a natur yr annghydfod hwn nis gallwn fanylu dim yn ei gylch. Yr oedd Hugh Pugh yn bregethwr poblogaidd annghyffredin, ac yn Galfiniad selog. Dywed hanesydd y Bedyddwyr wrthym ei fod wedi newid ei farn am fedydd cyn ei farw, ac wedi bwriadu cymeryd ei drochi, ond iddo farw yn lled ddisymwth o'r frech wen cyn cael cyfle i hyny. Ychydig o bwys a roddwn ar y chwedl hon. Mae llawer o bregethwyr enwog ar ol Hugh Pugh wedi cael y gair iddynt newid eu barn am fedydd heb un sail i hyny. Tybir i Mr. Pugh farw yn ddyn cymharol o ieuangc tua y flwyddyn 1709. Yr oedd Mr. Pugh yn derbyn tair punt y flwyddyn o'r Drysorfa Gynnulleidfaol.
MORGAN THOMAS:—Nid oes genym unrhyw hanes i'w roddi am y gŵr da hwn, amgen na'i fod yn weinidog yn y Goitre yn 1718, a'i fod y pryd hwnw yn cyfaneddu yn agos i'r Drehir, ar gyffiniau sir Henffordd. Yr ydym yn cael yr enw Morgan Thomas yn mysg y myfyrwyr a addysgwyd gan Mr. Jones, Brynllwarch, ac y mae yn lled sicr mai efe oedd hwnw. Mac amser ei farwolaeth yn anhysbys i ni.
REES DAVIES:—Mae yn ymddangos mai un genedigol o sir Aberteifi oedd ef. Yn llechres yr aelodau, yn hen lyfr eglwys Abergavenny, yr ydym yn cael enw Rees Davies, a'r nodiad canlynol o berthynas iddo: "Rees Davies, yn awr (1724) yn weinidog yr eglwys yn y Goitre. Derbyniwyd ef i'r eglwys hon trwy lythyr o eglwys Crugymaen, yn sir Aberteifi.' Yn y cyfrif o eglwysi Annibynol sir Fynwy, a anfonwyd i'r Dr. John Evans, o Lundain, gan Mr., wedi hyny Dr., Joseph Stennet, o Abergavenny, yn Ionawr 1718, enwir Rees Davies fel gweinidog yn Cromindee. Nis gwyddom am un lle o'r enw yn sir Fynwy. Tebygol mai Mr. Stennet neu Dr. Evans, wrth gopio ei law ysgrif, ddarfu gam-sillebu enw rhywle, yn yr hwn y cynelid gwasanaeth crefyddol gan gangen o eglwys y Goitre, ac mai Mr. Davies oedd yn benaf yn gwasanaethu y lle hwnw, tra y gwasanaethid y fam eglwys gan Mr. Morgan Thomas. Pa fodd bynag, yn 1724, Mr. Davies oedd y gweinidog yn y Goitre, a pharhaodd i fod yn weinidog i'r eglwys hon hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1767, pryd yr oedd yn 73 oed. Cawn y nodiad canlynol o berthynas iddo yn nyddlyfr Phillip Dafydd: "Medi 22ain, 1767. Bum heddyw yn Hanover yn nghladdedigaeth Mr. Rees Davies. Yr oedd ef yn dwyn cryn sel dros achos Ymneillduaeth, a gwnaeth fwy tuag at ei gynnaliaeth, mewn pethau allanol, na nemawr, ond gyda golwg ar ei weinidogaeth yn gyffredinol, bu yn aflwyddianus iawn, ac oherwydd ei ymddygiad anngharedig yr oedd er ys blynyddau wedi myned yn hollol ddiddefnydd. Medi 27ain. Heddyw bum yn pregethu pregeth angladdol y parchedig Mr. Rees Davies, yn Hanover. testyn oedd Phil. i. 21. Cefais rwyddineb i lefaru, ac yr oedd y capel yn llawn."
EVAN LEWIS. Yr ydym wedi methu cael allan le genedigaeth y gweinidog rhagorol hwn. Cafodd ei dderbyn i athrofa Abergavenny yn Mawrth, 1767. Ymddengys fod ei athraw, Dr. B. Davies, yn coleddu barn uchel iawn am dano. Yn ei adroddiadau blynyddol o sefyllfa yr athrofa, cawn gyfeiriadau parchus iawn ato. Yn yr adroddiad am 1769 dywed, "Y mae Evan Lewis yn wr ieuangc o alluoedd da, ac yn myned yn mlaen yn rhagorol mewn dysgeidiaeth." Etto, yn yr adroddiad am 1770 dywed, "Y mae Evan Lewis yn myned rhagddo yn foddhaol gyda ei wersi, ac y mae ei lafur fel pregethwr yn y gymydogaeth yn dderbyniol a defnyddiol