Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y llafuriodd ynddo am haner cant o flynyddau. Er fod oes braidd wedi myned heibio er pan y mae yn ei fedd, y mae ei enw etto yn perarogli trwy yr holl ardaloedd. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."

John Jones, gweler hanes eglwys Heolyfelin, Casnewydd.

Edward Rees, gweler hanes Salem, Llanymddyfri.

Ellis Hughes, y gweinidog presenol yn Mhenmain sydd fab i'r efengylwr Hybarch William Hughes, Dinas Mawddwy. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Nhreffynon Awst 25ain a'r 26ain, 1835. Wedi llafurio yno gyda chymeradwyaeth mawr am dair blynedd ar ddeg, symudodd i Benmain yn Awst, 1848, felly y mae yn weinidog urddedig er's yn agos i bymtheng mlynedd ar hugain. Mae Mr. Hughes yn bregethwr grymus, ac yn ysgrifenydd galluog. Arhoed ei fwa yn gryf am lawer o flynyddau etto.

HANOVER.

Nodasom yn hanes Llanfaches fod cangen o'r eglwys hono yn ymgynnull mewn gwahanol fanau yn mhlwyfydd Llantrisant, Llangwm, Brynbiga, Llangybi, a rhai plwyfydd cyfagos eraill, a'i bod ar ol adferiad Siarl II, wedi myned yn eglwys wahanedig oddiwrth y fam eglwys. Ryw amser rhwng 1662 a 1667, daeth Mr. William Thomas, yr hwn oedd Fedyddiwr, ac a fuasai yn perthyn i eglwys Mr. Myles, o Ilston, i'r gymydogaeth hon, a phriododd ferch Mr. George Morgan, Llantrisant, un o brif aelodau yr eglwys. Efe oedd y prif weinidog yma hyd ei farwolaeth yn 1671, ond yr oedd amryw ereill yn gynnorthwywyr iddo. Yn ei amser, ac mae yn debygol, trwy ei ddylanwad ef, ennillodd golygiadau y Bedyddwyr lawer o dir yn yr eglwys, fel, erbyn y flwyddyn 1675, yn ol tystiolaeth Mr. Henry Maurice, yr oedd agos yr holl eglwys o'r golygiadau hyny, ond etto dros gymundeb agored rhwng credinwyr beth bynag fuasai eu golygiadau am fedydd. Os oedd y mwyafrif o honynt ar ryw adeg yn Fedyddwyr, mae yn sicr nad oeddynt oll. Yn 1672, cymerodd George Morgan, tad ynnghyfraith William Thomas, drwydded ar ei dy fel lle addoliad i'r Annibynwyr, ac ar yr un dydd, cymerodd George Robinson drwydded fel pregethwr Annibynol yn nhy George Morgan. Cymerodd Walter Williams, aelod arall o'r eglwys, drwydded fel pregethwr Annibynol yn mhlwyf Llangybi, ond fel Bedyddiwr y trwyddedwyd Mr. Christopher Price i bregethu yn ei dy ei hun, yn Abergavenny. Yn y flwyddyn 1675, dewiswyd Mr. Thomas Quarrell yn weinidog, a'r Meistriaid C. Price, Walter Williams, a William Millman, yn gynnorthwywyr iddo. Tybia Mr. Joshua Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, fod yn rhaid fod Mr. Quarrell yn Fedyddiwr cyn iddo gael ei ddewis yn weinidog ar yr eglwys hon, ond nis medrwn ni ganfod y rheidrwydd o hyny, gan mai eglwys gymysg o'r ddau enwad ydoedd, ac yn dal yn dyn at gymundeb agored. Hefyd. y mae Mr. Quarrell yn cael ei grybwyll yn llaw ysgrifau Lambeth, yn 1669, fel pregethwr Annibynol, yn mhlwyfydd Marshfield, Bedwas, ac Eglwysilan, mewn cysylltiad a John Powell, M.A., a Watkin Jones. Gellid ychwanegu, gan fod Mr. Quarrell yn bregethwr enwog er dyddiau Cromwell, ac iddo fyw am fwy nag ugain mlynedd, wedi cael deddf y Goddefiad, y buasai ei enw yn sicr o fod yn nghofnodion cymmanfaoedd y Bedyddwyr o 1688 i 1709, pe buasai yn Fedyddiwr, ond nid oes gair o son am dano, pryd y mae