DAVID JARDINE. Yr oedd efe yn fab i Mr. James Jardine, gweinidog yr eglwys Ymneillduol yn Ninbych, ac yno y ganwyd ef yn y flwyddyn 1732. Yr oedd ei fam yn ferch i'r enwog a'r dysgedig Thomas Baddy, o Ddinbych. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, ac fel y crybwyllwyd yn barod, urddwyd ef yn weinidog yr eglwys yn Abergavenny yn 1752, a dewiswyd ef yn athraw yr athrofa yn 1757. Llanwodd y ddwy swydd i foddlonrwydd cyffredinol. Ymddengys ei fod yn ddyn galluog a gweithgar iawn. Achwyna Mr. Phillip Dafydd ei fod yn lled anystwyth fel pregethwr yn yr iaith Gymraeg. Cafodd Mr. Jardine ei dori i lawr yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb. Bu farw ar ol cystudd byr iawn, Hydref 1af, 1766, yn bedair ar ddeg ar hugain oed. Ymadawodd ar byd mewn sefyllfa meddwl nodedig o ddedwydd, ac yn ol pob ymddangosiad mewn mwynhad helaeth o gymdeithas â'r Arglwydd. Un o'r ymadroddion diweddaf a ddaeth dros ei wefusau, ar ol gorphen gweddi daer, ydoedd, "Gad i mi orphwys fy mhen ar dy fynwes anwyl dros byth, O fy Iesu tirion, fy Ngwaredwr mawr." Pregethodd Dr. Davies ei bregeth angladdol oddiwrth Luc xxiii. 28. Cyfeiria Phillip Dafydd at ei farwolaeth yn ei ddyddlyfr, yn y geiriau canlynol: "Hydref, 1766. Ar y dydd cyntaf o'r mis hwn bu farw y Parchedig Mr. Jardine, o Abergavenny, yn mlodau ei ddyddiau, ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb, gan adael ar ei ol weddw alarus a dau blentyn ieuangc. Colled a bwlch mawr iawn. 'O Arglwydd Dduw, pwy a gyfyd Jacob canys bychan yw."" Merch Mr. Lewis Jones, o Benybontarogwy, oedd gwraig Mr. Jardine. Cyfododd ei ddau fab i sefyllfaoedd o urddas yn y byd hwn. Yr oedd yr hynaf, Dr. Lewis Jardine, yn feddyg enwog yn Nghaerodor am rai blynyddau, ac ymfudodd oddiyno i America, lle y terfynodd ei oes. Ei fab David, yr hwn a ddygesid i fyny i'r weinidogaeth, a ymwrthododd ag egwyddorion ei dadau, ac a gofleidiodd syniadau crefyddol Dr. Priestley. Pan yr oedd yn fyfyriwr yn Homerton dan ofal Dr. Davies, cyfaill mynwesol ei dad, deallwyd ei fod wedi llyngeu golygiadau Undodaidd, ac mewn canlyniad trowyd ef allan o'r athrofa, ond derbyniwyd ef i athrofa Daventry i orphen ei addysg. Urddwyd ef yn weinidog cynnulleidfa o Undodiaid yn Warwick. Symudodd yn fuan i Bath. Priododd ddynes gyfoethog iawn yno, ond ni chafodd ef fawr o fwynhad o'i chyfoeth, oblegid bu farw yn ddisymwth o'r Apoplexy, Mawrth 10fed, 1797, yn 31 oed. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau yn 1798, dan olygiad Mr. J. P. Estlin, o Gaerodor, y rhai a ddangosant yn eglur fod Mr. Jardine yn ddyn o alluoedd rhagorol.
BENJAMIN DAVIES, D.D. Mab ieuengaf Mr. Rees Davies, Canerw, Llanboidy, sir Gaerfyrddin, oedd Mr. Davies. Ganwyd ef yn 1739 neu 1740. Yr oedd ei dad yn dirfeddianydd cyfrifol, ac yn weinidog parchus gyda'r Annibynwyr, yn gyntaf yn y Drefach, ac wedi hyny yn Penygraig, gerllaw Caerfyrddin. Derbyniodd Benjamin Davies y rhan gyntaf o'i addysg mewn ysgol a gedwid gan y dysgedig Thomas Morgan, o Henllan, ac yn 1754 neu ddechreu 1755, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd bedair neu bum' mlynedd yn ddiwyd a llwyddianus fel myfyriwr. Ar derfyniad ei amser yn Nghaerfyrddin, aeth yn is-athraw i'r athrofa Annibynol yn Abergavenny, ac ar farwolaeth Mr. Jardine, yn 1766, penodwyd ef yn brif athraw, a'r flwyddyn ganlynol urddwyd ef yn weinidog ar yr eglwys. Yn niwedd 1781, rhoddodd y swyddau hyn i fyny ar ei symudiad i fod yn athraw yn ngholeg Homerton. Yn Chwefror, 1783, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Fetter Lane, Llundain, a