Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/542

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynychaf ar ol hyny gan Meistri M. Jones, Llanuwchllyn, a T. Ellis, Llangwm , ond yn 1841, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr John Griffith, yr hwn oedd eisioes wedi ymsefydlu yn yr ardal, ac yn byw yn Cablyd. Urddwyd ef Mai 21ain, 1841. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau; holwyd y gweinidog a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Ellis, Llangwm; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gan Mr E. Davies, Trawsfynydd. Gweinyddwyd hefyd yn y cyfarfod gan Meistri J. Parry, Wern; R. Ellis, Rhoslan; T. Ellis, Llangwm; W. Roberts, Pen ybont; T. Davies, Llandrillo; R. Evans, Derwen; J. Edwards, Croesoswallt, ac R. Thomas, Bala.[1] Bu Mr Griffith yn ymdrechgar a ffyddlon tra y parhaodd ei dymor. Profodd yr ardal hon awelon grymus y diwygiad yn 1840, fel yr oedd agos yr holl wrandawyr ar un adeg yn proffesu crefydd. Yr oedd Mr Griffith yma yn aelod a phregethwr gweithgar yn ystod y diwygiad hwnw, ac urddwyd ef yn agos i'w ddiwedd, pan oedd teimladau yn dechreu oeri, ac er nad oedd y tymor y bu yn y weinidogaeth yn dymor bywiog ar grefydd, etto, ni bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Bu farw Hydref 6ed, 1849. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth yma gan Mr Humphrey Ellis, yr hwn wedi cael help gan Dduw sydd yn aros hyd yr awr hon i fugeilio yr hen eglwys barchus yn Rhydywernen, ac y mae golwg gysurus ar yr achos. Yn y flwyddyn 1862, prynwyd prydles y capel, fel y mae yn awr yn rhyddfeddiant; a phrynwyd hefyd ddarn o dir i wneyd mynwent, fel y mae y cwbl yn eiddo i'r eglwys yn y lle, ac y mae y rhan fwyaf o'r treuliau hyn wedi eu talu gan yr eglwys a'r ardalwyr, a llwyrfwriedir talu y gweddill yn fuan.[2]

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN GRIFFITH. Ganwyd ef yn yr ardal hon, yn y flwyddyn 1805. Gogwyddwyd feddwl yn foreu at grefydd, a phan yn ugain oed, derbyniwyd ef yn aelod yn hen gapel Rhydywernen, gan Mr Michael Jones. Ymaflodd o ddifrif yn ngwaith crefydd. Yr oedd yn athraw diwyd a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol, a gwelodd yr eglwys gymhwysder ynddo, fel y dewiswyd ef pan yn ieuangc yn ddiacon. Anogwyd ef i ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1832, ac er ei gymhwyso yn fwy i'r gwaith pwysig, aeth am dymor i'r ysgol at Mr M. Jones, i Lanuwchllyn, ac er cael cyfleustra ychwanegol i ddysgu yr iaith Saesonaeg, aeth at Mr. J. Jones, i Marton. Dychwelodd adref a phriododd, ac ymroddodd i fywyd amaethyddol, a phregethu yn achlysurol, ac yr oedd yn dra derbyniol yn mhob man lle yr elai. Rhoddwyd galwad iddo gan ei fam eglwys yn Rhydywernen i fod yn weinidog iddi, ac urddwyd ef Mai 21ain, 1841, a llafuriodd yn ffyddlawn am wyth mlynedd, nes y rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd, Hydref 6ed, 1849, yn 44 oed. Claddwyd of oddifewn i furiau y capel, ac y mae maen coffadwriaeth iddo ar y mur ynddo. Yr oedd Mr. Griffith yn " wr da " - yn synwyrol a deallgar yn mhob peth, ac wedi casglu cryn lawer o wybodaeth yn gyffredinol. Nid amheuai neb nad ydoedd yn gristion cywir a defosiynol, ac fel pregethwr yr oedd yn Ysgrythyrol ac ymarferol, a'i ddifrifwch bob amser y fath fel y teimlau ei wrandawyr fod eu hachos tragwyddol hwy yn agos at ei feddwl. Bu

  1. Dysgedydd, 1841. Tu dal. 290.
  2. Llythyr Mr. H. Ellis.