Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/541

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadw mawn, a throdd of yn lle addoli. Ystafell isel, hirgul, a tho brwyn, tlodaidd iawn yr olwg arni ydoedd, ond buwyd yn addoli yma am fwy na haner can, mlynedd, a chafodd llawer o saint y dyddiau hyny wleddoedd blasus i'w heneidiau yn hen gapel Rhydywernen. Gwnaed meinciau a phulpud yn yr hen dy, ac yr oedd y llythyrenau H J., a'r ffugyrau 1775, ar y talcen uwchben y pulpud. Bu y lle o'r dechreuad dan ofal gweinidogion Llanuwchllyn, ac wedi symudiad Mr Benjamin Evans, i'r Drewen, yn 1777, daeth Meistri T. Davies, A. Tibbot, G. Lewis, ac M. Jones, yma yn olynol. Nis gwyddom pa flwyddyn y rhoddodd y Methodistiaid i fyny bregethu yma'i na pha bryd y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Mae yn sicr yr arferai rhai oddiyma fyned i Lanuwchllyn i gymundeb yn nyddiau Mr B. Evans, ac y mae yn debyg mai wedi ei ymadawiad ef yn 1777, a marwolaeth Hugh Jones yn 1778, y rhoddodd y Methodistiaid i fyny ymweled a'r lle, ac y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Dywedir mai Mr Abraham Tibbot a ffurfiodd yr eglwys yma, os felly, nis gallasai hyny fod cyn y flwyddyn 1784, canys dyna y flwyddyn y daeth ef i Lanuwchllyn. Nid oedd yn y cyfnod hwnw yr un capel yr holl ffordd o'r Bala i Wrecsam, ond Rhydywernen. Arferai yr hen gristion Sion Edward, a'i wraig, ddyfod yma o Gynwyd yn rheolaidd, a deuai Edward Jones yn ffyddlon yr holl ffordd o Langollen—pellder o ugain milldir yma bob mis i gymundeb. Yr oedd pregethwyr cymeradwy yn Llanuwchllyn, megis Robert Roberts, Robert Lloyd, a John Evans, y rhai a gynorthwyent eu gweinidogion, ac a ddeuent yma yn rheolaidd. Yn Mai, 1826, daeth Mr Hugh Pugh, o Dowyn, gadw ysgol i Bethel, ac i gynorthwyo Mr Michael Jones, yn yr eglwysi bychain newydd-ffurfiedig yn Edeyrnion. Urddwyd of yn Llandrillo, Gorphenaf 3ydd, 1827. Gan mai Rhydywernen oedd yr eglwys hynaf yn nghylch ei weinidogaeth, rhoddwn hanes ei urddiad yma. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau ; gofynwyd y cwestiynau arferol gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn; gweddiodd Mr D. Roberts, Dinbych, am fendith ar yr undeb; pregethodd Mr H. Lloyd, Towyn, i'r gweinidog, a Mr E. Davies, Trawsfynydd, i'r eglwys; a Mr W. Williams, Wern, i'r gwrandawyr yn gyffredinol.[1] Mae yn debyg i'r urddiad gymeryd lle yn Llandrillo, oblegid fod y lle yn fwy canolog i'r holl aelodau yn nghylch y weinidogaeth. Cafodd Rhydywernen fantais fawr i fwynhau cymdeithas fuddiol ac addysg bur Mr Pugh, oblegid fod yn llettya yn nheulu yr haelionus a'r caredig William Jones, Coedybedo, ac yn cael edrych arno fel un o'r teulu, a mawr yr hiraeth a deimlid ar ei ol wedi ei symudiad i Fostyn.[2] Yn y flwyddyn 1828, adeiladwyd capel newydd cryf a hardd, a chyn pen ychydig flynyddau yr oedd ei holl ddyled wedi ei dalu trwy lafur yr ardalwyr yn benaf. Yn nhymor gweinidogaeth Mr Pugh, codwyd yma ddyn ieuangc o'r enw John Griffith i bregethu, yr hwn ar ol hyny a fu yn weinidog i'r eglwys hon. Yn Mai, 1837, symudodd Mr Pugh oddiyma i Mostyn, ar ol llafurio yma gydag ymroddiad mawr am unmlynedd-ar-ddeg. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog ar ol hyny dros rai blynyddoedd. Er i Mr Pugh gael ei ordeinio i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, yn yr eglwysi hyn, etto, yr oedd Mr Jones wedi gadael y gofal yn hollol arno, fel y teimlai yr eglwysi eu bod heb fugail ar ol colli Mr Pugh. Ymwelid a'r lle yma

  1. Cofiant y Parch. Hugh Pugh, gan y Parch. W. Rees, D.D. Tu dal. 13.
  2. Llythyr Mr H. Ellis.