Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/548

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Fairclough. Ond yn y flwyddyn 1826, cafwyd tir ar brydles o gan' mlynedd ond un, gan Mr. T. Jones, clochydd, Corwen, am £12/1/00 yn y flwyddyn o ardreth, a chyflwynwyd ef i Meistri Michael Jones, Llanuwchllyn; J. Ridge, Bala; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Trawsfynydd; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Jones, Syrior; T Jones, Braichdu; J. Jones, Penygeulan; D. Owen, Tyuchaf, a W. Jones, Penygeulan—Glynarthen, wedi hyny—fel ymddiriedolwyr. Galwyd y capel yn Hananeel. Agorwyd ef Gorphenaf 3ydd, 1827, a'r un pryd ag agoriad y capel, urddwyd Mr Hugh Pugh i fod yn gydweinidog a Mr Michael Jones, fel y crybwyllasom yn hanes Rhydywernen. Bu Mr Pugh yma yn ymdrechgar hyd 1837, pan y symudodd i Mostyn. Nid oedd yr achos yma yn gryf, ond bu yma rai yn ffyddlon iddo yn ei wendid. Am flynyddau wedi ymadawiad Mr Pugh, ymddibynai yr eglwys ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr cynorthwyol, ond yr oedd y gofal yn benaf ar Mr Thomas Davies, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu, ac a wir ofalai am y lle. Yn nechreu y flwyddyn 1842, rhoddodd yr eglwys yma, a'r eglwysi yn Nghorwen, a Chynwyd, alwad i Mr John Evans, yr hwn am lawer o flynyddau a fuasai yn weinidog yn Beaumaris, Mon. Yr oedd Mr Evans yn oedranus pan ddaeth yma, fel nad oedd ynddo yr yni oedd yn ofynol gydag achosion newydd a gweiniaid, ond yr oedd yn barchus a chymeradwy gan bawb. Unwaith yn y mis y deuai yma, fel nad oedd yr eglwys hon yn cael fawr o'i lafur. Yn mhen ychydig flynyddoedd, rhoddodd yr eglwysi i fyny, a dychwelodd i Beaumaris, lle yr arhosodd weddill ei oes. Yn niwedd y flwyddyn 1850, rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr Humphrey Ellis, Llangwm, ac y mae efe yn parhau i lafurio yma, a'r achos yn ystod ei weinidogaeth wedi ennill tir, a chasglu nerth, fel y mae golwg siriol arno. Mae amryw bregethwyr wedi codi yma. Perthyn i'r gangen hon yr oedd William Jones, er mai yn Bethel y pregethodd gyntaf. Yma hefyd y cododd Robert Fairclough i bregethu. Ond Thomas Davies, Pentre', yw y pregethwr sydd wedi bod hwyaf yn nglyn a'r eglwys, ac wedi bod o fwyaf o wasanaeth iddi o'r un a godwyd ynddi. Mae wedi treulio ei oes yma, ac wedi pregethu llawer, nid yn unig yma, ond hefyd trwy yr holl eglwysi cylchynol. Yn ddiweddar barnodd yr eglwys yma, a gweinidogion y Sir, yn briodol ei urddo i holl waith y weinidogaeth, gan fod yma gynifer o eglwysi, ac amryw o honynt fynychaf heb neb i weini yr ordinhadau iddynt. Cymerodd ei urddiad le yma Mehefin 2il, 1870. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Ellis, M. D. Jones, Bala; J. Peter, Bala; D. Ll. Jones, Ruthin; J. Jones, Abermaw; R. P. Jones, Llanegryn; R. Ellis, Brithdir; E. A. Jones, Dolgellau; E. Williams, Dinas; E. Wynne, Soar; W. I. Richards, Abererch; T. Jones Middlesborough, a J. Williams, gweinidog i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llandrillo. Gwelodd yr achos yma wahanol dymhorau, ond y mae wedi dal ei dir, ac y mae yr achos yn fwy siriol yn awr nag y gwelwyd ef erioed. Coffeir yn barchus yma am Mr. John Petty, a'i wraig, y rhai a fuont yma am gryn dymor, ac yn llettygar i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Daeth Mr. Petty, o Cornwall, i'r Llwyn, Dolgellau, yn oruchwyliwr, ac wedi hyny bu yn amaethwr, ac yn cadw siop yma. Yr oedd wedi dysgu Cymraeg lled dda.[1] Bu yma eraill er nas gallasent wneyd llawer, etto a fuont ffyddlon yn ol eu gallu, ac nad a eu llafurus gariad yn anghof.

  1. Llythyr Mr T. Davies.