flwyddyn 1760, ysgrifena fel y canlyn:—"Mae sefyllfa eglwys Penmain yn bresenol yn edrych ryw faint yn well nag y bu. Cafodd rhai gwrthgilwyr eu hadferu, ond nid ychwanegwyd mwy na thri o'r newydd y flwyddyn hon. Ni bu neb o honom farw." Ni fu dim ychwanegiad yn 1761. Mae cyfrifon 1761 a '62 ar goll. Ar ddiwedd 1763, dywed—"Ni ychwanegwyd neb y flwyddyn hon, ond y rhai a ddaethant oddiwrth Mr. E. Jones. Bu farw dau." Yn 1764, ychwanegwyd pedwar, bu farw un, a gwrthgiliodd dau. Bu yr eglwys mewn llawer o helbul yn y flwyddyn hon, a'r un flaenorol, o herwydd fod dau o'r aelodau wedi myned yn Arminiaid, ac i ddadleu dros eu golygiadau. Bu eu hachos dan sylw mewn amryw gyfarfodydd. Eu henwau oedd Thomas Lewis a Harry Charles. Ni ddywedir wrthym pa un ai ymwrthod a'u golygiadau, neu ymwrthod a'r eglwys a wnaethant. Nid ydym yn cyfarfod ag un crybwylliad am danynt yn nghofnodion y blynyddoedd dyfodol. Arminiaeth fu yn ddinystr i lawer o eglwysi Ymneillduol yr oes hono, ond cafodd hen eglwys Penmain ei chadw rhag i'r gwenwyn ymledu i raddau digonol i fod yn angeu i'r achos. Ychwanegwyd saith at yr eglwys yn 1765.
Yn 1766, bu farw dau, ond nid ychwanegwyd neb. Yn 1767, bu farw dau, ac ychwanegwyd pedwar. Yn 1768, ychwanegwyd pedwar, ac ni fu neb farw Yn 1769, derbyniwyd pump, a bu farw dau. Mae cofnodion 1770 ar goll. Yn 1771, derbyniwyd un, a chladdwyd un. Yn 1772, derbyniwyd pedwar, a bu farw dau. Nid oes dim wedi ei gofnodi am 1773. Yn 1774, bu farw pump, a derbyniwyd tri. Yn 1775, derbyniwyd naw, a bu farw un. Yn 1776, bu farw dau, ac ni dderbyniwyd neb. Yn 1777, bu farw saith, a derbyniwyd un. Yn 1778, bu farw un, ni dderbyniwyd neb. Yn 1779. derbyniwyd tri, ni bu neb farw. O'r amser hwn yn mlaen hyd ddiwedd y flwyddyn 1786, sef tua dau fis cyn marwolaeth yr ysgrifenydd, yr ydym yn cael llawer o gofnodion dyddorol, ac yn cael fod marwolaethau yr aelodau a derbyniad rhai newydd agos yn gyfartal. Nifer y cymunwyr yn 1768, oedd cant ac un, a'u nifer yn 1771, oedd cant a dau. Yn rhanedig rhwng y gwahanol blwyfydd fel y canlyn:—Mynyddislwyn 47, Bedwellty 16, Aberystruth 16, Llanhiddel a Threfddyn 18, Gelligaer 5. Mae yn ymddangos mai cadw ei thir heb ennill na cholli dim yr oedd yr eglwys trwy yspaid gweinidogaeth hirfaith Phillip Dafydd. Dywed Edmund Jones am dano, ei fod yn ddyn talentog a medrus yn yr ysgrythyrau, ond nad oedd yn bregethwr poblogaidd. Yr oedd ei weinidogaeth yn rhy werthfawr yn nghyfrif y rhai a ddeallent ei gwerth i'w hesgeuluso, ac yn rhy farwaidd ac anneniadol i gyffroi sylw y werin anwybodus, yr hyn a gyfrifa am y ffaith fod yr achos wedi sefyll am gynifer o flynyddau heb fyned yn ol nac yn mlaen.
Ar y 18ed o Fedi, 1785, y pregethodd Mr. David Thomas y waith gyntaf yn Mhenmain. Sul cymundeb oedd y diwrnod hwnw. Hoffwyd ef yn fawr gan yr hen weinidog a'r holl eglwys, a chyn pen dwy flynedd wedi hyny cafodd ei urddo yno yn ganlyniedydd i Phillip Dafydd. Bu yno yn llafurio gyda llwyddiant a derbyniad cyffredinol hyd derfyn ei oes yn 1837. Cymerodd cyfnewidiadau dirfawr le yn ardal Penmain, a'r holl ardaloedd cylchynol, yn wladol a chrefyddol, yn ystod yr haner can' mlynedd y bu Mr. Thomas yn gweinidogaethu yno—cyfnewidiadau llawer mwy nag a gymerasent le yn y dau can' mlynedd blaenorol. Gydag agoriad y gweithiau glo a haiarn lluosogodd y boblogaeth yn ddirfawr, yr hyn a newidiodd agwedd cymdeithas trwy yr holl gylch. Yr oedd tymer siriol