Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlynedd ar ol hyn, ond nid ydym yn cael yn nyddlyfrau Phillip Dafydd, un crybwylliad am gyfarfod gweinidogion yno mwyach yn ei ddyddiau ef. Os na ddarfu i Mr. Davies wneyd llawer o les i'r achos yn ei fywyd, bu yn ofalus i'w waddoli yn lled dda, os yw hyny yn rhyw les iddo. Mae yn debygol mai gyda ei wraig y cafodd ef ei gyfoeth, a darfu iddo ef a hithau mewn gweithred ddyogel wneyd y ty addoliad, y fynwent, ty y gweinidog, a'r tir perthynol iddo, yn feddiant dros byth i weinidogion Hanover. Yr oedd ei ofal yn gymaint am weinidogaeth ddysgedig fel y gosododd yn amod yn y weithred, na byddai neb yn addas i'w ddewis yn weinidog yno heb ei fod wedi cael addysg athrofaol. Ymddangosai nodwedd y dyn yn hyn fel mewn hynodion ereill. Bu Mrs. Davies farw yn 1765, yn 81 oed, a Mr. Davies yn 1767, yn 73 oed. Yr oedd yr achos mewn sefyllfa isel iawn pan y bu ef farw, ac agwedd pethau yn lled ofidus yno am dymor wedi hyny. Yn mhen ychydig wythnosau wedi claddu Mr. Davies, daeth yno un James Jones, i geisio ymwthio i'r weinidogaeth, ac ymddengys iddo beri gradd o annghydfod yn yr eglwys. Cyfeiria Phillip Dafydd at hyny fel y canlyn:—"Mai 5ed, 1768. Bum heddyw yn Hanover ond cefais fy arbed i bregethu gan Mr. Rees Davies, Canerw. Gweinyddais i swper yr Arglwydd, ac yr oedd y lle yn llawn. Buom yn ymdrechu troi James Jones allan oddi yno, yr hwn nid yw yn well na maen tramgwydd yn mhob man; ac yr wyf fi yn credu na chaiff ei gefnogi yno mwyach gan y bobl, na chan neb o'r ardalwyr, oblegid y mae ei gymmeriad mor ddrwg. Yr oedd Mr. Rees Davies, Canerw, Mr. John Griffiths, Glandwr, a minau yn bresenol." Nis gwyddom ddim am y James Jones hwn, o ba le y daeth, nac i ba le yr aeth, ond ymddengys i'w ymweliad a Hanover effeithio gradd o niwed yno i'r achos oedd yn ddigon gwan yn barod. Cawn Phillip Dafydd yno drachefn a'r y 23ain o Hydref, 1768, pryd y dywed, "Pregethais heddyw yn Hanover oddiwrth Luc ix. 23. Yr oedd y lle yn llawn, a chefais oedfa hwylus. Diolch i Dduw. Cafodd pedwar eu derbyn i'r eglwys, ac y mae yn ymddangos fel pe byddai gan yr Arglwydd ryw waith i'w wneyd yno, ond y mae Satan trwy ei offerynau yn dechreu ei wrthwynebu eisioes." Bu Mr. Dafydd yno drachefn Ionawr 14eg, 1769, yn cadw cyfarfod cymundeb, pryd y derbyniodd un aelod. Etto Gorphenaf 2il, yn yr un flwyddyn, a Gorphenaf 29ain, a Tachwedd 18ed, 1770. Gan nad ydym yn cael un sylw ganddo o berthynas i sefyllfa yr achos mewn cysylltiad a'r ymweliadau hyn, yr ydym yn casglu fod pethau yn dawel a rheolaidd yno.

Y gweinidog nesaf oedd Mr. Evan Lewis, un o'r Myfyrwyr o'r athrofa yn Abergavenny. Cafodd ef ei urddo yn haf y flwyddyn 1771, ond yr oedd wedi bod yn pregethu yn fisol, neu fynychach i'r gynnulleidfa dros У rhan fwyaf o'r amser y bu yn fyfyriwr yn Abergavenny. Ymddengys ei fod yn ddyn ieuangc llafurus a doniol iawn, ac iddo fod yn hynod o lwyddianus trwy dymor byr ei weinidogaeth, yr hyn ni bu fawr dros ddwy flynedd, canys bu farw ar yr 28ain o Dachwedd, 1773, yn 25ain oed. Yr oedd hen bobl yn fyw yn y gymydogaeth, tuag ugain mlynedd yn ol, oedd yn ei gofio, ac yn son yn barchus am ei enwogrwydd a'i lwyddiant. Mor dywyll yw ffyrdd Rhagluniaeth:—Rees Davies yn cael ei adael am dair blynedd a deugain, ac yn y rhan olaf o'i dymor yn pregethu y rhan fwyaf o'r gynnull-eidfa allan; ac Evan Lewis, gyda bod ei ddefnyddioldeb yn dechreu cael ei werthfawrogi gan yr eglwys a'r ardalwyr, yn cael ei symud ymaith. "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef," ond er hyny, "cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfaingc ef."