Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/545

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

John Parry. Addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Machynlleth, a gwelir cofnodiad byr am dano yn nglyn a hanes yr eglwys hono.

Cadwaladr Jones. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Nhanygrisiau, ac y mae yn awr yn America.

Yn yr eglwys yma y magwyd John Jones, Llangiwc, ond yn Llanrhaiadr-yn-mochnant y dechreuodd bregethu, megis y gwelir yn hanes yr eglwys hono.

LLANDDERFEL

Mae yn ymddangos yr arferai gweinidogion y Bala er yn foreu bregethu yn Llandderfel. Yn ol y cyfrifiad a roddodd Mr Job Orton i Mr Josiah Thompson, yr oedd gan Mr Daniel Gronow gynnulleidfa o ddau cant yma yn 1773. Nis gwyddom pa fodd i gyfrif am hyny, os na chymerodd Mr Orton y gynnulleidfa allasai fod yno gan y Methodistiaid mewn camgymeriad, ond nid oedd hono ychwaith yn cyrhaedd y rhifedi hwnw yn yr adeg hono. Pa fodd bynag, os bu yma gynnulleidfa o Annibynwyr gan Mr Gronow, yr oedd hi wedi darfod yn llwyr cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, ac aeth chwarter y ganrif bresenol heibio cyn Annibynwyr ddechreu pregethu yn mhentref Llandderfel. Dechreuwyd pregethu yma yn y flwyddyn 1826, mewn lle a elwir Brynyfedwen, lle yr oedd Edward a Catherine Jones yn byw, y rhai oeddynt yn aelodau yn Bethel. Pregethodd Mr Pugh yma rai troion, ac ennillwyd yma amryw i broffesu crefydd. Ymofynwyd am le yn mhentref Llandderfel, ac agorodd John Roberts, gwehydd, ei dy, er nad oedd yn aelod ar y pryd, a rhoddodd lofft helaeth at wasanaeth yr achos. Coffeir am Dr. Arthur Jones yn pregethu yn yr awyr agored, oblegid na chynwysai yr ystafell mor gynnulleidfa. Teimlodd un dyn mor ddwys yn yr oedfa, nes y gwaeddodd allan fod rhyw un o'r crefyddwyr wedi dyweyd ei hanes ef wrth y pregethwr. Yr oedd Robert Daniel, Rhydlydan, yn pregethu y noson hono drachefn yn yr ystafell. Yr aelodau eglwysig cyntaf yma oeddynt Edward a Catherine Jones, Brynyfedwen; John ac Elizabeth Watkin, Cae-crydd; Robert Roberts, Ty'n yfron; Evan Dafydd a Sydney Jones, Llan; Mrs Jones, Ty'nddol, ac yn fuan fe ymunodd John Roberts, gwehydd, a hwy. Efe oedd y cyntaf a dderbyniwyd o'r newydd atynt, a bu yn aelod ffyddlon, a dewiswyd ef yn ddiacon cyn hir. Efe a John Watkin oeddynt y diaconiaid cyntaf, a buont ffyddlon hyd angau. Bu Mr. David Owens, Tyuchaf, (yn awr o Newark, America,) yn ffyddlon i'r achos yma ar ei gychwyniad, a deuai o Bethel yma gynorthwyo yr achos yn ei wendid. Meddyliodd Mr Jones a Mr Pugh am gael capel yma, ond yr anhawsder oedd cael tir, a chyfododd gwrthwynebiad o le na ddisgwylid. Yr oedd gardd gan John Jones, crydd, Pensingrig, yr hon a gauwyd ganddo i mewn o'r tir cyffredin, a boddlonai gwerthu, ond pan ddeallodd gwr cyfrifol yn y gymydogaeth hyny, dyrysodd y cynllun. Yn rhagluniaethol, yr oedd gan ddyn o Gwyddelwern, dir yn nghanol y Llan, ac yr oedd yn barod i'w werthu, a phan ddeallodd y gwr mawr, yr hwn a ddyrysodd eu cynllun cyntaf hyny, cynygiodd yr hen ardd iddynt, gan feddwl y byddent yn mhellach o'i ffordd yno nag yn nghanol y pentref. Prynwyd y lle am £15 gan John Jones, crydd, a John Davies, Fronheulog, a throsglwyddwyd ef i Thomas Evans, i'w gyf-