Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD.

WELE y gyfrol gyntaf o HANES EGLWYSI ANNIBYNOL CYMRU wedi ei chwblhau! Parodd i ni lafur mawr a phryder dwys, ac er y gwyddom ei bod yn mhell o fod yn berffaith, etto, dichon y buasai yn anhawdd o dan yr amgylchiadau ei gwneyd yn fwy cyflawn a diwall. Mae rhai camgymeriadau wedi digwydd, ac yr ydym wedi dyfod o hyd i rai ffeithiau pwysig ar ol ysgrifenu yr hanes, a dichon y deuwn o hyd i ychwaneg etto, ond bydd genym Attodiad yn niwedd y gwaith, lle y cywirir y camgymeriadau a welir, a chyflen wir hyd y gellir, bob peth a fyddo yn ddiffygiol. Rhydd i ni foddlonrwydd mawr fod y llyfr yn derbyn cymeradwyaeth mor gyffredinol. Yr ydym yn prisio hyny yn uwch nag unrhyw elw a allasai ei gyhoeddiad ei ddwyn i ni. Mae y gwaith yn chwyddo dan ein dwylaw yn fwy na'n disgwyliad; ond yr oedd yr hanesion a anfonid i ni mor ddyddorol, a llawer o gymeriadau na ragwelwyd hwy genym yn troi i fyny, fel y tybiem, mai cam a'r HANES a fuasai eu cwtogi. Dechreuasom yn sir Fynwy, oblegid mai yno y dechreuodd Ymneillduaeth yn Nghymru, ac yr ydym yn cymeryd De a Gogledd bob yn ail, fel y bydd y gwaith yn ddyddorol gan ddau—parth y Dywysogaeth. Bydd yr ail gyfrol yn dechreu gyda Hanes Eglwysi sir Forganwg, ac y mae yr eglwysi yno mor lluosog, a chynifer o wyr enwog wedi bod mewn cysylltiad a hwy o oes i oes, fel y cymer eu hanes y rhan fwyaf o'r ail gyfrol; ond nis gall hanes eglwysi Morganwg lai na bod yn ddyddorol gan holl siroedd eraill Cymru, gan mai y siroedd eraill a roddodd iddynt y rhan fwyaf o'u gweinidogion a'u haelodau. Yr ydym yn dymuno cydnabod ein holl gyfeillion am y cynorthwy a roisant i ni i gasglu defnyddiau yr hanes, ac am y derbyniad croesawgar y mae y gwaith wedi ei gael i ganoedd o deuluoedd; a'n dymuniad diffuant ydyw am i "ddeuparth o ysbryd" y tadau y cofnodwn eu gweithredoedd nerthol, ddisgyn arnom ni eu holynwyr, fel y delom i "ddilyn eu ffydd," ac i "ystyried diwedd eu hymarweddiad."

Ond yn benaf oll, dymunem gydnabod yr Arglwydd am estyniad ein bywyd a diogeliad ein hiechyd i orphen y gyfrol gyntaf o'r gwaith, ac yr ydym yn gobeithio na lesteirir ni gan ddim, nes y byddo hyn o orchwyl a ddechreuwyd genym wedi ei ddwyn i orpheniad.

Mehefin 5ed, 1871.