bregethodd yn fy nhy i. Ei destyn oedd Jer. xxxi. 9. Ychydig iawn a allais glywed oherwydd fy myddarwch. Yr oedd yno dorf o bobl. Darfu i minau heddyw weini swper yr Arglwydd gyda theimlad toddedig yn fy enaid. Diolch i Dduw am hyny." Etto "Chwefror 5ed, 1786. Heddyw oedd ein cyfarfod cymundeb. Yr oedd y gynnulleidfa yn fawr iawn. Gwr dyeithr a bregethodd oddiwrth Eph. i. 19,—testyn na chlywais i neb yn pregethu arno o'r blaen. Yr oeddwn yn ystyried y bregeth yn un ardderchog, ond y mae yn amheus genyf mai ei gyfansoddiad ef ydoedd. Er fod y gwr ieuangc yn ddiau yn alluog, etto yr oedd y fath fawredd yn y bregeth, fel yr oedd tu hwnt i'r hyn a allesid ddysgwyl oddiwrtho ef. Ei enw yw David Thomas." Etto Mai 10fed, 1786. Heddyw oedd ein cyfarfod gweddio ac yr oedd llawer o bobl wedi ymgynnull. Gweddiodd chwech, a chawsom bregeth gan David Thomas, gwr ieuangc o sir Gaerfyrddin. Mae y gynnulleidfa yn tueddu i roddi galwad iddo i ddyfod yma yn gynnorthwywr yn y weinidogaeth." Etto "Awst 9fed, 1786. Heddyw bum yn Mhenmain yn gwrandaw dwy bregeth; un gan David Thomas, oddiwrth Mat. v. 8, a'r llall gan William Thomas, (Bala, wedi hyny), oddiwrth Daniel ix. 24. Ni ddechreuwyd yr oedfa cyn chwech o'r gloch yn yr hwyr. Yr wyf fi yn barnu fod y ddwy bregeth uwchlaw amgyffred y gwrandawyr cyffredin. Yr oedd y cynnulliad yn fawr iawn, ag ystyried mor ddiweddar yn y prydnawn yr oedd yr oedfa yn dechreu." Cyn pen chwe' mis wedi iddo ysgrifenu y diweddaf o'r cofnodion hyn, yr oedd Phillip Dafydd yn ei fedd, a chafodd David Thomas alwad i'w ganlyn yn uniongyrchol. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1787. Yr ydym wedi methu cael allan pa fis o'r flwyddyn y bu hyny. Derbyniwyd y gyffes ffydd a gweddiwyd yr urdd weddi gan Mr. W. Edwards, Groeswen, rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. John Griffiths, o Abergavenny, ac i'r eglwys gan Mr. W. Gibbon, Capel Isaac. Nis gwyddom pwy gyflawnodd ranau eraill y gwaith.
Cyn gynted ag yr ymsefydlodd yn ei gylch pwysig, ymroddodd a'i holl egni i "gyflawni ei weinidogaeth," a gwneyd "gwaith efengylwr." Pregethodd filoedd o weithiau ar hyd a lled y wlad am filldiroedd o gwmpas, ac yr oedd yn mhob man yr elai yn dderbyniol gan fyd ac eglwys, ffol a chall, gwreng a boneddig. Ar ol claddu ei fam, priododd ddynes ieuangc ragorol, sef merch Mr. William George, o'r Brithdir, yn mhlwyf Gelligaer, o'r hon y cafodd bedwar-ar-ddeg o blant, a cafodd naw o honynt eu magu i'w maintioli. Ar ol bod yn ddedwydd yn y sefyllfa briodasol am ddwy flynedd a'r hugain, collodd ei briod ffyddlon, a gadawyd ef yn wr gweddw gyda naw o blant ieuangc. Effeithiodd colli ei briod yn fawr ar ei feddwl a'i iechyd, ond er ei holl ofid a'i drafferthion cafodd gymorth am flynyddau lawer wedi hyny i wasanaethu yr achos goreu gartref ac oddi cartref. Cafodd yr hyfrydwch cyn ei farwolaeth o weled ei blant oll ond un yn grefyddol, a dau o honynt yn weinidogion yr efengyl, sef Mr. William Thomas, gweinidog y Bedyddwyr yn y Casnewydd, a Mr. Joshua Thomas, yn awr o Aberdare. Daeth yr un oedd yn ddigrefydd pan fu farw ei dad i geisio crefydd yn fuan wedi hyny.
Yr oedd iechyd Mr. Thomas wedi rhoddi ffordd yn fawr er's mwy na deng mlynedd cyn ei farwolaeth, a bu am y pedair neu y pum' mlynedd diweddaf o'i fywyd yn analluog i bregethu ond yn anfynych iawn. Ond bob tro y gallai wneyd ei ymddangosiad yn y capel byddai yr olwg arno yn sirioli pawb, ac os gallai ddyweyd ychydig eiriau toddid yr holl