Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/546

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lwyno i Michael Jones, Hugh Pugh, David Owens, John Jones, Thomas Owens, a Thomas Jones, ac y mae y weithred yn cael ei dyddio Mawrth, 1828. Adeiladwyd y capel, a phregethodd Mr Pugh ynddo gyntaf ddydd Nadolig, 1828, ac agorwyd yn gyhoeddus Mawrth 3ydd a'r 4ydd, 1829. Ar yr achlysur, gweinyddodd Mr R. Ellis, Penybont; T. Simon, Llangollen; I. Williams, Dinas; T. Jones Llangollen; H. Morgan, Sammah; T. Ellis, Llangwm; J. Ridge, Bala, a D. Roberts, Dinbych.[1] Mae y lle o'r dechreu wedi bod dan yr un weinidogaeth a Bethel, ac felly y mae yn awr. Yn y flwyddyn 1840, dan weinidogaeth Mr Richard Jones, Rhuthin, yr hwn oedd yn y lle ar ymweliad, torodd diwygiad grymus allan, yr hwn a fu er codiad mawr i'r achos yn y lle. Bu yr eglwys mewn tipyn o brofedigaeth oblegid i'r llywodraeth ddyfod i hawlio ardreth am y capel, gan ddyweyd nad oedd gan y rhai a'i gwerthodd ddim hawl ynddo, ond wedi sefydliad Mr M. D. Jones yma, mynodd ef chwilio i'r mater, a'i wneyd yn ddiogel, ac ail brynwyd y tir gan y llywodraeth am £11/13/00 ac y mae yn awr yn feddiant i'r eglwys yn y lle. Wrth weled fod yr hen gapel wedi myned yn adfeiliedig, penderfynwyd adeiladu un newydd yn yr un lle, ond fod eisiau ychwaneg o dir er ei wneyd yn helaethach. Dechreuwyd arno yn 1868, ac agorwyd ef y dydd olaf o fis Mawrth, 1869. Ar yr achlysur, pregethodd Meistri Samuel Roberts, J. Williams, Castellnewydd; E. Evans, Caernarfon; D. Rowlands, B.A., Trallwm, ac R. Thomas, Bangor, a chan fod cyfarfod chwarterol y Sir yn cael ei gynal yma yr un pryd, yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y Sir yn bresenol. Galwyd ef yn Ramah. Nid oedd ond dau o'r rhai oeddynt yn aelodau yma yn agoriad y capel cyntaf yn fyw yn agoriad yr ail, sef Edward a Catherine Jones, y rhai y pregethwyd gyntaf yn eu ty yn Brynyfedwen, a rhieni Mr Robert Derfel Jones, Manchester. Yr oedd John Watkin, yr hwn a fu yn ddiacon ffyddlon am ddeugain mlynedd, wedi meddwl cael byw i weled agor y capel newydd, ond gwelodd ei Dad nefol yn oreu ei gymeryd adref cyn gweled hyn. Canmolir ffyddlondeb John Roberts, y gwehydd, yn nodedig. Rhoddodd lofft ei dy i gynal y moddion ar y dechreu, a chyfranai chwe' cheiniog yn yr wythnos at gynal yr achos, er nad ydoedd ond isel ei amgylchiadau.

Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yma ond

John Edwards. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Pentre-llyn-cymer, lle y mae etto, ond ei fod wedi ei analluogi i gyflawni ei weinidogaeth.

Mae yr achos yma mewn agwedd siriol, a nifer yr aelodau o gylch pump a deugain.

SOAR

"Mae y capel hwn yn mhlwyf Llandderfel. Bu Sion Edward yn byw yn Melinddimel, ychydig islaw y lle y mae Soar, a bu Dr. Lewis, Llarnuwchllyn, a Robert Roberts, Tyddynyfelin, yn pregethu llawer yn ei dŷ, yn mhell cyn codi Soar. Cynhelid Ysgol Sabbothol a phregethid yn achlysurol gan Mr. M. Jones, yn Gwern-braich-y-dwr, ac yn 1827, adeiladwyd yma dŷ bychan saith lath ysgwar. Mae careg uwchben ei ddrws ac arni, "Soar, adeiladwyd 1827." Codwyd ef ar dir Syr Watkin Williams

  1. Dysgedydd 1329 tu dal 150