Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd y gweinyddwyd gan Mr. E. Rowlands, Pontypool; Mr. D. Stephenson, Brynmawr; Mr. H. Jones, Tredegar, a Mr. Morris Jones, o'r Farteg.

LLEWELLYN R. POWELL sydd enedigol o ardal Ty'nycoed, Glyntawy. Dechreuodd bregethu yn ieuangc iawn. Ar ol gorphen ei amser fel myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd, ymfudodd i'r America. Yn 1839, daeth yn ol i Gymru, ac ar ol bod yn weinidog yn Hanover am wyth mlynedd dychwelodd i'r America. Mae yn bresenol yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Alliance, Ohio.

ROBERT THOMAS, a anwyd yn ardal Rhosllanerchrugog, sir Ddinbych, a dderbyniwyd yn aelod eglwysig, ac a ddechreuodd bregethu dan yr enwog W. Williams, o'r Wern. Derbyniodd ei addysg yn athrofa y Drefnewydd, ac urddwyd ef yn Glandwr, Abertawy, yn 1837; symudodd oddiyno yn mhen dwy flynedd i Raiadrwy, ac yn 1847, symudodd i Hanover, lle y mae yn bresenol, a lle yr hyderwn y bydd yn ddefnyddiol a dedwydd am flynyddau etto.

ABERGAVENNY.

Mae yn amlwg fod Ymneillduaeth wedi ymdaenu i raddau helaeth yn y dref hon a'r gymydogaeth yn lled gynar yn yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid dyma le genedigaeth William Wroth, "apostol Cymru," a Richard Symmonds, athraw yr enwog Richard Baxter, ac nid yw Trefela, lle genedigaeth Walter Cradock, ond ychydig filldiroedd oddiyma; ond y mae yn ymddangos i'r rhan luosocaf o Ymneillduwyr y dref a'r ardal hon fabwysiadu golygiadau y Bedyddwyr tua'r flwyddyn 1650, neu yn fuan ar ol hyny; a'r enwad hwnw sydd wedi parhau y cryfaf a'r lluosocaf yma, o'r pryd hwnw hyd yn bresenol. Mae manylion hanes dechreuad yr achos Annibynol yn Abergavenny, yn anhysbys i ni. Yn rhestr y trwyddedau, a roddwyd i'r Ymneillduwyr i bregethu, yn 1672, yr ydym yn cael tai John Edwards a Christopher Price yn y dref wedi eu trwyddedu at gynal gwasanaeth crefyddol gan yr "Ailfedyddwyr," a thŷ William Pritchard, yn Llandilopertholeu, i'r un enwad. Tŷ John Watkins, yn Llanwenarth, yw yr unig le o addoliad a drwyddedwyd i'r Annibynwyr yn y gymydogaeth. Cafodd y ty hwn ei drwyddedu Awst 10fed, 1672. Mae yn debygol i'r ychydig enwau a ymgynnullent i dy John Watkins, Llanwenarth, yn 1672, lwyddo i gadw yr achos yn fyw hyd nes cael nawdd Deddf y Goddefiad, yn 1688. Yn ol tystiolaeth y diweddar J. J. Morgan, Ysw., un o ddiaconiaid yr eglwys, yr hwn a fu farw Tachwedd 3ydd, 1850, yn 76 oed, henafiaid yr hwn a fuont o oes i oes yn brif golofnau yr achos er ei gychwyniad, yn niwedd y flwyddyn 1690, yr agorwyd y lle addoliad cyntaf gan yr Annibynwyr yn y dref. Ystafell eang yn Cross Street, ar gongl Monk Street ydoedd. Yn yr ystafell hon y parhawyd i ymgynnull hyd y flwyddyn 1707, pryd yr adeiladwyd capel yn Castle Street.[1] Mae enw y gweinidog cyntaf yma yn anhysbys i ni. Tua'r flwyddyn 1695, darfu i wr ieuangc o'r enw Roger Griffiths, gael ei ddewis yn weinidog. Bu yma hyd y flwyddyn 1699, pryd y bradychodd Ymneillduaeth, ac y cymerodd bersoniaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Darfu i'w waith ymwrthod ag Ymneillduaeth greu cryn gynhwrf yn y dref, a thrwy yr oll

  1. The Rev. H. J. Bunn's Letter.