derbyniodd ei argraffiadau crefyddol. Cyn gynted ag y sefydlodd yn Mynyddislwyn, dechreuodd bregethu gyda nerth ac arddeliad, a chafodd llawer eu troi at yr Arglwydd trwy ei weinidogaeth. Mae yn ymddangos yn debygol iddo ef gael ei droi allan o'r eglwys tua'r un amser a Mr. Wroth, gan iddo gorpholi ei ddysgyblion yn eglwys Annibynol tua diwedd. y flwyddyn 1639. Ar doriad y rhyfel allan yn 1642, gorfu iddo ef, fel gweinidogion eraill, ffoi i Loegr am ddiogelwch i'w fywyd. Yn 1646, cafodd ei anfon yn ol i Gymru i bregethu yr efengyl dan nawdd y senedd, a phenodwyd can' punt y flwyddyn iddo am ei wasanaeth. Llafuriodd yn ddiwyd i efengyleiddio ei gydwladwyr tra y parhaodd y rhyddid o 1646 hyd 1662. Mynwy a'r rhan ddwyreiniol o Forganwg, yn benaf, oedd maes ei lafur. Dywed Dr. Walker, offeiriad rhagfarnllyd, ei fod yn derbyn cyflog yn y ddwy sir. Os ydoedd, gweithiodd yn dda am yr hyn a dderbyniodd. Enw Mr. Walter yw y blaenaf yn mysg y rhai oedd i brofi a chymeradwyo dynion addas i'r weinidogaeth, dan y ddeddf er taenu yr efengyl yn Nghymru, a basiwyd yn 1649. Yr oedd ef yn weinidog plwyf St. Wollos, neu eglwys y Stow, Casnewydd, yn 1662, a throwyd ef allan gan Ddeddf Unffurfiaeth. Yr ydym yn cael ei fod yn preswylio mewn lle o'r enw Park-y-pil, yn mhlwyf Caerlleon-ar-Wysg, yn 1669, a dywedir ei fod yn pregethu yn ei dŷ ei hun, ac mewn amryw dai eraill yn y gymydogaeth y pryd hwnw. Dywed Mr. Henry Maurice, ei fod yn weinidog eglwys Annibynol Mynyddislwyn, yn 1675, a dyna yr hanes diweddaf sydd genym am dano. Mae yn dra thebygol iddo farw yn fuan ar ol y flwyddyn hono, ond nis gwyddom pa bryd, nac yn mha le y bu farw ac y claddwyd ef. Os nad oes cofgolofn o farmor ar ei fedd, y mae eglwys Penmain, a'i changhenau lluosog, yn well na chofgolofn i gadw ei enw yn adnabyddus.
JOHN POWELL, M.A. Mab Howell Powell, o Sythegston, gerllaw Pen-y-bont-ar-ogwy, oedd y gwr enwog hwn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1617. Aeth yn fyfyriwr i Edmund Hall, Rhydychain, ar yr 8fed o Fai, 1635. Cafodd ei droi allan o eglwys St. Lythian, gerllaw y Bontfaen, yn Morganwg, yn y flwyddyn 1660, am wrthod darllen y Llyfr Gweddi Cyffredin, ar gladdedigaeth mab i wr bonheddig. Cynygiodd Dr. Lloyd, esgob Llandaf, ei ddewis o ddau le iddo wedi hyny, pe buasai yn cydffurfio, ond gwrthododd. Dywedir ei fod yn ddyn hynod o addfwyn a hunanymwadol, ac yn bregethwr nodedig o ddeniadol. Parhaodd i bregethu trwy holl dymor yr erlidigaeth yn mhlwyfydd Llanedern, Eglwysilan, Bedwas, Mynyddislwyn, a manau eraill yn Mynwy a Morganwg. Sonir am dano fel "henuriad athrawiaethol" yn eglwys Mr. Henry Walter, yn 1675, ac wedi marwolaeth Mr. Walter, darfu iddo ef, mewn cysylltiad a Mr. Watkin Jones, ymgymeryd a'r weinidogaeth yn ei holl ranau yn yr eglwys. Dyoddefodd lawer dros y gwirionedd yn ei ddydd, ond rhoddodd angau derfyn ar ei holl drallod, Ebrill 30, 1691. Dywedir fod rhai o'i blant wedi etifeddu y fendith. Nis gwyddom yn mha le y claddwyd ef.
WATKIN JONES. Yr oedd yn ddyn cyfoethog, dysgedig, ac o deulu anrhydeddus. Preswyliai yn y Sychbant, yn mhlwyf Mynyddislwyn, ac mae yn debygol, mai efe oedd perchenog y lle hwnw, ac amryw leoedd eraill yn y plwyf. Yn amser y werin-lywodraeth, yr oedd yn pregethu fel cynnorthwywr i Mr. Henry Walter, yn eglwysi plwyfol Mynydd-islwyn, Bedwas, y Casnewydd, &c. Pregethai yn gyson yn amser yr erlidigaeth; ac yn 1668, cymerodd ofal neillduol y gangen o eglwys Mr.