ddim ond dwyn eu credöau a'u cyffesiadau eu hunain i mewn, a chael gan yr eglwys yn dawel gydsynio â hwy a'u derbyn, byddai pob peth wrth eu bodd. Yn mhellach, y peth sydd yn fy synu i yn fawr yw, fod y personau hyn sydd yn dadleu cymaint dros arfer ymadroddion ysgrythyrol yn unig, i osod allan eu golygiadau, yn defnyddio cyn lleied o eiriau y Beibl yn eu pregethau. Os ymadroddion ysgrythyrol yw y rhai mwyaf priodol i'w harfer mewn credöau, cyffesiadau, a chatecismau, paham nad ydynt felly mewn pregethau, canys amcan y naill fel y llall yw dysgu dynion yn mhethau crefydd. Ac yn ol fy marn i, pan fyddo credöau, catecismau, a chyffesiadau yn cael eu gosod o'r neilldu, ni chaiff y weinidogaeth ei dal i fyny yn hir, ond gosodir hithau hefyd o'r neilldu, fel y mae amryw o'r dynion hyn sydd yn gwrthwynebu credöau yn gwneyd beunydd. Nid wyf fi dros ddilyn un dyn, nac unrhyw nifer o ddynion, ond mor belled ag yr wyf yn barnu eu bod hwy yn dilyn Crist. Mor belled a hyny, y mae genyf fi hawl i'w dilyn hwy. Caniadau i. 8; 1 Cor. iv. 16; xi. 1; Heb. xii. 1.
Cyn belled ag yr wyf fi yn deall ystyr y gair orthodoxy, sef crediniaeth iawn o athrawiaethau y Datguddiad Dwyfol, nid yw i'w ddirmygu, ac nid yw cyfeiliornad a heresiau ychwaith yn bethau i chwareu â hwynt. Mae iawn grediniaeth yn angenrheidiol er iachawdwriaeth, a chyfeiliornad yn bechod damniol. Y fath boen a thrafferth a gymerai yr apostolion i unioni camgymeriadau a chyfeiliornadau yr eglwysi yn mhob peth, yn neillduol gyda golwg ar y pwnge mawr o gyfiawnhad, fel y gwelir pan. oedd y Galatiaid wedi cymysgu Iuddewaeth â Christionogaeth, ac yn ymofyn cael eu cyfiawnhau trwy weithredoedd y ddeddf. Mae yn amlwg i mi fod cyfeiliornadau a chamgymeriadau yn awr yn llawn mor beryglus ag yr oeddynt y pryd hwnw; ac y maent yn awr yn llawer mwy lluosog nag oeddynt yr amser hwnw."
Tra yr oedd Phillip Dafydd yn berwi gan sêl dros athrawiaeth iachus, yr oedd hefyd yn llawn mor wrthwynebol i drefniadau a dull newydd y Methodistiaid o bregethu. Cyfarfyddwn yn fynych yn ei ddyddlyfrau â chyfeiriadau annghymeradwyol at y Methodistiaid. Cymerer y dyfyniadau canlynol fel amlygiad o'i deimlad:—"Mehefin 21, 1775—Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn y Tynewydd, Mynyddislwyn. Nid oedd yno ond ychydig o weinidogion. Pregethodd Mr. Abraham Williams bregeth dda oddiwrth Sal. cii. 16. Darfu i un arall o'r enw David Williams (Llysfronydd mae yn debygol) bregethu oddiwrth 2 Petr ii. 9. Efe a gymerodd lwybr cyffredin llawer o bregethwyr yn y dyddiau presenol, sef troi yma ac acw, dyfynu ambell hanes ysgrythyrol, a llenwi ei bregeth â chymhariaethau, a rhai o honynt heb fod o'r fath fwyaf priodol. Yr oedd rhai yn hoffi y fath ddull, ac yn gwneyd llawer o swn fel pe na buasent yn alluog i gynnwys eu teimladau o herwydd mawredd y llawenydd a deimlent, a chodai y pregethwr ei lais i gywair uchel anghyffredin. Nid wyf fi yn ystyried yr holl bethau hyn yn un ran o grefydd Iesu. Hydref 19, 1783—Heddyw yr oedd ein cyfarfod cymundeb. Pregethodd John Williams yn fy lle. Pregeth dda. Yr oedd y gynnulleidfa yn lluosog, ac ystyried fod offeiriad, a gyfrifir yn bregethwr da, yn Eglwys Mynydd-islwyn ar yr un amser, ond neidio ac anrhefn oedd yno. Ion. 11, 1785—Yr oedd gwr dieithr yn Mhenmain heddyw o'r enw Howell Powell. Ei destyn oedd 1 Ioan iii. 8. Efe aeth yn mlaen yn hollol yn null y Methodistiaid. Dywedodd gyflawnder o bethau, ond gyda y fath gyflymder fel nas gallasai neb ddal ar yr hyn a lefarai." Hen Ymneillduwr sych oedd