Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r byd bychan Ymneillduol yn Nghymru, oblegid yr oedd yn wr dysgedig iawn, wedi derbyn ei addysg ar draul yr Ymneillduwyr; ac newydd agoryd athrofa yn Abergavenny, yr hon a amcenid i fod yn olyniad i athrofa enwog Samuel Jones, Brynllwarch. Bu yr amgylchiad agos a bod yn ddinystr i'r achos yn Abergavenny, yr hwn am ychydig amser, a rwygwyd yn ddarnau. Mewn llythyr a ysgrifenwyd at Mr. Blackmore, o Worcester, yn Hydref neu Tachwedd 1698, gan Mr. Rees Protheroe, wedi hyny o Gaerdydd, yr hwn a fuasai am ychydig amser yn athrofa Mr. Griffiths, dywedir: "Yr wyf yn clywed fod Mr. Griffiths, fy niweddar athraw, wedi pregethu yn ddiweddar beth tramgwyddus iawn i bobl Abergavenny. Efe a gyfiawnhaodd Eglwys Loegr o ran ei chred a'i ffurfiau, gan haeru fod ei holl seremonïau, nid yn unig yn ffafriol i weddeidd-dra, ond hefyd eu bod yn arwydd o ostyngeiddrwydd. Efe am hanfonodd i ymaith o'i athrofa er mwyn gwneyd lle i'w nai." Etto, mewn llythyr arall, gan yr un ysgrifenydd, a chyfeiriedig at yr un person, dyddiedig yn Llanymddyfri, Rhagfyr 27ain, 1698, ysgrifena: "Y mae Mr. Griffiths wedi pregethu pregeth yn bleidiol i gydffurfiad, ac wedi rhoddi copi o honi i rai o'r Eglwyswyr, yr hyn er hyny sydd wedi bod yn destyn siarad cyson yn mysg yr offeiriaid. Darfu iddo wedi hyny gadw un cyfarfod cymundeb, ond nid oedd ei eglwys yn gynnwysedig o ychwaneg na Charles Morgan, Samuel Rogers, dau ereill o'r dref, pump o fyfyrwyr, a phump o filwyr-pedwar-ar-ddeg ynghyd. Mae tua phedwar-ar-hugain o bersonau yn myned i dŷ cyfarfod Williams, gweinidog yr Ailfedyddwyr."[1]

Wedi i'r bobl gael eu gwasgaru trwy yr amgylchiad gofidus hwn, bu Mr. Weaver, gweinidog yr eglwys Ymneillduol yn Henffordd, yn gynnorth-wyol iawn i'w casglu yn nghyd a'u haildrefnu. Mae enw "Mr. Evans, diweddar o Abergavenny "yn nghofnodion y Bwrdd Henadurol yn Llundain, am y flwyddyn 1706. Yr ydym yn casglu oddiwrth y cry-bwylliad hwn fod y Mr. Evans yma, pwy bynag ydoedd, wedi bod yn weinidog i'r eglwys am flwyddyn neu ddwy ar ol ymadawiad Roger Griffiths.

Yn y flwyddyn 1703, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Cole, gwr ieuangc o ddinas Caerloew, yr hwn a fu yn weinidog ffyddlon a llwyddianus yma am bymtheng mlynedd. Teimlai Mr. Cole trwy yr holl amser ei fod, fel Sais analluog i bregethu yn y Gymraeg, mewn cylch nad oedd yn addas i'w lenwi, gan fod cynifer o Gymry uniaith yn y dref a'r cylchoedd. Ymdrechodd lawer i feistroli y Gymraeg, fel ag i allu pregethu yn effeithiol ynddi, ond pan welodd fod ei ymdrechion yn aflwyddianus, penderfynodd ymadael, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam eglwys yn Nghaerloew, a symudodd yno yn 1718. Gadawodd Mr. Cole yr eglwys mewn agwedd flodeuog o ran rhif a sefyllfa gymdeithasol, fel y dengys y cyfrif canlynol, a anfonwyd i Dr. John Evans, Llundain, yn Ionawr, 1718: "Rhif y gynnulleidfa 280, yn cynnwys 1 yswain, 16 o foneddigion, 7 yn byw ar eu tiroedd eu hunain, 63 o fasnachwyr, 1 amaethwr yn talu rhent am ei dir, a 7 o weithwyr." Yr oedd gan aelodau y gynnulleidfa 13 o bleidleisiau dros sir Fynwy, 3 dros sir Frycheiniog, 1 dros sir Forganwg, ac 1 dros sir Henffordd; 23 dros fwrdeisdrefi Mynwy, 3 dros Gaerodor, a 3 dros Henffordd.

  1. Aspland's Blackmore papers, pp. 31, 32.