Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Robert Jermain Thomas, B.A., mab Mr. R. Thomas, gweinidog presenol Hanover, a anwyd Medi 7fed, 1840, yn Rhaiadr, lle yr oedd ei dad y pryd hwnw yn gweinidogaethu. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Hanover pan yn bymtheg mlwydd oed. Bu am flwyddyn, ar ol hyn, yn is-athraw mewn ysgol a gedwid gan Mr. Alfred Newth, gweinidog yr Annibynwyr yn Oundle, sir Northampton. Yna, pan yn un-ar-bymtheg oed, ymaelododd (matriculated) yn mhrif athrofa Llundain. Yr oedd cyn hyn yn ysgolhaig rhagorol. Treuliasai dair blynedd yn ysgol Llanymddyfri, dan arolygiad yr enwog Archddeacon Williams, lle y meistrolodd y Lladin, y Groeg, a'r Ffrangaeg, Ar ol ymaelodi yn mhrif athrofa Llundain, dychwelodd adref a dechreuodd bregethu. Ei destyn cyntaf oedd Heb. xiii. 8. Y flwyddyn ganlynol derbyniwyd ef i New College, Llundain, lle y bu yn fyfyriwr diwyd am bum' mlynedd, ac yr enillodd y Mill's Scholarship. Cafodd hefyd ei raddio yn B.A. yn mhrif athrofa Llundain. Mehefin 4ydd, 1863, urddwyd ef yn Hanover, i fyned allan yn genhadwr dan Gymdeithas Genhadol Llundain. Y mis canlynol, ymadawodd ef a'i briod am Shanghai, lle y tiriasant yn ddyogel yn Rhagfyr 1863. Y Mawrth canlynol, bu farw ei briod ar enedigaeth plentyn anamserol. Effeithiodd hyny yn ddwys iawn ar ei gorff a'i feddwl, fel y bu am dymor yn analluog i wneyd dim. Ar y dybiaeth y buasai newid lle yn fanteisiol er adferiad ei iechyd, penodwyd ef i genhadaeth Peking. Ar ei ffordd tuag yno, cymerodd daith genhadol faith trwy Corea. Yn ystod y daith hono, meistrolodd iaith Coreaid. Efe oedd y cenhadwr Protestanaidd cyntaf a ymwelodd a Corea. Derbyniwyd ef yn garedig gan y bobl. Bu yn egluro natur cristionogaeth iddynt, a ffurfiodd farn uchel am gyfaddasder y dalaeth hono fel maes cenhadol.

Wedi lladdiad y cenhadau Ffrengig, gan y Coreaid yn 1865, parotodd yr Uchel Lyngesydd Ffrengig ryfelgyrch yn eu herbyn, a chan nad oedd neb o'r Ewropeaid yn China, ond Mr. Thomas, yn medru siarad eu hiaith, perswadiwyd ef i fyned gyda y llynges fel cyfieithydd. I'r dyben hwnw aeth o Peking i Chefoo, a phan na ddarfu iddo gyfarfod a'r llynges yno, gan faint ei awydd i ymweled a Corea, er perffeithio ei wybodaeth o'r iaith, aeth i fyny ar fwrdd llong Americanaidd o'r enw, The General Sharman. Pan aeth y llong ar y traeth ar ymyl yr afon, daeth y Coreaid yno a lladdasant y dwylaw a'r teithwyr, a Mr. Thomas yn eu plith. Tybir mai ar y 29ain o Awst 1866, y gwnaed yr erchyll-waith hwn. Fel hyn, rhoddwyd terfyn disymwth ar yrfa un o'r cenhadon mwyaf gobeithiol a anfonwyd allan o Frydain erioed. Yr oedd gallu Mr. Thomas i ddysgu ieithoedd yn ddigyffelyb. Cyn myned allan o'r wlad hon, yr oedd wedi meistroli y rhan fwyaf o brif ieithoedd Ewrop, ac ni bu nemawr o amser yn China cyn meistroli iaith y wlad hono, ac fel y nodasom, yr oedd wedi dyfod yn lled gyfarwydd yn iaith y Coreaid. Pe cawsai fyw, mae yn debygol y buasai yn un o'r ieithwyr goreu yn y byd, a thrwy hyny buasai o wasanaeth annirnadwy i'r achos cenhadol; ond gwelodd y Llywydd doeth yn dda ei alw ato ei hun ar gychwyniad ei yrfa o ddefnyddioldeb. Gan ei fod Ef yn anfeidrol yn ei ddoethineb, ein dyledswydd ni yw tewi, neu ddyweyd, "Yr Arglwydd yw efe gwnaed a fyddo da yn ei olwg."