Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/549

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CORWEN

Yn nechreu y flwyddyn 1827, daeth Mr Robert Ellis, Caere, (Brithdir yn awr,) at William Roberts, Brynsaint, amaethdy yn ymyl y dref, ac aethant gyda'u gilydd a chymerasant lofft yn ngwesty y Queen, dan ardreth o dair punt y flwyddyn, er dechreu achos Annibynol. Gweithredai Mr Ellis, dan gyfarwyddyd eglwys Bethel, a hwy oedd yn gyfrifol am yr ardreth. Am ddau o'r gloch y Sabboth cyntaf yn Chwefror, daeth Mr Hugh Pugh ac a bregethodd yn y lle am y waith gyntaf. Ei destyn oedd Ioan ix. 4.—" Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd tra yr ydyw hi yn ddydd." Daeth Mr John Griffith, Rhydywernen—y pryd hwnw yn ddyn ieuangc—yma gyda Mr Pugh, i ddechreu canu, a daeth yma lawer gwaith ar ol hyny i gynorthwyo yr achos. Yn mis Mawrth canlynol, daeth Mr Michael Jones yma i ffurfio eglwys, a phregethodd ar 1 Pedr iii. 13.—"A phwy a'ch dryga chwi os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda?" Saith oedd nifer yr eglwys ar ei ffurfiad; sef William a Jane Roberts, Brynsaint, a Mary, eu merch; John a Sarah Owen, Ty'nycefn; Elizabeth Williams, Llygadog, a Jane Davies, Penybryn, Corwen. Y cyntaf a dderbyniwyd yn aelod yma oedd Joseph Jones, Penybryn, yr hwn sydd etto yn aros yn ffyddlon. Gwan fu yr achos yma am flynyddau, ond deuai Mr Jones a Mr Pugh yma mor reolaidd ag y medrent, a chynorthwyid hwy gan eraill, Bu Mr Pugh am flynyddoedd yn cerdded yma yr holl ffordd o Goedybedo—pellder o ddeng milldir—bob pythefnos i gadw cyfeillach. Yr oedd y lle yr oeddynt yn cyfarfod ynddo i addoli yn anghyfleus, ond nis gallesid cael ei well, a gwnaed llawer cynyg am dir i godi capel arno, ond yn ofer, oblegid mai Toriaid ac Ucheleglwyswyr oedd yr holl berchenogion tiroedd o gylch yma. Wedi ymadawiad Mr Pugh i Mostyn, yn 1837, bu yr achos yma dan anfantais fawr, oblegid nad oedd neb yn arbenig i ofalu am dano. Yn nechreu y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr Robert Jones, o Sir Fon. Urddwyd ef Ebrill 20fed, 1840. Ar yr achlysur, traethwyd ar natur eglwys, holwyd y gofyniadau, a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr T. Ellis, Llangwm; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Llanuwchllyn, ac i'r eglwys gan Mr D. Price, Penybont. Pregethwyd hefyd yn y cyfarfod gan Meistri Jeremiah Jones, Llanfyllin, a John Jones, Parc, Penybont.[1] Yn y tymor byr y bu Mr Jones yma, sicrhawyd darn o dir trwy ddylanwad Mr John Jones (Glanalwen), Gibson Square, Llundain, i adeiladu capel arno. Eiddo Mr T. Lloyd, Llundain, oedd y tir, ac yn y flwyddyn 1841, cyflwynwyd ef i Meistri J. Jones, Gibson Square; J. Prichard, Corwen; H. Davies, Penlan; Joseph Jones, Corwen; R. Evans, Corwen, ac R. Evans, Derwen, fel ymddiriedolwyr. Dangosodd Mr Jones, Gibson Square, ffyddlondeb mawr yn nglyn a chodi y capel. Rhoddodd £20 ei hun ato, a'r gweithredoedd yn rhad, a bu yn casglu ato oddiar ei gyfeillion yn Llundain. Cymerodd Mr Prichard, Harp Inn, ofal yr adeiladu, a bu yn ffyddlon gyda'r capel yn mhob peth, nes gweled y geiniog olaf o'r ddyled wedi ei thalu. Ni bu Mr R. Jones yma ond ychydig, gan nad oedd yr un o'r eglwysi eraill, a arferai fod dan yr un weinidogaeth, yn uno i roddi galwad iddo. Symudodd i Ceri, Sir Drefaldwyn, cyn diwedd 1841. Yn nechreu y flwyddyn 1842, rhoddwyd galwad i Mr John Evans,

  1. Dysgedydd, 1840. Tu dal. 287.