Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ei bregethau oll, pa fodd bynag, wedi eu cyfansoddi yn dda, yn llawn o synwyr, ac yn efengylaidd, canys yr oeddynt yn gyflawn o groes a gras y Gwaredwr, ac yn argymhell dyledswyddau Cristionogol oddiar gymhellion "efengylaidd." Arferai Dr. Davies ddyweyd am dano ei hun, fel pregethwr, nad oedd yn ei bregethau ddigon o sense i foddio dynion meddylgar, na digon o nonsense i foddio ffyliaid.

Bu yn briod dair gwaith, ond ni chafodd blant o un o'i wragedd. Miss Watkins, o Abergavenny, oedd ei wraig gyntaf. Claddodd hi yn lled fuan wedi iddo symud i Lundain, ac effeithiodd yr amgylchiad yn ddrwg iawn ar ei iechyd.

O herwydd ei wylder mawr, anfynych y cafwyd gan Dr. Davies gyhoeddi ei gyfansoddiadau, ond mae yr ychydig a gyhoeddodd yn werthfawr, ac yn deilwng o safle a dysg yr awdwr. Ei bregeth ar Dduwdod Crist, a'i atebiad i Dr. Priestley, yr hwn a elwir Primitive Candour, yw y ddau alluocaf o'r ychydig a gyhoeddodd.

JOHN GRIFFITHS. Yn nglyn â hanes Eglwys Penydref, Caernarfon, y daw ef dan ein sylw, am mai yno y terfynodd ei weinidogaeth.

EBENEZER SKEEL. Yr oedd Mr. Skeel (yn enedigol o sir Benfro, ac yn gefn-der i Mr. Thomas Skeel, gynt gweinidog Trefgarn. Mae yn debygol mai yn eglwys Trefgarn y dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i athrofa Croesos-wallt, Hydref 8fed, 1787, a chan iddo ddechreu ei weinidogaeth yn Aber-gavenny, Medi 17eg, 1790, ni bu ond prin dair blynedd yn yr athrofa. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny, fel y gwelsom, yn 1806, a threuliodd weddill ei oes i gadw ysgol yn y dref. Bu farw Gorphenaf 16eg, 1830, yn 65 oed, a chladdwyd ef yn y gladdfa berthynol i gapel Castle Street.

Cyn belled ag yr ydym ni wedi cael ar ddeall, nid oedd dim yn nodedig o ragorol na dim yn nodedig o wael yn Mr. Skeel fel pregethwr. Fel ysgolfeistr bu yn enwog iawn. Derbyniodd lluaws o blant masnachwyr ac amaethwyr, a rhai pregethwyr, addysg yn ei ysgol, ac y mae pawb fu dan ei ofal yn siarad yn uchel iawn am dano. Dywedir ei fod yn ddyn o ymddangosiad ac ymddygiad boneddigaidd dros ben.

WILLIAM HARRIES. Ganwyd ef mewn lle a elwir Trenichol, yn agos i Solfach, sir Benfro, yn mis Awst, 1754. Yr oedd yn un o chwech neu saith o blant. Derbyniodd addysg glasurol dda yn more ei oes yn yr ysgol Ramadegol yn Nhyddewi. Pan yn ddwy ar bymtheg oed, gwnaeth broffes gyhoeddus o grefydd, yn eglwys Trefgarn, mae yn lled sicr. Yn fuan ar ol hyny aeth i'r athrofa i Abergavenny. Yn 1779, derbyniodd alwad oddi-wrth yr eglwys Annibynol yn Stroud, sir Gaerloew, ac urddwyd ef yno yn mis Mawrth, 1780. Isel iawn oedd yr achos yn Stroud y pryd hwnw. Chwech ar hugain oedd rhif yr aelodau, sef chwech o ddynion, ac ugain o wragedd. Dechreuodd pethau wellhau yn fuan ar ol ei sefydliad ef yno, a chynyddodd yr eglwys yn raddol, nes yr oedd erbyn y flwyddyn 1800, yn gant a naw o rifedi. Yn nechreu y ganrif bresenol cyfododd rhyw annghydfod rhwng y gweinidog a rhai o'r aelodau, fel yr anafwyd ei ddefnyddioldeb a'i gysur ef i'r fath raddau, nes y barnodd mai doethineb fuasai iddo ymadael. Yn Tachwedd, 1806, symudodd i Abergavenny, lle y bu hyd Tachwedd, 1817, pryd y rhoddodd ei weinidogaeth i fyny. Y flwyddyn ganlynol, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Bruton, yn Ngwlad yr Haf. Bu yno am bum' mlynedd, ac yna bu raid iddo roddi ei swydd i fyny o herwydd colli ei olygon. Symudodd ef a'i deulu i Gaerodor yn 1823, lle yr arosodd, ac y bregethai yn achlysurol, hyd derfyn ei