Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/543

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fugail ffyddlon a gofalus dros y praidd ar yr rhai y gosodwyd ef yn olygwr a cherid ef yn fawr gan ei holl gydnabod, ac yr oedd y cynnulliad lluosog o honynt a ddaeth yn nghyd i'w angladd, yn gystal ac o'i frodyr yn y weinidogaeth, yn dangos mor barchus y safai yn eu meddyliau,

BETHEL

Yr oedd mwy na deuddeng mlynedd o'r ganrif bresenol wedi myned heibio cyn fod un cynyg wedi ei wneyd i sefydlu moddion crefyddol o un math yn yr ardal hon. Cyrchai dau hen grefyddwr da oddiyma yn rheolaidd i Rhydywernen, sef Sion Edward, Braichdu, a Sion Charles, Caereuchaf, ond nid oeddynt wedi magu digon o wroldeb i gynyg sefydlu addoliad cyson, er gwrthweithio yr arferion annuwiol, a'r chwareuyddiaethau pechadurus oeddynt yn ffynu yn yr ardal. Dywedir fod yma bregethu achlysurol wedi bod. Sonir am Mr Williams, o'r Wern, yn pregethu yn Cwm Cottage, lle yr oedd un Catherine Williams yn byw, a bu John Jones, Hafodfawr, hefyd yn pregethu yn Ty'nyfedw, pan oedd gwr y ty yn sal, ond nid oedd etto un cynyg ymosodol wedi ei wneyd i gymeryd meddiant o'r ardal. Yn y flwyddyn 1813, symudodd un Dafydd Jones, saer, wrth gelfyddyd, o Lanfawr, gerllaw y Bala, i Dy'nyllechwedd i fyw. Nid oedd Dafydd Jones yn proffesu crefydd, ond yr oedd tra yn Llanfawr wedi agor ei dy i gadw Ysgol Sabhothol, ac wedi cael blas ar hyny, ac ar ol symud i Dy'nyllechwedd, yr oedd am barhau i groesawu arch Duw i'w dŷ. Yr oedd un Edward Williams yn byw y drws nesaf iddo yn Ty'nyllechwedd, ac yr oedd yntau hefyd, er nad oedd yn proffesu crefydd, yn barod i agor ei dy i'r Ysgol Sabbothol. Gwnaeth y ddau hyn gais at Sion Edward a Sion Charles am iddynt hwy ymgymeryd a'r gorchwyl, a'r hyn y cydsyniasant yn ddinag. Aeth Dafydd Jones o gylch y tai i hysbysu y cynhelid ysgol y Sabboth canlynol, a daeth deuddeg yn nghyd y Sabboth cyntaf, erbyn yr ail Sabboth yr oedd y nifer yn ddau cymaint, a chynyddodd yn fuan i bedwar ugain, fel mai prin yr oedd digon o le yn y ddau dy i'r rhai a ddeuai yn nghyd. Sion Edward oedd yr arolygwr, a'i fab, John Jones, Bethel wedi hyny, oedd yr ysgrifenydd, a'r athrawon cyntaf oeddynt Sion Charles, Humphrey Thomas, Evan Evans, a Rowland Jones. Yn fuan wedi cychwyniad yr ysgol yn Ty'nyllechwedd, daeth Mr Michael Jones, yn weinidog i Lanuwchllyn a Rhydywernen, felly yr oedd efe gyda'r achos yma o'i gychwyniad. Derbyniwyd amryw o'r ardal yma yn Rhydywernen, fel ffrwyth yr Ysgol Sabbothol, ac yn eu plith y ddau deulu yn Ty'nyllechwedd, y rhai a agorasant eu drysau iddi. Ar ol mwy na dwy flynedd o lafur heb fod yn ofer, meddyliasant am gael capel yn yr ardal, a llwyddwyd i gael tir gan John Jones, Ty'nyddol, Llandderfel, a chyflwynwyd ef i ymddiriedolwyr, Ionawr, 1816, y rhai oeddynt Meistri Michael Jones, John Lewis, David Morgan, John Roberts, James Davies, William Williams, Robert Everett, a Peter Griffith. Y rhai fu ffyddlonaf i godi y capel oedd Sion Edward, Sion Charles, Sion Vychan, a Sion Jones. Mae ein hysbysydd yn rhoddi eu henwau i ni yn y ffurf yna, a dywed fod careg ysgwar ar wyneb capel Bethel ac enwau y pedwar arni. Daeth Mr Moses Ellis yma i gadw ysgol yn fuan ar ol agoriad y capel, a byddai yn pregethu yn achlysurol yn y naill fan neu y llall, er cynorthwyo Mr Jones. Ennillodd yr achos yma dir yn gyflym, a chyfnewidiwyd agwedd foesol yr ardal i