gwbl ofer. Gweddiodd Mr. William Williams, a phregethodd Mr. Simon Williams, oddiwrth 1 Cor. x. 12." Yr oedd Mr. Dafydd, Mr. Edmund Jones, a Mr. J. Griffiths, o Abergavenny, wedi bod yno o'r blaen ar yr 2il o Chwefror ar yr un neges, ond wedi methu gwneyd dim y pryd hwnw; ac y mae yn ymddangos, gan i Mr. Thomas ymadael mor fuan, na ddarfu i'r ail gynygiad lwyddo i lwyr wellhau y clwyf. Yn 1787, derbyniodd Mr. Thomas alwad oddiwrth yr eglwys yn y Bala, a symudodd yno.
Yn nechreu y flwyddyn 1790, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Emanuel Davies, myfyriwr o Athrofa Croesoswallt. Daeth yno i ddechreu ei weinidogaeth yn mis Mai y flwyddyn hono, ac urddwyd ef Hydref 22ain, yn yr un flwyddyn. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol yn ei urddiad, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth: Edmund Jones, Pontypool, Stephen Lloyd, Brynberian, David Thomas, Penmain, John Griffiths, Abergavenny, John Griffiths, Glandwr, Benjamin Evans, Drewen, a Thomas Bowen, Maesyronen. Cafodd Mr. Davies oes hwy i lafurio yn Hanover nag un gweinidog a fu yno o'i flaen. Bu yno o Mai, 1790, hyd Awst 29ain, 1838, pryd y gorphenodd ei yrfa ddaearol mewn tangnefedd. Yr oedd Mr. Davies yn wr bonheddig yn holl ystyr yr ymadrodd. Yr oedd yn ysgolhaig da, yn ddyn llawn o synwyr cyffredin, yn bregethwr sylweddol, ac yn gwisgo cymmeriad difrycheulyd, a thrwy fod y pethau rhagorol hyn wedi cydgyfarfod ynddo, cadwodd i fyny urddas y weinidogaeth efengylaidd yn yr ardal trwy ei oes hirfaith. Gan nad oedd yn bregethwr poblogaidd, nac yn ddyn cyhoeddus iawn, ni bu ei weinidogaeth yn foddion i luosogi nemawr ar y gynnulleidfa, nac i helaethu terfynau yr achos. Gadawodd yr eglwys rywbeth yn gyffelyb i'r hyn y cafodd hi o ran rhif a safle gymdeithasol. Mae hyn yn fwy nag a ellir ddyweyd am lawer un mwy poblogaidd a chyhoeddus na Mr. Davies.
Yn y flwyddyn 1839, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Llewellyn R. Powell, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o'r America, lle y buasai yn gweinidogaethu am rai blynyddau. Yn y flwyddyn hono hefyd ail-adeiladwyd y capel. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Hanover, agorodd Mr. Powell ysgol er parotoi pregethwyr ieuangc i'r colegau. Daeth ei ysgol yn fuan yn enwog iawn, a chafodd amryw o'r rhai sydd yn awr yn cael eu rhifo yn mysg prif weinidogion Cymru ddechreuad eu haddysg yno. Nid oedd Mr. Powell mwy na'i ragflaenor, Mr. Davies, yn bregethwr doniol, ond yr oedd ynddo elfenau a'i gwnelent yn ddyn o ddylanwad a gwasanaeth yn y gymydogaeth. Yn y flwyddyn 1847, rhoddodd ofal yr eglwys i fyny, a dychwelodd i'r America.
Yn mis Medi, 1847, derbyniodd Mr. Robert Thomas, Rhaiadrwy, alwad unfrydol yr eglwys, â'r hon y cydsyniodd, ac yno y mae o'r pryd hwnw hyd yn awr yn ddefnyddiol a pharchus gan yr eglwys a'r holl ardal. Yn y flwyddyn 1869, adeiladwyd festri ac ysgoldy cyfleus yn ymyl y capel. Rhodd y diweddar Miss Morgans, o'r Lower-house, Llanover, yw yr adeiladau cyfleus hyn.
Er nad yw eglwys Hanover ond bychan o rif, mewn cyferbyniad i lawer o eglwysi Cymru, nid oes un eglwys fwy anrhydeddus yn y Dywysogaeth. Mae o oes i oes wedi cael ei gwneyd i fyny o rai o'r teuluoedd mwyaf parchus yn yr holl wlad. Gwneir y gynnulleidfa i fyny yn bresenol o bersonau o naw o wahanol blwyfydd. Mae hon yn un o'r ychydig eglwysi gwaddoledig, sydd hyd yn hyn wedi diange rhag i'w gwaddol droi yn felldith iddi. Ni wna ychydig waddol un niwed i eglwys tra y byddo