Phillip Dafydd yn nghyfrif Methodistiaid ei oes, a hen Galfiniad rhagfarnllyd, yn nghyfrif ei gydoeswyr Arminaidd ac Ariaidd. Tra nas gallwn lai nag edrych gyda chymeradwyaeth ar ei wrthwynebiad cadarn i gyfeiliornadau ei oes, nis gallwn hefyd lai na galaru na buasai gwr o'i alluoedd rhagorol ef yn llawnach o ysbryd cyhoedd, fel ei gymydog Edmund Jones, ac na buasai yn yfed mwy o ysbryd diwygiadol yr oes.
Cafodd deulu mawr—wyth neu ddeg o blant, ac wrth reswm lawer o ofidiau teuluol, ac anhawsder parhaus i gael modd i gynnal ei deulu lluosog. Ond yn nghanol ei holl drafferthion glynodd gyda gwaith y weinidogaeth yn ffyddlon, ac y mae yn ddigon hawdd canfod, wrth ddarllen ei ddydd-lyfrau, ei fod yn treulio ei holl fywyd mewn cymundeb agos â'r Arglwydd. Bu farw Chwefror 3ydd, 1787, yn driugain a deunaw mlwydd oed o fewn ychydig fisoedd, a chladdwyd ef wrth gapel Penmain. Nid ymddengys iddo gael llawer o gystudd, oblegid cofnoda yn ei ddyddlyfr iddo bregethu yn Mhenmain Rhagfyr 17, 1786, oddiwrth Dat. vi. 9, 10, 11. Dichon mai dyma y waith olaf y pregethodd, o leiaf dyna y cofnodiad diweddaf yn ei ddyddly fr.
DAFYDD THOMAS. Bu enw Dafydd Thomas, Penmain, am lawn hanner can mlynedd yn air teuluaidd yn Neheudir Cymru; yn enwedig yn Mynwy a Morganwg. Gan fod genym ddefnyddiau teimlwn mai ein dyledswydd yw cofnodi ei hanes yn helaeth, yn gymaint a'i fod yn gymmeriad mor barchus, ac iddo wneuthur cymaint a nemawr neb yn ei oes tuag at helaethu terfynau yr enwad y perthynai iddo. Ganwyd Dafydd Thomas mewn tŷ bychan o'r enw Llwyncelyn, ar odreu y Mynyddbach yn mhlwyf Llan-fynydd, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1757. Enw ei dad oedd Thomas John Evan, ac enw ei fam oedd Elizabeth William Harry. Efe oedd yr ieuengaf o saith o blant. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, a'i fam disgyn o deulu nodedig o grefyddol er's amryw genhedlaethau. Ni chafodd nemawr o fanteision dysg yn ei febyd, ond trwy ymroad ac ychydig gymorth mewn ysgol gyffredin yn y gymydogaeth dysgodd ddarllen ac ysgrifenu. Bu farw ei dad pan yr oedd ef yn lled ieuangc, a chan fod ei frodyr a'i chwiorydd oll wedi priodi, disgynodd y gwaith o ofalu am ei fam agos yn gwbl arno ef, a gofalodd am dani gyda thynerwch plentyn duwiol hyd ei marwolaeth. Dysgodd ei fam, yr hon oedd yn wehyddes, ei chelfyddyd ei hun iddo, a bu yn dilyn yr alwedigaeth hono agos yn gyson nes iddo fyned i'r weinidogaeth. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nghapel Isaac, gan yr Hybarch Thomas Williams, pan yr oedd rhwng pymtheg ac ugain oed. Dechreuodd bregethu tua y flwyddyn 1778. Yr un amser ac yn yr un eglwys a Thomas Bowen, wedi hyny o Gastellnedd, a Jonathan Lewis, yr hwn a fu farw yn y Crwys yn fuan ar ol ei urddo. Cafodd ei ddau gyfaill fanteision addysg, ond o herwydd gorfod cynnal ei fam cafodd ef ei amddifadu o hyny. Bu am wyth mis yn athrofa Abergavenny, a phan symudwyd yr athrofa yn Hydref y flwyddyn 1780, o Abergavenny i Groesoswallt, ni oddefai ei amgylchiadau ef iddo symud yno gyda hi, ac felly dychwelodd adref at ei fam a'i alwedigaeth. Yn y flwyddyn 1785, ymwelodd a sir Fynwy. Cofnoda Mr. Phillip Dafydd yn ei ddyddlyfr hanes ei ymweliad cyntaf â Phenmain, maes dyfodol ei lafur: "Medi 18fed, 1785. Yr oedd yn Sabboth cymundeb heddyw, a'r lle yn llawn iawn. Cefais fy arbed i bregethu gan wr ieuangc, o'r enw David Thomas, yr hwn ni fu yma. erioed o'r blaen. Ei destyn oedd Psalm cii. 13, a chyn belled ag y gallaswn i ei glywed efe a bregethodd yn dda. Yn y prydnawn efe a