Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dechreuodd ei weinidogaeth yno ar y 24ain o Ebrill, yn yr un flwyddyn. Rhoddodd ei swydd i fyny fel athraw yn Homerton yn haf y flwyddyn 1787, o herwydd cystudd, ond parhaodd yn weinidog yn Fetter Lane hyd Gorphenaf 31ain, 1795, pryd y gorfodwyd ef gan gystudd i roddi ei swydd i fyny er mawr ofid i'r eglwys, lle yr oedd yn cael ei garu yn fawr. Yna symudodd o Lundain i Reading, lle y trigfanodd am dymor. Pregethai yno yn achlysurol, pan ganiatai ei iechyd iddo, er hyfrydwch nid bychan i Mr. Douglas a'i bobl. Symudodd oddiyno i Wells, lle y bu yn byw rai blynyddoedd gyda ei nith, merch ei frawd. Oddiyno drachefn symudodd i Bath, lle y treuliodd weddill ei oes yn ddedwydd iawn dan weinidogaeth felus Mr. Jay. Pregethai yn fynych yn lle Mr. Jay. Bu farw Gorphenaf 22ain, 1817, yn 78 oed. Pregethodd Mr. Jay ei bregeth angladdol Awst 3ydd, oddiwrth Ioan xi. 16; a phregethodd Mr. Burder, ei ganlyniedydd yn Fetter Lane, bregeth angladdol yno, Awst 10fed, oddi-wrth Psalm xxxvii. 34. Dywed Mr. Jay fel y canlyn am dano yn ei bregeth: "Cristion yw y ffurf uwchaf o ddyn, a gall pawb a'i hadwaenai ef, farnu mor deilwng ydoedd o'r enw Cristion. Nid oedd un amser yn an-mharod i ddyweyd ei brofiad. Yr oedd ei grefydd, nid yn unig yn ddidwyll, ond yn enwog; ofnai Dduw yn fwy na llawer. Yr oedd ei gymmeriad yn gyfan a chyson; yr un fath oedd ef yn ei deulu ag yn ei gylch swyddogol -Israeliad yn wir. Yr wyf fi yn ei gyfrif yn un o'r dynion mwyaf duwiolfrydig a adnabum erioed; yr oedd ganddo serch anghyffredin at dŷ Dduw; ac wedi iddo gael ei gyfyngu i'w dŷ gan fethiant, peth arferol fyddai ei weled ar foreuau y Sabbothau yn wylo o herwydd nas gallasai fyned i'r addoliad cyhoeddus. Ni byddai un amser yn y weddi deuluaidd yn oer neu ddideimlad. Mewn ymddyddanion ar faterion crefyddol yr oedd yn wastad yn gadarn dros ei farn ei hun, ond yn nodedig o hynaws a rhydd-frydig. O ran ei farn, Calfiniad cymhedrol ydoedd, ond ymgyfeillachai yn frawdol â Christionogion o wahanol syniadau.

Y tro cyntaf y gwelais i ein cyfaill anrhydeddus yn ei gystudd olaf, dywedodd, "Yr wyf yn myned. Yr wyf wedi darfod a'r byd, ac nid wyf yn anewyllysgar i ymadael o hono, canys mi a wn i ba le yr wyf yn myned; ac er nad wyf yn ddiamynedd i aros amser fy Arglwydd, 'y mae arnaf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw.' Wrth ymadael âg ef, i gychwyn i'm taith tua Llundain, dywedodd wrthyf, 'Nid wyf yn mwynhau perlewyglon, ond yr wyf yn mwynhau heddwch. Dichon y byddaf fi wedi myned cyn y dychwelwch chwi; peidiwch fy ngorganmol ar ol i mi farw; os byddwch yn dyweyd rhyw beth am danaf fi, na fydded na mwy na llai na hyn: i mi farw yn bechadur tlawd, edifeiriol wrth droed y Groes, gan dynu fy holl gysuron oddiwrth y Gwaredwr.'

Y tro cyntaf yr ymwelais âg ef, wedi iddo gael ei gyfyngu i'w wely, dywedais, 'Wel, fy hen gyfaill, pa fodd y mae gyda chwi?' Atebodd, 'Mi a wn pwy am hachubodd, ac a'm galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol fy ngweithredoedd i, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras. Yr wyf wedi bod yn chwilio natur fy sylfaen, ac y mae yn un lydan a chadarn. Yr wyf yn cael nas gellir ei siglo."

Dywed Mr. Jay, yn ei ddarluniad o hono fel pregethwr: "Yr oedd yn bregethwr da, ond yn ddiffygiol mewn gwreiddioldeb ac egluriadau byw-iog (illustrations); nid oedd ei ddull o draddodi ychwaith mor rymus ag i gymeryd llawn feddiant o sylw y gwrandawyr, nes cael y fath ddystawrwydd trwy y lle, fel na chlywid dim oddieithr disgyniad ambell ddeigryn. Yr