a'r gwrandawyr. Gyda ei fod ef yn derchafu ei lais swynol treiglai miloedd o ddagrau dros ruddiau y dorf, a chlywid llawer amen doddedig yma a thraw dros y cae. O'r diwedd aeth y teimlad mor angerddol nes yr oedd y miloedd yn cael eu hysgwyd fel cae o wenith o flaen yr awel, a phawb yn disgwyl bob eiliad fod y floedd fawr anorchfygol ar dori allan. Pan oedd pawb agos wedi annghofio eu hunain, cododd Mr. Harries i fyny, a chyffyrddodd a braich y pregethwr, gan ddyweyd lle y clywai pawb, "Arafwch Syr, nid wyf yn ewyllysio i'm pobl i gael gweled annrhefn ac anweddeidd-dra." Mae yn hawddach dychymygu na darlunio beth allasai fod teimlad yr hen Gymry hwyliog ar y pryd at y brawd oerllyd, a allodd yn y modd diseremoni hyny, daflu dwfr ar y tân. Clywsom hyn yn cael ei adrodd ddeng mlynedd ar hugain yn ol, gan hen bobl eirwir oeddynt yn gweled ac yn clywed y cwbl.
COFNODION BYWGRAFFYDDOL.
ROGER GRIFFITHS. Mae amser a lle genedigaeth y gwr hwn yn anhysbys i ni. Yn 1690, 1691, a rhan o 1692, yr oedd yn fyfyriwr yn athrofa enwog Dr. Kerr, yn Highgate, gerllaw Llundain, ar draul y Bwrdd Henadurol a Chynnulleidfaol (canys yr oedd y ddau enwad y pryd hwnw heb ymwahanu yn ddau Fwrdd). Yn mysg ei gydfyfyrwyr yno yr oedd yr enwog Jabez Earl, (wedi hyny D.D.) a Charles Owen, (Dr. Charles Owen, wedi hyny o Warrington, mae yn lled sicr). Yn 1693, ac mae yn debygol yn 1694, yr oedd Roger Griffiths yn fyfyriwr yn mhrif athrofa Utretch, yn Holland. Ar draul y Bwrdd yn Llundain yr oedd yno hefyd. Hysbysir ni hefyd fod y Dr. Samuel Annesley, taid yr enwog John Wesley, wedi cyfranu rhyw gymaint at draul ei addysg tra y bu yn athrofa Dr. Kerr.[1] Mae yn debygol, fel y nodasom yn barod, mai yn y flwyddyn 1695 yr ymsefydlodd R. Griffiths yn Abergavenny, ac iddo ar ei sefydliad agoryd ei athrofa yno. Dywedir fod Thomas Perrot, Caerfyrddin, Samuel Jones, Tewksbury, ac amryw eraill, wedi cael rhan o'u haddysg yn ei athrofa ef, ac y mae yn ddigon tebygol, pe buasai yn parhau yn ffyddlon i egwyddorion Ymneillduaeth, y buasai yn ddefnyddiol iawn, ac yn gwneuthur iddo ei hun enw anfarwol, canys mae yn ymddangos ei fod yn ysgolhaig o'r radd uchaf. Ond wrth droi yn fradwr i'r achos, a'r bobl yr oedd yn ddyledus iddynt am ei addysg, diraddiodd ei hun, a disgynodd yn lled ieuangc i'r bedd yn eithaf dibarch. Dywed Dr. Calamy, yr hwn oedd yn gydfyfyriwr ag ef yn Utretch, iddo, ar ol ei ymadawiad a'r Ymneillduwyr, gael ei wneyd yn berson New Radnor, ac yn archddiacon Aberhonddu, ac iddo yn fuan wedi hyny farw yno yn druenus ac mewn dyled, heb ddyweyd dim yn ychwaneg.[2] Nid Roger Griffiths yw y diweddaf o fradychwyr Ymneillduaeth a derfynasant eu hoes yn ddinod, yn ddiddefnydd, ac yn ddibarch.
- ↑ Yr ydym yn ddyledus am y ffeithiau uchod, ynghyd a llawer o ffeithiau pwysig ereill, i'n cydwladwr caredig a dysgedig W. D. Jeremy, Esq., Barrister-at-Law, Lincoln's Inn, Llundain. Mae Mr. Jeremy trwy lafur diwyd, wedi casglu peth dirfawr o wybodaeth hanesyddol am hen weinidogion Ymneillduol Cymru o hen law ysgrifau, ac y mae yn wastad wedi dangos y parodrwydd mwyaf i'n cynnorthwyo ni yn ein hymchwiliadau. Derbynied ein diolchgarwch gwresocaf am ei garedigrwydd.
- ↑ Calamy's Account of the ejected Ministers, Vol. ii. pp. 734. Second Edition, 1713.