Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gweinidogion yn ddynion da, cydwybodol, a llafurus, ond y perygl yw i ddiogyn diegwyddor, didalent, a diwerth, ddyfod i feddiant o waddol eglwysig. Bydd un o'r fath yn sicr o farchogaeth achos i farwolaeth. Mae llawer achos, a fuasai gynt yn flodeuog, wedi cael ei ddifetha gan waddol. Gweddied eglwys Hanover am i'w gweinidog teilwng presenol, pan elwir ef oddiwrth ei waith at ei wobr, gael ei ddilyn gan un o gyffelyb feddwl.

Cafodd y personau canlynol, ac o bosibl ereill, nad ydym ni wedi dyfod o hyd i'w henwau, eu codi i bregethu yn eglwys Hanover.

William Morgan, mab Mr. Francis Morgan, Mount Pleasant. Dechreuodd bregethu yn fuan ar ol sefydliad Mr. Emanuel Davies yno fel gweinidog, ac ar ol cael ychydig o addysg ragbarotoawl, dan ofal ei weinidog, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ngwrexham, yn Chwefror 1792. Wedi gorphen ei amser yno, cafodd ei urddo yn Brigstock, yn sir Northampton, yn 1796; a dywedai ei athraw, Dr. Jenkin Lewis, y buasai yn debyg o droi allan yn ddyn defnyddiol. Symudodd o'r sir hono i gymydogaeth Preston, yn sir Lancaster, a bu farw yn Elswick, er's tua deng mlynedd ar hugain yn ol. Yr oedd Mrs. Jones, gwraig gyntaf Mr. Morris Jones, gynt o'r Farteg, yn chwaer iddo.

Daniel James. Yr oedd y gwr da hwn yn enedigol o ardal Brynberian, sir Benfro. Mae yn debygol mai ei adnabyddiaeth â Mr. E. Davies, yr hwn hefyd oedd yn enedigol o'r ardal hono, a'i harweiniodd i gartrefu yn ardal Hanover. Yn Hanover y dechreuodd bregethu, ac yn mhen rhyw amser wedi hyny, symudodd i ardal y New Inn, ac ymaelododd yn yr eglwys hono. Amaethwr cyfrifol ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu yn pregethu yn achlysurol am fwy na hanner can' mlynedd. Cyfrifid ef yn Gristion cywir, ac yr oedd yn ddyn dylanwadol a defnyddiol iawn. Bu farw Mehefin 25ain, 1857, yn 84 oed, a chladdwyd ef wrth gapel y New Inn. Mab iddo ef yw Mr. D. B. James, gweinidog presenol Castle Green, Caerodor.

Josiah Davies, mab Mr. E. Davies, y gweinidog. Ganwyd ef Hydref 29, 1794. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg o'i oed, ac yn fuan wedi hyny dechreucdd bregethu. Yn Ionawr 1816, derbyniwyd ef i'r Athrofa Orllewinol, yr hon a gedwir yn awr yn Plymouth. Yn nechreu y flwyddyn 1821, urddwyd ef yn King's Bridge, lle y bu yn llafurio gyda pharch a llwyddiant am naw mlynedd. Bu farw o dwymyn, yn niwedd y flwyddyn 1829. Gadawodd wraig a dwy eneth fechan, ac eglwys a'i carai yn fawr, i alaru am ei farwolaeth yn mlodeu ei ddyddiau. Dywedir ei fod yn bregethwr da, synwyrol, a derbyniol, ond nad oedd yn hyawdl.

Theophilus Davies, mab arall i Mr. E. Davies, y gweinidog. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1797, ac addysgwyd ef yr un amser a'i frawd yn yr Athrofa Orllewinol. Cafodd ei urddo yn Ludlow, yn 1821. Bu wedi hyny am flynyddau yn gweinidogaethu yn Newton, gerllaw Liverpool, ac yn Hungerford. Mae yn awr yn byw yn agos i Stockport, ac yn teimlo baich henaint yn ei wasgu. Mae Mr. Davies wedi treulio oes yn gymmeriad difrycheulyd, ac yn barchus gan bawb o'i gydnabod.

Edward Charles Jenkins. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mehefin 1813, a dechreuodd bregethu yn 1821. Urddwyd ef yn Salem, Bedwellty, yn 1830. Gweler ychwaneg am y brawd rhagorol hwn yn hanes Salem, a Moriah, Rhymni.