iawn." Urddwyd ef, fel y nodasom, yn nechreu haf y flwyddyn 1771, a bu farw Tachwedd 28ain, 1773, yn 25 oed. Crybwylla Phillip Dafydd ei farwolaeth yn ei ddyddlyfr yn y geiriau canlynol: "Tachwedd 30ain, 1773—Heddyw y clywais am farwolaeth Mr. Evan Lewis, gweinidog Hanover. Gwr ieuangc gobeithiol iawn, ond fe drefnodd Duw nad oedd ei yrfa i fod ond un fer. Colled ddirfawr i'r wlad yw ei farwolaeth. Ychydig gyda dwy flynedd yn ol yr urddwyd ef."
THOMAS DAVIES. Y cwbl a wyddom am dano ef yw iddo gael ei urddo yn Hanover, Mai 23ain, 1776, ac iddo ymadael yn mhen llai na phedair blynedd. Mae genym yn awr ger ein bron gyffes o'i ffydd, a anfonwyd ganddo i'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Mehefin 1778, lle y canfyddwn mai Calfiniad o ran golygiadau ydoedd. Cyfrifid ef yn bregethwr galluog gan Phillip Dafydd, yr hwn a ysgrifena fel y canlyn yn ei ddyddlyfr am Gorphenaf 1af, 1778: "Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn Mhenmain, lle y pregethodd Mr. John Davies, Cwmllynfell, (Alltwen), oddiwrth Ioan x. 28. Yr oedd yn ei bregeth yn dal yn gadarn dros ddyogelwch a pharhad y saint, ond yr wyf fi yn barnu fod ei ddull o ymresymu uwchlaw cyrhaeddiadau pobl gyffredin. Ar ei ol pregethodd Mr. Thomas Davies, o Hanover, oddiwrth Mat. v. 4. Pregeth dda ac eglur, ac yn cael ei thraddodi gyda gwresogrwydd gweddaidd."
WILLIAM THOMAS, gweler hanes eglwys y Bala.
EMANUEL DAVIES. Ganwyd ef yn ardal Brynberian, sir Benfro, Mawrth 3ydd, 1758. Derbyniwyd ef yn aelod i eglwys Brynberian pan oedd yn bymtheng mlwydd oed. Ar ol iddo ddechreu pregethu bu am ychydig amser yn yr ysgol gyda Mr. John Griffiths, Glandwr, ac yn amser y Nadolig 1784, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Croesoswallt. Dywed ei athraw, Dr. Edward Williams, yn ei adroddiad o sefyllfa yr athrofa, yn Rhagfyr, 1785, nad oedd ganddo ond gwybodaeth anmherffaith iawn o'r Lladinaeg pan dderbyniwyd ef, ond ei fod yn dysgu yn rhagorol, a'i fod yn obeithiol iawn o ran galluoedd a duwioldeb. Drachefn yn ei adroddiad dyddiedig Rhagfyr 26ain, 1786, dywed fod Emanuel Davies yn mynel rhagddo yn gwbl foddhaol. Yn fuan wedi gorphen ei amser yn yr athrofa derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Hanover. Dechreuodd ei weinidogaeth yno yn Mai, 1790, ac urddwyd ef yn yr Hydref canlynol. Yn mhen ychydig amser ar ol ei urddiad priododd ferch Mr. Rees Harris, Pwllheli. Yr oedd Mrs. Davies yn perthyn i un o'r teuluoedd hynotaf am enwogrwydd crefyddol yn y deyrnas, am yr hwn y bydd genym lawer i ddyweyd pan ddeuwn at hanes sir Gaernarfon. Yr oedd hi ei hun yn ferch i weinidog parchus; ei mham yn ferch i Mr. David Williams, gweinidog enwog yn Ninbych; a'i mham hithau yn ferch i'r enwog Daniel Phillips, gweinidog Pwllheli o'r flwyddyn 1684 hyd 1722. Cafodd Mr. a Mrs. Davies naw o blant, a chawsant yr hyfrydwch o weled wyth o honynt yn grefyddwyr selog a defnyddiol. Aeth dau o'u meibion, fel y nodasom, i'r weinidogaeth. Bu farw Mr. Davies Awst 29ain, 1838, ond bu Mrs. Davies fyw amryw flynyddau ar ei ol ef.
Ystyrid Mr. Davies, o Hanover, gan bawb a'i hadwaenai, uchel ac isel, fel dyn dirodres, Cristion cywir, a gweinidog da i Iesu Grist.
Yr oedd yn ddyn cyflawn o wybodaeth, yn rhagorach ysgolhaig na'r rhan fwyaf o weinidogion ei oes, ac yn bregethwr buddiol, er nad oedd yn ddoniol, ac felly llanwodd ei gylch yn anrhydeddus ac yn barchus yn yr un lle am naw a deugain o flynyddau. Claddwyd ef wrth gapel Hanover, Medi 5ed, 1838,