gellwair, tydi yw y cyntaf a gleddir yn y fynwent yma," ac felly y bu.[1] Yn fuan wedi i Morgan Llwyd ddistewi yn angau, cododd yr Arglwydd Hugh Owen, Bronyclydwr, i gyhoeddi ei enw, yr hwn am dymor hir a barhâodd i wneyd ei ymweliadau tri-misol a'r gwahanol orsafoedd oedd ganddo yn y sir, ac ni bu sir Feirionydd er hyny, heb ryw rai i fod yn dystion ffyddlon dros y gwirionedd. Wrth edrych yn ol ar weinidogion y cyfnodau cyntaf yn hanes Annibyniaeth, yr ydym yn cael iddynt esgeuluso myned y tu allan i'w terfynau a phregethu yr efengyl lle ni enwid Crist. Mae yn sicr genym eu bod yn athrawon da i'w heglwysi gartref, ond hyd ddechreu y ganrif bresenol, ychydig o ymdrech a wnaed i eangu terfynau yr achos.
Gadawodd gweinidogion y Bala yr holl wlad oddiyno i Wrecsam-heb wneyd un cynyg hyd y gallasom ni gael allan, i efengylu i'r bobl. Yr oedd achos bychan yn Rhydywernen, ond o dan nawdd Llanuwchllyn yr oedd hwnw. Ymddengys mai Mr. Benjamin Evans a Mr. Abraham Tibbot fu y rhai mwyaf egniol o weinidogion Llanuwchllyn hefyd, yn y ganrif ddiweddaf i eangu yr achos. Bu codiad Mr. Hugh Pugh o'r Brithdir, yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes Annibyniaeth yn sir Feirionydd, ac fel y gwelir, y mae ei enw ef yn amlach nag enw neb arall yn nglyn ag eglwysi y sir yn y cyfnod hwnw. Dyn wedi ei godi gan yr Arglwydd ydoedd yn ddiamheu, a gwnaeth waith mawr mewn tymor byr. Mae yn dda genym weled yr ysbryd egniol sydd yn y sir yn awr, a'r gefnogaeth galonog a roddir gan y cyfarfod chwarterol i sefydliad achosion newyddion. Gwelir fod yma amryw eglwysi blodeuog wedi eu planu yn ddiweddar yn Arthog, Abergynolwyn, Glyndyfrdwy, a Thalysarnau. Pe buasai ysbryd y gweinidogion presenol yn meddianu yr ychydig oedd yn y sir yn y ganrif ddiweddaf, buasai Annibyniaeth yma yn meddianu safle llawer uwch nag sydd ganddi, er cystal ydyw.
Ond er ein bod yn dyweyd fel hyn, pell ydym o awgrymu, nad oedd yr hen weinidogion parchus hyny, yn gweithio yn ddyfal. Athrawon a dysgawdwyr rhagorol oeddynt yn mysg eu pobl. Dichon na cheid yn un sir yn Nghymru, bobl wedi eu gwreiddio yn well yn ngwirioneddau yr efengyl, na'r hen bobl a geid yn y sir hon yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif bresenol. Duwinyddiaeth oedd eu hyfrydwch, ac ar faterion Ysgrythyrol y dymunent aros. Nid oedd gwerth ar bregeth yn eu golwg os na buasai yn athrawiaethol, ac edrychid ar yr Ysgolion Sabbothol ganddynt fel cynnulliadau i egwyddori eu gilydd yn mhethau y Bibl.
Mae y cysylltiad sydd wedi bod rhwng y sir hon a llenyddiaeth yr enwad, yn deilwng o'i grybwyll. Pan y penderfynwyd gan nifer o weinidogion i gychwyn y Dysgedydd, i fod yn gyfrwng gohebiaeth rhwng yr eglwysi a'u gilydd, ac er rhoddi cyfle iddynt i amddiffyn eu ffurflywod-
- ↑ Drych yr Amseroedd. Tu dal. 21.