydd. Mae yn awr yn gapel hardd. Costiodd £600, ond bydd haner y draul wedi thalu yn fuan. Agorwyd ef Ebrill 7fed, 1871, pryd y pregethwyd gan Meistri E. Evans, Caernarfon, ac R. Williams, Llundain. Da genym ddeall fod yr eglwysi yn Aberllefeni a Chorris yn myned rhagddynt mor egniol, a'u bod hwy a'u gweinidog yn ymdeimlo mor fyw i anghenion yr ardaloedd pwysig a chynyddol hyn.
RHYDYWERNEN
Mae y lle yma wedi derbyn ei enw oddiwrth amaethdy o'r enw Rhydywernen, yn mhlwyf Llanfawr. Saif ar gwr uchaf cwm cul, ond prydferth, sydd i'r Gogledd-orllewin o'r ffordd sydd yn arwain o'r Bala i Gorwen. Ymddengys fod pregethu achlysurol yma er o gylch y flwyddyn 1740.[2] Ond yn nhymor gweinidogaeth Mr Benjamin Evans, yn Llanuwchllyn, y dechreuwyd pregethu yma yn rheolaidd. Tua'r flwyddyn 1770, yr oedd gwr o'r enw Hugh Jones yn byw yn Rhydywernen, ac efe oedd perchenog y lle. Nid oedd fel yr ymddengys yn proffesu crefydd ei hun, ond ei fod yn ewyllysiwr da i'r achos, a gwahoddai bregethwyr yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn ddiwahaniaeth i'w dy i bregethu. Yn y flwyddyn 1775, adgyweiriodd Hugh Jones hen dy oedd ganddo at