Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bapur, a gosododd y personau canlynol eu henwau wrthynt: Morgan Griffiths, Hengoed; John Harry, a Miles Harry, Aberystruth, Gwrthfaban- fedyddwyr; David Williams, Daniel Rogers, ac Edmund Jones, Penmain; James Davies, Evan John, a Jenkin Lewis, Merthyr Tydfil, Bedyddwyr babanod. Llawnodwyd y papur hefyd gan y gweinidogion canlynol, y rhai oeddynt oll yn Annibynwyr, fel tystion o'r cytundeb: Fowler Walker, Abergavenny; Thomas Morgan, Llanwrtyd, mae yn debygol; Rees Davies, Hanover; Rees Prytherch, Watford; a Thomas Lewis, wedi hyny o Lanharan, fel y tybiwn. Mae hanesydd y Bedyddwyr yn cyhuddo Mr. Walker, o'r Fenni, o fod y cyntaf i dori yr heddwch hwn. Dichon mai efe a'i torodd gyntaf, os oedd ysgrifenu ar Fedydd yn doriad o hono, ond mae yn dra thebygol mai gwaith y blaid arall yn siarad, ac yn pregethu byth a hefyd ar Fedydd, ac yn gwneyd eu goreu i broselytio fu yr achos iddo ysgrifenu.

Yn y flwyddyn 1734, cafodd Mr. Edmund Jones ei urddo yn gynorthwywr i Mr. Williams, mae yn debygol, i ofalu yn benaf am y gangen hono o'r eglwys a gyfarfyddai yn Nghwm Ebbwy Fawr. Yr oedd Mr. Daniel Rogers yn weinidog i'r gangen hon yn 1717, ac yn fyw, fel y gwelsom, yn amser y ddadl Bedydd yn 1728. Fel aelod a gweinidog cynnorthwyol yn Penmain, yr ystyrid ef. Mae yn debygol ei fod wedi marw erbyn 1734, pan yr urddwyd Mr. E. Jones. Yn y flwyddyn 1732, dechreuodd Mr. Phillip Dafydd bregethu, ac yn 1739, cafodd ei urddo yn gydweinidog â Mr. Williams, yn Mhenmain. Mae yn ymddangos i Mr. Edmund Jones deimlo i raddau yn dramgwyddus, o herwydd i'w fam eglwys ddewis brawd oedd o wyth i ddeng mlynedd yn ieuengach nag ef fel dyn, aelod, a phregethwr, yn weinidog cynnorthwyol i'r holl eglwys, pryd yr ymddengys fod ei wasanaeth ef fel gweinidog yn cael ei gyfyngu i un gangen fechan o honi. Y canlyniad fu iddo ef yn y flwyddyn ganlynol, adeiladu capel Ebenezer, yn agos i Bontypool, a darfod yn hollol a Phenmain fel aelod a gweinidog. Darfu i amryw o'r aelodau o blwyf Aberystruth, fyned gydag ef i gychwyn yr achos yn Ebenezer, a byddai yntau, yn fynych, yn pregethu yn eu tai hwy, gan.fod y ffordd yn mhell iddynt fyned i Ebenezer. Parhaodd Mr. Phillip Dafydd i bregethu hefyd yn Ebbwy Fawr a Thilerwy, i'r rhai lynasant wrth Benmain. Er na fu un terfysg yn yr eglwys gydag ymadawiad Mr. Jones a'i bleidwyr, etto, mae yn ymddangos fod yno fesur o oerni wedi aros rhyngddynt am flynyddau lawer. Cawn Phillip Dafydd, yn ei ddyddlyfr, mor ddiweddar ar flwyddyn 1772-deuddeg mlynedd ar hugain wedi iddynt ymadael a'u gilydd, wrth son am gyfarfod cymundeb a gynnelid yn Tynyllwyn, yn Nghwm Ebbwy Fawr, yn ysgrifenu fel y canlyn:-"Ebrill 26, 1772,-pregethais heddyw yn Tynyllwyn, oddiwrth Luc xix. 14, a gweinyddais Swper yr Arglwydd. Yr oedd y cyfarfod yn llawn, a darfu i rai o bobl Mr. Edmund Jones gymuno gyda ni, a thyma y tro cyntaf iddynt wneuthur felly." Bu Mr. Wil- liams a Mr. P. Dafydd yn cydlafurio yn Mhenmain, hyd farwolaeth Mr. Williams yn 1759, pryd yr aeth y gofal oll ar Mr. Dafydd ei hun.

Gan fod Phillip Dafydd wedi cofnodi ei helyntion ei hun ac eiddo yr eglwys gyda llawer o fanylder, ac yn lled reolaidd, o'r flwyddyn 1759 hyd ddiwedd y flwyddyn 1786, a'n bod ninau, trwy garedigrwydd y diweddar Mr. George Lewis, Coed-duon, wedi cael meddiant o'r hen law ysgrifau hyn, gallwn roddi hanes lled gyflawn a chywir am eglwys Penmain, hyd yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Yn y flwyddyn 1759, bu farw naw o'r aelodau, a derbyniwyd yr un nifer i'r eglwys. Ar ddiwedd y