Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

THOMAS COLE. Ganwyd y gweinidog rhagorol hwn yn Ninas Caerloew, yn y flwyddyn 1679. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol ac yn Ymneillduwyr Puritanaidd. Anfonasant eu mab yn ieuangc iawn i athrofa oedd newydd gael ei hagoryd yn Nghaerodor, gan Mr. Isaac Noble a Mr. John Reynolds, dau weinidog Ymneillduol, gyda bwriad i'w ddwyn i fyny i'r weinidogaeth. Er ei fod yn llange o ymarweddiad gweddus tra y bu yn yr athrofa, etto yr oedd yn amddifad o lywodraeth crefydd ar ei enaid. Ar ol gorphen ei amser yn yr athrofa, dychwelodd adref, ac yn lle ymroddi i waith y weinidogaeth, aeth yn lled wyllt ac anystyriol. Pan glywodd Mr. Noble, un o'i athrawon, nad oedd wedi dechreu pregethu, ysgrifenodd lythyr difrifol ato, atebodd yntau ef, nas gallasai o gydwybod fyned i bregethu, gan nad oedd ganddo un sail i farnu ei fod yn ddyn duwiol. Bu yn y sefyllfa hono am flwyddyn neu ddwy.

Ond ryw ddiwrnod, pan yn eistedd yn y ty, a'i fam a dynes arall yn eistedd yn y pen arall i'r ystafell, yn ymddyddan ar ryw fater crefyddol, clywodd ryw ran o'r ymddyddan, yr hyn a effeithiodd gymaint ar ei feddwl fel y gorfu iddo fyned allan o'r ystafell, a myned i'w ystafell wely i weddio. O'r dydd hwnw allan daeth yn wr ieuangc difrifol iawn, ac ymgyssegrodd ar unwaith i waith y weinidogaeth. Yn 1703, fel y nodwyd, urddwyd ef yn Abergavenny, ac yn 1718, symudodd i Gaerloew, lle y treuliodd weddill ei oes yn llafurus a defnyddiol iawn. Byddai yn fynych yn myned allan i'r pentrefydd cylchynol i bregethu. Un prydnawn, pan oedd yn pregethu yn Nymphsfield, tarawyd ef gan angau ar ganol ei bregeth. Bu farw bore dranoeth, Awst 4ydd, 1742, yn y bedwaredd flwyddyn a thriugain o'i oed. Pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. Thomas Hall, o Lundain.[1]

DR. HUGH MAY. Mae hanes y gwr da hwn yn hollol anhysbys i ni. Tybiwn mai o herwydd ei fod wedi cael ei ddwyn i fyny yn feddyg y rhoddid y titl Doctor iddo.

FOWLER WALKER. Ychydig iawn o hanes Mr. Walker sydd yn hysbys i ni. Cafodd ei urddo yn Bridgenorth, sir Amwythig, a bu yno am ychydig flynyddau. Dywedir fod yr achos yn y lle hwnw yn isel iawn pan yr aeth yno, ond iddo trwy ei ddoniau poblogaidd a'i lafur dibaid ei gyfodi i sefyllfa lewyrchus cyn ei ymadawiad. Yn niwedd y flwyddyn 1723 symudodd i Abergavenny, lle yr arosodd hyd derfyn ei oes. Yn 1732 cyhoeddodd lyfr galluog ar Fedydd babanod. Gan ei fod yn barnu fod angen y llyfr ar y Cymry, yn gystal a'r Saeson, cafodd gan un o'i aelodau ei gyfieithu i'r Gymraeg o'i lawysgrif ef, a chyhoeddwyd ef yn y ddwy iaith, yn yr un flwyddyn. Dywedir fod gan Mr. Walker deulu lluosog, a'i fod pan yn teimlo fod ei farwolaeth yn agoshau, yn lled bryderus yn nghylch eu helynt ar ol ei ymadawiad ef. Byddai yn aml tua diwedd ei oes, yn ei weddiau cyhoeddus yn dymuno ar yr Arglwydd am sefyll o blaid y teuluoedd hyny oedd yn debyg o gael eu gadael mewn amgylchiadau anghenus. Gwrandawodd Duw ei weddiau, ar ol iddo farw, trwy gyfodi ei holl blant i amgylchiadau cysurus, a rhai o honynt i feddiant o lawer o gyfoeth. Bu farw, fel y crybwyllwyd, yn y flwyddyn 1751.[2]

  1. Walter Wilson's MSS.
  2. Walter Wilson's MSS. Hanes y Bedyddwyr gan J. Thomas, tudalen 240. Hanes Crefydd yn Nghymru gan D. Peter, tudalen 637.