Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynnulleidfa. Cafodd ergyd o'r parlys yn niwedd y flwyddyn 1836, ac wedi dihoeni am rai misoedd bu farw yn yr Arglwydd Ionawr 11eg, 1837 yn bedwar ugain mlwydd oed. Claddwyd ef wrth gapel Penmain ar y 14eg o'r un mis. Cyn cychwyn o'r tŷ pregethodd Mr. H. Jones, Tredegar, yn awr o Gaerfyrddin, oddiwrth Act. xiii. 36, ac yn y capel, traddodwyd pregeth fer gan ei gydweinidog, Mr. J. Jones, oddiar Psalm exvi. 7,-testyn a ddewisasai ef yn ei gystudd. Areithiodd Mr. E. Rowlands, Pontypool, wrth y bedd, ac yna trodd y dorf fawr alarus ymaith mewn hiraeth a dagrau.

Dichon na fu un gweinidog erioed a gerid ac a berchid yn fwy cyffredinol na David Thomas, Penmain. Ni chlywsom neb yn rhoddi gair drwg iddo. Yr oedd ei dymer addfwyn a siriol, ei ffraethineb diddrwg, ei fywyd llafurus a santaidd, ei ostyngeiddrwydd a'i gymwynasgarwch, a'i holl ragoriaethau fel dyn, Cristion, a gweinidog yr efengyl y fath nad oedd yn bosibl i neb lai na'i anwylo. Fel pregethwr, yr oedd yn gynnwysfawr, tarawiadol, eglur, a nodedig o swynol i bob math o wrandawyr, er nad oedd yn waeddwr soniarus nac yn areithiwr hyawdl. Dywedai lawer o synhwyr mewn ychydig o eiriau, yr hyn a barai i ddynion craffus a gwybodus ei fawr hoffi, ac yr oedd ei arabedd (wit) diderfyn a'i eglurder yn gorfodi y dynion mwyaf anwybodus a difeddwl i sylwi ar yr hyn a ddywedai.

Mae ei ddywediadau tarawiadol a'i atebion ffraeth yn cael eu coffau gan ganoedd i'r dydd heddyw. Byddai cofnodi un o gant o honynt yn fwy nag a ganiatäi ein terfynau ni. Rhoddwn y rhai canlynol fel engrhaifft. Un bore cyfarfyddodd a chymydog iddo, yr hwn a ddaliai y gallai Cristion. gyrhaedd perffeithrwydd dibechod ar y ddaear. Ymddangosai y gwr y boreu hwnw yn dra phruddaidd yr olwg arno. "Hawyr" ebe Mr. Thomas, "paham yr ydych yn edrych mor drist." "O!" meddai, "yr wyf mewn gofid blin. Ar ol byw un mis ar ddeg heb bechu gymaint ag unwaith, cyfarfyddais y ddoe â phrofedigaeth, a phechais." Wel," atebai Mr. Thomas, "tost fu eich anhap. Pe buasech yn aros mis yn hwy yn eich perffeithrwydd, buasech wedi ennill eich plwyf ar dir santeiddrwydd." Pan yn pregethu mewn cyfarfod yn y Groeswen oddiwrth y geiriau, "Pa dduw sydd fel Tydi?" ar ol dyweyd yn rhagorol am addasrwydd y gwir Dduw i fod yn wrthddrych addoliad ac ymddiried ei greaduriaid, a'i ragoriaeth ar eulunod y cenhedloedd, aeth rhagddo i ddangos ffolineb y rhai a ymddiriedent mewn gau dduwiau. "Yr oedd gwr," ebe fe, "yn mynydd Ephraim yn cadw duw ac offeiriad yn ei dŷ, ond rhyw ddiwrnod daeth meibion Dan heibio a chymerasant y duw a'r offeiriad ymaith. Wfft y fath dduw yn ffaelu cadw ei hun rhag lladron." Weithiau, ond yn lled anfynych, byddai colyn yn ei wit. Wrth bregethu mewn cyfarfod cyhoeddus, mewn cymydogaeth lle yr oedd rhai pregethwyr Ymneillduol newydd fyned yn offeiriaid, digwyddodd iddo yn y bregeth grybwyll dameg y goruchwyliwr annghyfiawn, er egluro rhyw fater, ac wrth adrodd y geiriau, "Cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus genyf," safodd am ychydig nes tynu sylw pawb, yna dywedodd "yn wir druan yr wyt mewn cyflwr tra chyfyng, canys wrth weithio neu gardota y mae pawb yn y wlad hon yn cael eu tamaid. Ond gwrando, cerdd yn offeiriad, ac yna ti gei fodd i fyw heb na gweithio na chardota."

Ni oddefa ein terfynau i ni ymhelaethu. Dydd y farn yn unig a ddatguddia pa faint o ddaioni a wnaed gan David Thomas yn y cylch helaeth