Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn mhen ychydig fisoedd, ar ol i Mr. Bunn roddi i fyny ei weinidogaeth, rhoddwyd galwad i Mr. E. H. Smith, myfyriwr o New College, Llundain, yr hwn a urddwyd Awst 12fed, 1869. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. Halley, y Proffeswr Newth, o Lundain, Mr. J. O. Hill, o Henffordd, ac ereill. Hyderwn y bydd oes Mr. Smith yn faith, a'i lwyddiant yn fawr.

Yn y modd hwn yr ydym wedi olrhain hanes yr hen eglwys hon am gant a phedwar ugain mlynedd, a than ofal tri-ar-ddeg o weinidogion. Buasai yn ddymunol pe buasai rhywrai yn yr oesau a aethant heibio yn cofnodi y pethau mwyaf nodedig a ddigwyddasant yn nglyn a'r achos, ond nid ymddengys fod dim o'r fath beth wedi cael ei wneyd. Mae hen lyfr yr eglwys, yr hwn sydd yn awr yn meddiant y cofrestrydd cyffredinol yn Llundain, yn cynnwys ychydig ffeithiau y rhai a gopiwyd yn ofalus genym ychydig wythnosau yn ol. Trwy lawer o ymchwiliadau, yr ydym wedi Ilwyddo i ddyfod o hyd i amseriad dechreuad a diweddiad tymor gweinidogaeth pob un o'r gweinidogion, ond buasai yn ddymunol genym allu dyfod o hyd i lawer o bethau pwysig yn hanes yr achos, y rhai, mae yn debygol na ddaw neb byth o hyd iddynt. Mae yn ddiamheuol i'r eglwys hon, o bryd i bryd, gyfodi llawer o'i haelodau i fod yn bregethwyr a gweinidogion, ond yr ydym ni wedi methu dyfod o hyd i enwau a hanes mwy na dau o honynt.

George Frederick Ryan, D.D. Yn Abergavenny y ganwyd ef yn y flwyddyn 1790. Ei dad oedd Mr. George Ryan, yr hwn a urddwyd yn Minsterly, sir Amwythig, yn 1806, ac a fu am amryw flynyddau yn weinidog yno ac yn y Trallwm. Yr ydym yn lled dybio mai yn Abergavenny y dechreuodd yntau bregethu—yr un modd ei fab. Cafodd Dr. Ryan ei ddwyn i fyny yn Abergavenny, gyda pherthynas i'w fam. Ymunodd a'r eglwys yn Castle Street pan yn bedair-ar-ddeg oed, ac yn mhen dwy flynedd wedi hyny dechreuodd bregethu. Bu am tua dwy flynedd yn pregethu yn achlysurol yn ei fam eglwys a'r pentrefydd oddiamgylch. Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i oed, aeth i Groesoswallt i ysgol a gedwid yno gan Mr. Whitridge, gweinidog yr Annibynwyr, ac oddiyno aeth i athrofa Rotherham, lle y derbyniwyd ef yn y flwyddyn 1814. Bu yn weinidog yn olynol yn Bridlington, Stockport, Huddersfield, a Beverley. Perchid ef yn fawr yn mhob lle. Ysgrifenodd lyfr poblogaidd iawn o'r enw, "The Dialogist," yr hwn a gafodd gylchrediad helaeth iawn yn Lloegr ac America, ac a gyfieithwyd hefyd i'r Ellmynaeg. Cyhoeddodd hefyd amryw bregethau a mân draethodau. Bu Dr. Ryan farw o'r parlys, yn Dore, yn agos i Sheffield, Awst 19eg, 1865.

James Johns, B.A., Northwich, sir Gaerlleon. Ail fab yr enwog David Johns, Madagascar, yw Mr. Johns. O eglwys Castle Street, Abergavenny, yr anfonwyd yntau i'r athrofa.

Cynhaliwyd Cymanfa Dwyreiniol Deheudir Cymru, yn Abergavenny, Mehefin 29ain, 30ain, 1808. Clywsom amryw hen bobl yn adrodd am un peth a ddigwyddodd yn y Gymanfa hono nad yw mewn un wedd yn anrhydedd i goffadwriaeth Mr. W. Harries, y gweinidog. Yn yr oedfa ddeg o'r gloch, yr ail ddydd, yr oedd "Cloch Arian Cymru," sef yr hyawdl David Davies, Abertawy, yn pregethu oddiwrth Eph. ii. 4, 5. Yr oedd Sais wedi pregethu o'i flaen, a phan gododd ef i fyny, dechreuodd y cannoedd Cymry uniaith oedd wedi dyfod yno o Ferthyr, Pontypool, Penmain, &c., loni ac ymwasgu yn mlaen. Yn raddol twymai y pregethwr