Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr amgylchiad yn y modd toddedig a ganlyn:—"Mai 25, 1775,—Heddyw derbyniais y newydd pruddaidd am farwolaeth fy mab Dafydd, yr hwn a fu farw yn garcharor am ddyled yn ngharchar Trefynwy. Oh fy mab anffodus! Bu yn ofid a thristwch, nid yn unig i'r hon a'i hymddugodd, ond hefyd i'w holl berthynasau. Yn awr wedi i angau ddyfod i mewn i'm teulu, yr hwn sydd mor lluosog, Duw yn unig a wyr pa un o honom a symudir nesaf. Mai 28,—Bu'm heddyw yn Mhenmain, ond yr oeddwn yn analluog i wneyd dim. Darfu i rai o'r aelodau ddarllen a gweddio." Yr oedd D. Davies yn bregethwr da, ac o rodiad gweddaidd, pa fodd bynag y darfu iddo ymddyrysu yn ei amgylchiadau.

John Williams, oedd aelod a phregethwr cynnorthwyol parchus yn yr eglwys hon o 1760, neu yn gynt, hyd 1797 neu '98, pryd y bu farw. Crybwyllir ei enw, a chanmolir ei bregethau, yn fynych yn nyddlyfrau Phillip Dafydd. Ni wyddom ychwaneg o'i hanes.

Roger Rogers—Gwel hanes Heolyfelin, Casnewydd.

Theodocius Williams. Gwr genedigol o ardal Capel Isaac, sir Gaerfyrddin, a nai Mr. Thomas, gweinidog Penmain. Derbyniwyd ef i athrofa Gwrexham, yn 1798, ac urddwyd ef yn New Windsor, ger Manchester, Gorphenaf 13, 1803. Ni bu yno yn hir, ond trodd yn fradwr i Ymneillduaeth, a chafodd ei urddo yn offeiriad yn yr Eglwys Wladol. Bu yn dal bywioliaeth eglwysig yn sir Stafford, lle y bu farw, fwy nag ugain mlynedd yn ol.

Hannaniah Morgan, nai arall i Mr. Thomas, y gweinidog. Un gened— igol o sir Gaerfyrddin oedd yntau. Yr oedd yn ddyn o alluoedd cryfion iawn. Ni bu erioed yn y weinidogaeth, ond bu am lawer o flynyddoedd yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn Mhenmain. Bu farw yn dra di— symwth yn 1835.

George Lewis. Bu am lawer o flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol yn amser Mr. Thomas, ac yn amser y rhwygiad, yn 1839, cymerodd blaid Mr. Jones, ac aeth allan gydag ef i ffurfio yr achos newydd. Yn fuan ar ol adeiladu capel Jerusalem, urddwyd ef yn weinidog cynnorthwyol yno. Yr oedd Mr. Lewis yn un o'r dynion mwyaf di—ddrwg yn y byd, yn grist— ion da, yn weithgar, ac yn haelionus dros ben, ac yn felus, ond nid yn alluog, fel pregethwr. Bu farw Mawrth 28, 1864, yn 64 mlwydd oed. Joshua Thomas, mab Mr. Thomas, y gweinidog. Bu ef am dymor yn athrofa y Drefnewydd yn derbyn addysg. Urddwyd ef yn Adulam, Mer— thyr Tydfil, yn 1832. Bu wedi hyny am ychydig flynyddau yn Bethle— hem a Chapel Isaac, sir Gaerfyrddin. Y mae bellach, er's llawer o flyn— yddau, yn gwasanaethu yr eglwysi yn Salem, Aberdare, a Libanus, Llan— fabon, lle y mae yn barchus a defnyddiol.

Edmund Jones. Bu yn Mhenmain yn bregethwr cynnorthwyol dros rai blynyddau. Mae yn awr yn aelod, ac yn bregethwr yn Ebenezer, Pont-y- pool.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

HENRY WALTER, ydoedd ail fab John Walter, Yswain, o Persfield, neu Piercefield Park, gerllaw Casgwent. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1611, dechreuodd ei amser fel myfyriwr yn Ngholeg Iesu, Rhydychain, Ebrill 12, 1633. Ar ol gorphen ei amser yno, cafodd ei wneyd yn offeiriad plwyf Mynyddislwyn. Mae yn lled sicr mai dan weinidogaeth Mr. Wroth y