oes. Traddododd ei bregeth olaf Tachwedd 7fed, 1830. Ei destyn oedd, Heb. ii. 3. Ar yr 21ain o'r un mis, aeth i'r capel yn ei iechyd arferol, ond yn mhen ychydig fynudau ar ol iddo eistedd, tra yr oedd y gynnulleidfa yn canu, crymodd ei ben a bu farw mewn eiliad.
Yr oedd Mr. Harries yn ddyn o uniondeb diwyrni, ac yn un o feddwl penderfynol iawn—efallai yn ormodol felly mewn rhai amgylchiadau; yn garedig a boneddigaidd iawn; yn ysgolhaig ardderchog, ac yn wr o wybodaeth tuhwnt i nemawr; ac uwchlaw y cwbl, yr oedd yn gristion didwyll. Cafodd deulu lluosog iawn. I ferch iddo, yr hon sydd yn byw yn Nghaerodor, yr ydym ni yn ddyledus am amryw o'r ffeithiau uchod.[1]
JAMES JAMES, a anwyd mewn amaethdy o'r enw Penyblaen, yn mhlwyf Aberedw, sir Faesyfed, Tachwedd 24ain, 1760. Ei dad oedd perchenog Penyblaen, a rhai tyddynod eraill. Yr oedd y teulu oll yn hollol ddigrefydd, ac yn ffyrnig o elynol i grefydd mewn unrhyw ffurf Ymneillduol. Parhaodd James, fel y lleill o'r teulu, yn anystyriol nes yr oedd yn ugain oed. Yna cafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd mewn ffordd anghyffredin iawn. Ryw brydnawn, wrth ddychwelyd adref o farchnad Llanfair-muallt, clywai lef yn gwaeddi "Tragywyddoldeb," yn yr iaith Saesonig, dair gwaith yn olynol. Edrychodd oddiamgylch, ond ni chanfyddodd un dyn yn agos i'r lle, ac ni chafodd byth allan fod yno neb. Effeithiodd y peth yn ddwys ofnadwy ar ei feddwl. Aeth adref ac i'w wely, lle y bu am rai dyddiau yn yr ing meddwl mwyaf dirdynol. Yn ei drallod anfonodd am un Mrs. Morgans, o'r Gelynen, gwraig grefyddol o'r gymydogaeth. Darfu i'w hymddyddanion hi ddofi ei loesion, trwy ei gyfarwyddo at Geidwad pechadur. Y dyddiau canlynol ymunodd a chymdeithas fechan o'r Trefnyddion Calfinaidd yn yr ardal. Darfu ei waith yn myned yn Fethodist gynhyrfu gelyniaeth ei dad tuag ato yn annghymodlon. Er mai efe, fel y mab hynaf, oedd yr etifedd yn ol y gyfraith, gwnaeth ei dad, er dial arno am fyned yn Fethodist, ei ewyllys ar y tiroedd i'w frawd ieuengach, a bu farw cyn pen tair blynedd ar ol ei gwneyd. Ond chwareuodd rhagluniaeth o blaid yr erlidiedig; yn mhen tair blynedd ar ol ei dad bu farw ei frawd, a daeth yr eiddo oll i'w feddiant ef. Pan yn ddwy ar hugain oed dechreuodd bregethu. Yn 1786 priododd ag un Miss Woodsuam, Tymawr, sir Drefaldwyn; dynes ieuangc grefyddol iawn. Wedi ymsefydlu yn gysurus yn y modd hwn, ymgyflwynodd yn llwyr i'r gwaith o bregethu. Teithiodd lawer trwy wahanol barthau y Deheudir, ac ymwelai yn achlysurol a rhanau o'r Gogledd. Cyrhaeddodd safle uchel iawn fel pregethwr poblogaidd, a chan ei fod wedi ei eni a'i fagu yn sir Faesyfed, wedi cael ysgol dda yn ei febyd, a threulio ychydig amser yn athrofa Iarlles Huntington, yn Nhrefecca, medrai bregethu yn yr iaith Saesonig yn llawn mor hyawdl ag yn y Gymraeg, yr hyn nas medrai un o bob cant o bregethwyr Cymru yn ei oes ef ei wneyd. Yn 1811, pan urddwyd y pregethwyr cyntaf yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd, yr oedd Mr. James, yn un o'r nifer. Tua yr amser hwnw symudodd i fyw i Drefecca, lle y trigfanodd am saith mlynedd. Yr oedd erbyn hyn wedi myned yn rhy dew a thrwm i deithio nemawr, ond arferai fyned yn lled fynych i Lun—dain, Plymouth, a manau eraill yn Lloegr, i bregethu i gynnulleidfaoedd Saesonig. Yn 1818, ymunodd a'r Annibynwyr, ac ymsefydlodd yn Abergavenny, yn weinidog yr eglwys yn Castle Street, lle llafuriodd
- ↑ Old Chapel Stroud' Church book.