Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS QUARRELL:—Mae hanes y gweinidog llafurus hwn yn lled. anhysbys i ni. Mae yn debygol mai un genedigol o sir Faesyfed neu sir Drefaldwyn ydoedd. Yr ydym yn cyfarfod ag amryw bersonau o'r enw Quarrell yn hanes Annghydffurfwyr yr ail ganrif ar bymtheg. Gweddw Mr. Paul Quarrell, masnachwr yn Presteign, oedd gwraig gyntaf Mr. Vavasor Powell; James Quarrell oedd gweinidog cyntaf yr eglwys Annibynol yn yr Amwythig, ac yr oedd un Edmund Quarrell yn bregethwr efengylaidd yn sir Henffordd yn amser y werin-lywodraeth. Mae yn dra thebygol fod Mr. Thomas Quarrell yn frawd neu ryw berthynas agos i'r personau hyn. Yr oedd ef yn pregethu yn 1653, ac o bosibl rai blynyddau cyn hyny. Yn 1669 yr oedd yn byw yn yr Eglwys Newydd, gerllaw Caerdydd, ac yn pregethu, fel gweinidog Annibynol yn y plwyfydd cylchynol. Yn 1675, sefydlodd fel gweinidog yr eglwys a gyfarfyddai yn Llantrisant, Llangwm, a Brynbiga, Mynwy. Mae Mr. Thomas, hanesydd y Bedyddwyr, yn cymeryd yn ganiataol mai Bedyddiwr oedd Mr. Quarrell, gan iddo gael galwad gan eglwys yr oedd y rhan fwyaf o'i haelodau y pryd hwnw yn Fedyddwyr! ond yr ydym ninau yn cymeryd yn ganiataol nad Bedyddiwr ydoedd gan nad oes un hanes iddo gael ei drochi; gan ei fod yn cael ei ddarlunio fel gweinidog Annibynol yn 1669; gan nad oes un gair o son am dano yn hanes cymanfaoedd y Bedyddwyr o 1688 hyd 1709, pryd y crybwyllir dynion llawer mwy dinod a berthynent i'r un eglwys ag yntau; a chan fod yr eglwys yn selog dros gymundeb rhydd. Dywedir mai mewn lle o'r enw Tygwyn, yn mhlwyf Llangwm, y preswyliai Mr. Quarrell yn mlynyddau diweddaf ei oes, ac iddo farw mewn henaint teg tua y flwyddyn 1709.

WALTER WILLIAMS:—Yr hanes cyntaf a gawn am dano ef yw iddo gymeryd trwydded i bregethu fel gweinidog Annibynol yn nhy Edward Walters, yn mhlwyf Llangybi, Mynwy, Gorphenaf 22ain, 1672, a'r hanes diweddaf sydd genym yw, ei fod yn cynnorthwyo Mr. Quarrell yn y flwyddyn 1690. Nis gwyddom pa cyhyd y bu fyw wedi hyny.

HUGH PUGH:—Ychydig iawn o hanes y gŵr doniol hwn hefyd sydd genym. Yn mhlwyf Llanllowell, gerllaw Brynbiga, y preswyliai, ond nis gwyddom pa un ai yno ai yn rhywle arall y ganwyd ef. Mae yn lled sier mai yn Brynllwarch y derbyniodd ei addysg. Cafodd ei urddo fel gweinidog y rhan Annibynol o eglwys Mr. Quarrell ryw bryd cyn y flwyddyn 1696, ond nis gwyddom pa un ai fel cynnorthwywyr neu fel canlyniedydd y gŵr da hwnw yr urddwyd ef. Yr oedd yr eglwys yn ei amser ef yn cyfarfod yn y Goitre, Brynbiga, a Llangwm. Dywed Mr. Thomas, yn hanes y Bedyddwyr, iddo ef weled "Pulpud Mr. Pugh yn Brynbiga," a bod "H. P., 1696," mewn llythyrenau wedi eu gwneyd o hoelion pres arno. Dywed hefyd fod y geiriau "Dum vivet" wedi eu gosod yr un modd ar bulpud y Goitre. Mae yn ymddangos fod rhyw anghydfod lled fawr wedi cyfodi rhwng Mr. Pugh a rhai o'i frodyr yn y weinidogaeth, tua y flwyddyn 1698. Mae Mr. Rees Protheroe, wedi hyny o Gaerdydd, mewn llythyr at Mr. Blackmore, o Worcester, dyddiedig Rhagfyr 27ain, 1698, yn dyweyd fod Hugh Pugh wedi rhoddi ergyd mawr i grefydd yn sir Fynwy, trwy siarad yn fychanus am weinidogion, a dyweyd anwireddau cywilyddus. Gan nas gwyddom ddim am achosion