Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/556

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

raeth eglwysig, a'u golygiadau duwinyddol; sefydlwyd ar Dolgellau, fel lle i'w gyhoeddi, a Mr. Cadwaladr Jones, fel y cymhwysaf i'w olygu, a phrofwyd doethineb y dewisiad gan un-mlynedd-ar-ddeg-ar-hugain o'r olygiaeth wastataf ac esmwythaf a ddisgynodd erioed i ran un dyn.

Mae y sir hon wedi mwynhau gweinidogaeth my fyrwyr athrofa y Bala, bellach er's deng-mlynedd-ar-hugain, ac y mae yn deilwng o'i osod ar gof a chadw, mor barod y maent wedi bod bob amser i bregethu i eglwysi bychain a gweiniaid o fewn eu cyrhaedd, a hyny yn aml am y gydnabyddiaeth leiaf; ac yn sefydliad yr achosion newyddion yn ddiweddar, y maent bob amser wedi bod yn barod i wneyd pob peth yn eu gallu i'w cynorthwyo; a thra yr ydym yn son fel hyn am y myfyrwyr, y mae yn deg i ni hefyd ddyweyd, nad ydynt yn gwneyd dim, ond yr hyn y rhoddir iddynt esiampl o hono gan eu hathrawon.

Hyd yn ddiweddar, yr oedd capeli y sir yn waelion iawn—ar ol yn mhell i bob sir arall—ond y mae cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle mewn ychydig flynyddau. Mae yr ymdrechion hyn yn rhoddi ysbryd newydd yn y bobl, a llawer yn ymhelaethu mewn haelioni i raddau na ddychymygodd eu calon y buasent byth yn alluog. Yr ydym yn teimlo fod gan ein henwad yn y sir hon bob sail i fod yn galonog a hyderus. Mae dyddiau gorthrwm gwladol wedi eu rhifo, ac y mae dyoddefiadau y tadau er mwyn cydwybod wedi sicrhau heddwch i'w plant. Aeth rhywrai i'r tân er mwyn diffodd y fflam. Ffurfiwyd Cymdeithas Rhyddhad Crefydd yn Meirionydd, cyn bod son am dani yn un parth arall o'r deyrnas, ond ychydig feddyliodd Hugh Pugh, Llandrillo, pan yn ei sefydlu yn y flwyddyn 1833, y buasai gan sir Feirionydd, oedd wedi bod dan iau caethiwed trwy yr oesau, gynrychiolydd Rhyddfrydig yn y Senedd yn y flwyddyn 1871, i bleidleisio dros ddadgysylltiad yr eglwys oddiwrth y Wladwriaeth trwy yr holl deyrnas. Mae y pethau hyn oll yn parotoi y ffordd i roddi y deyrnas i'r Hwn y mae yn deilwng iddo, ac yn ddefnydd cysur i'r rhai sydd yn llafurio dros egwyddorion cyfiawnder yn ngwyneb anhawsderau, gan wybod " mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi," ond caiff "yr hwn sydd yn hau a'r hwn sydd yn medi lawenychu yn nghyd," am eu bod oll yn cydweithio i'r un amcan gogoneddus, "casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol."





DIWEDD Y GYFROL GYNTAF.





ARGRAFFWYD YN SWYDDFA'R "TYST," OLD POST OFFICE PLACE, LIVERPOOL.