Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/544

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

raddau dymunol. Yn mis Mai, 1826, daeth Mr Hugh Pugh yma i gadw ysgol, ac yn mis Gorphenaf, y flwyddyn ganlynol, urddwyd ef i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, yn y lleoedd islaw y Bala. Ymddiriedodd Mr Jones ofal yr eglwysi hyn yn hollol i Mr Pugh, er ar yr un pryd ystyrient Mr Jones hefyd yn weinidog iddynt. Athraw doeth a synwyrol a fu Mr Pugh yma am un-mlynedd-ar-ddeg. Gwreiddiodd yr aelodau dan ei ofal yn dda yn egwyddorion crefydd, ac yn enwedig addysgodd yr ieuengctyd yn drwyadl yn seiliau eu Hymneillduaeth, a'u hawliau fel Ymneillduwyr. Mae llawer yn y wlad yma hyd heddyw yn cydnabod eu bod yn ddyledus i Mr Pugh, am roddi cyfeiriad priodol i'w meddyliau yn y pyngciau hyn. Yn Mai, 1837, symudodd Mr Pugh i Mostyn, Sir Fflint, lle y treuliodd weddill ei oes, ac yn yr adeg yma rhoddodd Mr Jones hefyd i fyny ofal yr eglwysi hyn, gan eu hanog i ddewis rhyw wr ieuangc cymhwys i fod yn weinidog iddynt eu hunain, ond parhaodd i ddyfod yma yn gyson bob mis, ac yn fynych yn amlach na hyny. Yn y flwyddyn 1840, bu yma adfywiad grymus ar grefydd, ac ychwanegwyd cryn nifer at yr eglwys. Yn y flwyddyn 1843, wedi symudiad Mr Jones i'r Bala, ail ymgymerodd a gofal yr eglwys hon, yn gystal a Llandderfel, a Soar, a pharhaodd ofalu am y lle hyd ei farwolaeth. Mewn rhyw ystyr yr oedd Mr Jones yn weinidog i'r eglwys hon o'i sefydliad yn Llanuwchllyn hyd ei farwolaeth, er ddarfod iddo ar adegau ymryddhau oddiwrthi hi yn rhanol, ond trwy ei oes edrychai arnynt fel pobl ei ofal, ac edrychent hwythau arno yntau fel eu hathraw a'u bugail. Bu yr eglwysi yn y rhanbarth yma yn ffyddlon iddo yn yr holl dymhestloedd a'i cyfarfu, ac y mae perarogl ei goffadwriaeth yn aros yn y wlad, ac fe erys dros genedlaethau. Yn nechreu y flwyddyn 1855 y daeth Mr Michael D. Jones yma o Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin, i fod yn olynydd i'w hybarch dad fel athraw yr athrofa, a gweinidog yr eglwysi hyn. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Gorphenaf 6ed, 1855. Pregethwyd gan Meistri Joseph Evans, Capel Sion; T. Davies, Llandeilo; D.C. Jones, Abergwyli; J. Roberts, Rhuthin; Ismael Jones, Rhos; W. Roberts, Penybontfawr; W. Roberts, Pentrefoelas, ac eraill; choffeir am y cyfarfod fel un dan arddeliad nodedig. Profodd yr eglwys yma adfywiad lled rymus yn y flwyddyn 1860, a chynyddodd yr aelodau nes bod yn fwy na thriugain; and oblegid symudiadau a marwolaethau, nid yw yn awr ond tua deugain o rifedi. Nid yw y cylch ond cyfyng, na'r boblogaeth ond tenau, ond y mae yma eglwys fechan ddeallgar a heddychol, a pharha Mr Jones i lafurio yma gyda chymeradwyaeth mawr. Gweinyddwyd swydd diacon yma yn gyntaf gan Sion Edward, Braichdu. Treuliodd oes hir gyda chrefydd, ac yr oedd yn ddyn cywir a ffyddlon, ond fod ei dymer braidd yn chwerw. Bu farw Hydref. 31ain, 1851, yn 88 oed, a chladdwyd of wrth gapel Bethel. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan ei weinidog, y diweddar Mr Michael Jones, a chan ei wyr Mr John Jones, yn awr o Langiwc, Morganwg. Bu David Davies, Caere, a John Jones, Bethel, yn gyd-swyddogion yma, ac y mac eu ffyddlondeb hwythau hefyd mewn coffa ger bron Duw,

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:-

William Jones. Urddwyd ef yn Mhwllheli, a symudodd oddiyno i Glynarthen, Sir Aberteifi, lle y bu farw, a daw hanes yno dan ein sylw.

Robert Ellis. Dechreuodd ef a William Jones bregethu yr un adeg. Urddwyd ef yn Rhoslan, ac y mae yn awr yn y Brithdir, a hyderwn fod llawer flynyddoedd etto yn ol iddo.