Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/551

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

urddwyd ef yn niwedd Ebrill, y flwyddyn hono. Gwrthododd pob un' o'r eglwysi a arferai a bod dan yr un weinidogaeth, ag uno i roddi galwad iddo, ac un rheswm o leiaf am hyny, oedd y tywyllwch oedd o gylch ei hanes blaenorol. Yn Hydref, 1841, derbyniodd alwad o Ceri, gerllaw y Drefnewydd, ac aeth yno i ddechreu ei weinidogaeth, ond ar ol bod yno dros ychydig wythnosau, dychwelodd i Gorwen i ymofyn ei deulu. Pan ar ei daith gyda'i deulu yn agos i'r Nag's Head, rhwng y Trallwm a'r Drefnewydd, dymchwelodd y cerbyd, a chan fod Mr. Jones yn ddyn o gorph trwm, ysigwyd ef gymaint fel y bu farw yn mhen tridiau, (Rhagfyr 13eg, 1841). Dyoddefodd ei boen mewn hollol ymostyngiad i ewyllys yr Arglwydd. Gadawodd weddw a thri o blant amddifaid heb ddim darpariaeth ar eu cyfer.

CYNWYD.

Mae pregethu wedi bod gan yr Annibynwyr yn y lle yma er's pedwarugain-mlynedd yn ol. Yr oedd Sion Edward, yr hwn oedd yn byw yn melin Cynwyd, yn aelod yn Rhydywernen, a bu llawer o bregethu yn ei dŷ gan Meistri A. Tibbot, W. Thomas, Bala, ac R. Roberts, Tyddynyfelin, ond wedi ymadawiad Sion Edward, rhoddwyd i fyny bregethu yma, gan mai efe a'i wraig oeddynt yr unig aelodau perthynol i'r Annibynwyr yn y lle.[1] Ni wnaed cynyg ar bregethu gydag un cysondeb yma ar ol hyny hyd y flwyddyn 1838. Yr oedd yma hen wraig o'r enw Gwen Jones yn byw. Symudasai yma o'r Bala, a bu yn myned yn fisol am flynyddoedd yno i gymundeb, hyd nes yr adeiladwyd Bethel. Ar ol codi capel yn Llandrillo, elai yno yn rheolaidd, ond aeth o'r diwedd yn analluog i gerdded na marchogaeth yno, a chwynai yn ei dagrau wrth Mr. Thomas Davies, Llandrillo, ei fod yn ei gadael yno heb roddi ambell bregeth iddi. Boddlonodd Mr. Davies i ddyfod os gellid cael rhywle i bregethu. Cymerodd yr hen wraig Coach-house oedd yno yn wag am yr ardreth o 2p. yn y flwyddyn, a'r nos Fercher cyntaf yn y flwyddyn 1838, cynhaliwyd cyfarfod gweddi yno gan frodyr o Landrillo, a'r boreu Sabboth canlynol, pregethodd Mr. T. Ellis, Llangwm. Bu yr achos yn y lle yma am ddeuddeng mis, hyd nes y collwyd yr ystafell, ac am chwe' mis ar ol hyny, ymgynnullid yn mharlwr tafarndy yn y lle. Symudwyd wedi hyny i'r Boncynglas, ty Griffith Hughes. Yr oedd y gwr hwnw yn aelod gyda'r Methodistiaid, ond nid amlygwyd un gwrthwynebiad iddo roddi ei dy i'r Annibynwyr i bregethu ynddo. Gwelwyd yn fuan fod yr ystafell yno yn rhy gyfyng, ac wedi ymddiddan a'r eglwysi a'r gweinidogion cylchynol, ac yn neillduol a Meistri M. Jones, Llanuwchllyn, a J. Griffith, Rhydywernen, penderfynwyd ymofyn am le i godi capel. Cafwyd prydles am fil o flynyddoedd ar ddarn o dir gan Mr. Thomas Williams, Felinuchaf, a thalwyd am dano 16p. Adeiladwyd y capel, ac agorwyd ef Mehefin 27ain a'r 28ain, 1842.[2] Galwyd ef Carmel; ac yn yr agoriad, pregethodd Meistri T. Ridge, Llangwyfan; H. Ellis, Llangwm; J. Davies, Llanfaircaereinion; W. Jones, Dolyddelen; E. Hughes, Treffynon; J. Jones, Rhos; J. Parry, Wern, a D. Price, Rhos. Bu Mr. Thomas Davies, Llandrillo o gynorthwy mawr i'r achos yma o'i gychwyniad, a chaffaeliad mawr i'r achos a fu symudiad Mr. Morgan Edwards o Faentwrog i Benybont, Cynwyd. Mae y lle wedi

  1. "Sion Edward." Cronicl, 1853. Tu dal. 36.
  2. Dysgedydd, 1842. Tu dal. 351.