Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Walter, a gyfarfyddai yn Gelligrug, yn mhlwyf Aberystruth. Bernir iddo farw tua y flwyddyn 1693.

JOHN HARRIS. Nid oes genym unrhyw hanes am y gwr hwn, heblaw yr hyn a roddasom yn barod yn hanes yr eglwys mewn tudalen blaenorol.

DAVID WILLIAMS. Yr oedd yn enedigol o sir Gaerfyrddin, a thebygol iddo dderbyn ei addysg yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn Mhenmain, yn 1710. Preswyliai yn Ngwaelod-y-waun, yn mhlwyf Bedwellty. Yr oedd wedi myned yn analluog i bregethu tua phump neu chwe' mlynedd cyn ei farwolaeth. Bu farw yn 1759, a chladdwyd ef yn mynwent Bedwellty. Cawn y sylw canlynol yn nyddlyfr P. Dafydd, gyda golwg ar ei gladdedigaeth:—"Hydref 28, 1759. Heddyw y claddwyd y Parchedig Mr. David Williams. Dymunwyd arnaf fi bregethu yn ei gladdedigaeth, yr hyn a ymdrechais wneuthur oddiwrth Sal. xci. 16. Gan mai y dydd Sabboth ydoedd, daeth torf ddirfawr o bobl yn nghyd yno. Yr oeddwn i, ac amryw ereill, yn dymuno iddo gael ei gladdu y dydd canlynol, neu yn ddiweddar yn y prydnawn, ond ni ddarfu i ni lwyddo, ac felly dyryswyd dau gyfarfod, a darfu i'r rhai oedd gymaint am ei gladdu, y pryd y claddwyd ef, gael eu siomi hefyd, trwy i'r curad redeg ymaith, a gomedd aros hyd nes i'r angladd gyrhaedd yr eglwys. Bu Mr. Williams yn weinidog yr eglwys yn Mhenmain am 49 o flynyddau. Er ei fod wedi methu pregethu er's yn agos i chwe' mlynedd, etto byddai yn gallu dyfod beunydd i'r addoliad cyhoeddus, ac yr oedd ei bresenoldeb yno i mi, bob amser, yn hyfryd. Pa fodd y dygir pethau yn mlaen yn Mhenmain, o hyn allan, nis gwn i." Dywed Mr. Edmund Jones, fod Mr. Williams yn ddyn da, ond nad oedd yn bregethwr poblogaidd.

PHILLIP DAFYDD. Ganwyd ef ar yr 11eg o Fehefin, 1709, yn Nghwm Ebbwy Fawr, ond nis gwyddom yn mha dŷ yno. Mae yn ymddangos iddo gael ei dderbyn i'r eglwys yn lled ieuangc, oblegid yr ydym yn cael iddo ddechreu pregethu yn 1732, pryd nad oedd dros dair ar hugain oed. Priododd yn Abergavenny, ar y 14ego Fai, 1734. Mae yn debygol mai un o'r gymydogaeth hono oedd ei wraig. Nis gwyddom yn mha le yr addysgwyd ef, ond y mae yn sicr ei fod wedi dysgu yn dda yn rhyw le, oblegid dengys ei ddyddlyfrau ei fod yn ysgolhaig campus. Ysgrifena y Saesoneg a'r Gymraeg yn berffaith. Er iddo ddechreu pregethu yn 1732, ni chafodd ei urddo cyn 1739. Bu felly am ugain mlynedd yn gydweinidog â Mr. Williams, ac am y gweddill o'i oes wrtho ei hun. Yr oedd yn ddyn o feddwl treiddiol, craffus, a gafaelgar. Mae y sylwadau a ysgrifenodd gyda golwg ar ddynion ac amgylchiadau, yn dangos hyny yn eglur. Pregethwr call ydoedd, ond nid ymddengys ei fod yn boblogaidd. Byddai, fynychaf, yn cadw ei bregeth yn ysgrifenedig ar y Beibl wrth ei thraddodi, ac os nad oedd yn ei darllen, air yn ngair, byddai yn ymgadw yn lled gaeth at yr hyn fuasai wedi ysgrifenu. O ran athrawiaeth, yr oedd yn gwbl uniongred, Cawn lawer o sylwadau llymion yn ei ysgrifeniadau, yn erbyn Arminiaid ac Ariaid ei oes. Mae ei sylwadau gyda golwg ar gyfeiliornwyr yr oes hono, yn eithaf cymhwysiadol at rai yn yr oes hon.

"Mae yn hawdd canfod," meddai, "meddwl ac amcan y boneddigion hyny a floeddiant gymaint yn erbyn credöau a chyffesiadau ffydd, ond y cyfryw yn unig a ellir osod allan yn ngeiriau yr ysgrythyr, sef, agoryd drws digon eang i bob math o gyfeiliornad a heresiau gael eu dwyn i mewn i'r eglwys, os gallant gael ymadroddion ysgrythyrol wedi eu gwyro, eu darnio, a'u dirdynu i'w hategu, yr hyn beth a wnant yn fedrus iawn. A phe gallai y dynion hyn