Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/547

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wynne, Barwnig, ond heb brydles, ond telid ardreth o haner coron y flwyddyn. Yr oedd Meistri W. Williams, Wern, a Mr. J. Ridge, Bala, yma yn ei agoriad. Bwriedid ef ar y cyntaf i fod yn ysgoldy yn unig, ac elai yr aelodau i Bethel i gymundeb, ac nid oeddynt ond ychydig mewn nifer, ond y mae yma eglwys wedi ei ffurfio bellach er's blynyddau. Mae y lle o'r dechreu wedi bod yn nglyn a Bethel, a'r un gweinidogion yn olynol yn gofalu am dano. Pan oedd. Syr Watkin yn gwerthu amryw o'i diroedd rai blynyddoedd yn ol, gwerthodd Wern-braich-y-dwr, a gwerthwyd capel Soar hefyd. Parodd gwerthiad y Soar yma, a Soar arall yn sir Drefaldwyn, gynhwrf mawr ar y pryd hwnw. Prynwyd y Soar yma gan John Davies am 30p., a chyflwynwyd ef i Simon Jones, Michael D. Jones, John Peter, Robert Jones, Edward Wynne, Edward Roberts, William Jones, Thomas Owen, ac Humphrey Ellis, fel ymddiriedolwyr. Dyddiad y weithred ydyw, Medi 29ain, 1860.

Codwyd i bregethu yn y gangen fechan yma :-

Evan Lloyd. Urddwyd ef yn Hebron, Lleyn, a bu farw yn dra annisgwyliadwy. Daw ei hanes dan ein sylw pan ddeuwn at eglwysi sir Gaernarfon.

David Price. Ni bu yn pregethu ond ychydig. Bu farw Awst 23ain, 1861, yn 21 oed. Claddwyd ef yn Bethel.

John Roberts. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa y Bala.

Mae Edward Wynne yn yr ardal hon er's llawer o flynyddoedd bellach, ac yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy gan yr holl eglwysi."

LLANDRILLO

Yn y flwyddyn 1814, daeth John Jones, a'i wraig, a'i deulu o felin Frongoch, gerllaw y Bala, i fyw i felin Llandrillo. Arferent cyn symud fyned i addoli i Dy'nybont, ac ar ol eu symudiad, deuai rhai o hen aelodau Ty'nybont i'w ty i Landrillo, ar nosweithiau o'r wythnos i gynal cyfarfodydd gweddio. Ymwelai John Jones, Hafodfawr, hefyd a hwy, yr hwn yn achlysurol a bregethai iddynt. O gylch yr un amser ag y symudodd teulu y felin, daeth gwraig o Lanuwchllyn, o'r enw Elizabeth Roberts, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr, i fyw yma'i ac ar ol hyny ceid pregethu yma yn amlach. Deuai Mr M. Jones, Llanuwchllyn, a Mr J. Lewis, Bala, yma i bregethu, ac yn achlysurol deuai Dr. Arthur Jones, Bangor, i ymweled a brawd oedd ganddo yn yr ardal, a phregethai bob tro y deuai. Yn y flwyddyn 1818, cymerwyd ty gan William Fairclough i bregethu y Sabboth, a chadw ysgol ddyddiol, ac aeth Mr M. Jones, Llanuwchllyn, yn gyfrifol am ardreth y ty. Yr amser yma daeth Mr Moses Ellis - Mynyddislwyn, wedi hyny - yma i gadw ysgol, a bu yn ddefnyddiol iawn ddechreu yr achos yn y lle. Ffurfiwyd yma gangen-eglwys yn mhen blwyddyn neu ddwy wedi cymeryd y ty i bregethu, ac er nad oedd yma ond ychydig o bobl druain, dlodion, yn cychwyn yr achos, etto bu Mr M. Jones yn ffyddlon i ddyfod atynt, a chynorthwyid ef gan Meistri J. Roberts, Capelgarmon; J. Lewis, Bala; J. Jones, Bancog; J. Jones, Hafodfawr, ac eraill. Bu teulu Syrior yn garedig i'r achos, ac y mae bendith yr Arglwydd yn aros arnynt hyd heddyw. Yn y flwyddyn 1821, symudwyd yr achos i hen gapel y Methodistiaid, ac wedi bod yno dros ryw gymaint o amser, symudwyd drachefn i ystafell perthynol i'r New Inn, sef tŷ