Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1790, rhoddodd y rhan o'r eglwys a arosasai yn y capel alwad i Mr. Ebenezer Skeel, myfyriwr o athrofa Croesoswallt, a'r hon y cydsyniodd, a symudodd i Abergavenny Medi 17eg, yn yr un flwyddyn. Mehefin 15fed, 1791, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Nid oes genym un hanes am lwyddiant nac aflwyddiant neillduol ar yr achos yn amser gweinidogaeth Mr. Skeel. Cyn pen dwy flynedd wedi ei sefydliad dechreuwyd adeiladu capel newydd o fewn ychydig latheni i'r hen addoldy. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr Ebrill 23ain, 1793, ac agorwyd y capel Gorphenaf 13eg, 1794. Yr oedd yr eglwys wedi parhau i ymgynnull yn yr addoldy a adeiladesid yn 1707 hyd yn awr, yna trowyd yr adeilad hwnw yn dy anedd, ac y mae er's ugeiniau o flynyddau bellach wedi bod yn dy y gweinidog. Eiddo yr eglwys ydyw. Yn amser yr athrofa, llofft y ty oedd y capel, ac yn yr ystafelloedd odditano y cynelid yr athrofa. Nis gwyddom pa un ai dyna agwedd yr adeilad o'r dechreuad, ynte ai a'r gychwyniad yr athrofa y cyfnewidiwyd ef i'r agwedd hono.

Parhaodd cysylltiad Mr. Skeel a'r eglwys, fel ei gweinidog, hyd ddiwedd Awst 1806, yna ymneillduodd o'r weinidogaeth, ond parhaodd i drigfanu yn y dref, ac i bregethu yn achlysurol yno ac mewn lleoedd ereill yn yr ardal, hyd derfyn ei oes.

Ar ol ymadawiad Mr. Skeel derbyniodd Mr. William Harries, o Stroud, alwad gan yr eglwys, a dechreuodd ei weinidogaeth Tachwedd 14eg, 1806. Parhaodd cysylltiad Mr. Harries a'r eglwys hon hyd Tachwedd 9fed, 1817, pryd y rhoddodd ei swydd i fyny. Mae yn ymddangos i Mr. Harries fod yn lled barchus a llwyddianus yma dros rai blynyddau, ond cyn yn hir terfyniad tymor ei weinidogaeth cymerodd rhyw annghydfod le drachefn, ac ymneillduodd nifer o'r aelodau o'r capel, gan osod i fyny addoliad mewn anedd-dy, lle y bu Mr. Skeel, yr hen weinidog, yn pregethu iddynt, nes i Mr. Harries ymadael, yna dychwelasant i'r capel.

Tua haf y flwyddyn 1818, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. James James, o Benyblaen, yr hwn a fuasai yn bregethwr poblogaidd iawn yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd am un mlynedd ar bymtheg ar hugain. Nid cynt y dechreuodd ei weinidogaeth nag y darfu i'w hyawdledd, ei ffraethineb, a'i ddull bywiog ac efengylaidd o bregethu, dynu sylw cyffredinol. Gorlanwyd y capel o wrandawyr, a pharhaodd felly hyd farwolaeth y gweinidog enwog, yr hyn a gymerodd le Ebrill 10fed, 1831. Yn fuan ar ol marwolaeth Mr. James, rhoddwyd galwad i Gymro poblogaidd arall, sef Mr. David Lewis, o'r Aber, sir Frycheiniog. Dechreuodd Mr. Lewis ei weinidogaeth yn Abergavenny, Ionawr 1af, 1832, a pharhaodd yntau fel ei ragflaenydd, yn boblogaidd a rhyfeddol o barchus hyd derfyn ei oes. Bu farw yn gymharol o ieuangc, Ebrill 25ain, 1837, felly ni chafodd pobl Abergavenny fwynhau ei weinidogaeth felus ac adeiladol ef ond am y tymor byr o bedair blynedd a thri mis. Dichon na fu yr eglwys hon ar unrhyw adeg o'i hanes mor llewyrchus, bywiog, tangnefeddus, a lluosog ag y bu yn nhymor gweinidogaeth Mr. James a Mr. Lewis.

Yn Tachwedd 1837, rhoddwyd galwad i Mr. Henry John Bunn, yr hwn a fuasai yn weinidog urddedig yn Lloegr am bedair blynedd ar ddeg cyn hyn. Dechreuodd Mr. Bunn ei weinidogaeth yma ar y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1838, a rhoddodd ei swydd i fyny yn 1868, o herwydd y llesgedd cydfynedol a henaint. Yn niwedd blwyddyn gyntaf gweinidogaeth Mr. Bunn ail-adeiladwyd a helaethwyd y capel, fel y mae yn awr yn addoldy eang, ac yn cynnwys cymaint arall o eisteddleoedd a'r addoldy blaenorol.